Newyddion

Wales-Circuit-Breaker-Lockdown-Public-Transport-Information-Traveline-Cymru

Y sawl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu hannog i fynd i dudalen Traveline Cymru am y Coronafeirws i weld y newidiadau diweddaraf i wasanaethau yn ystod y cyfnod atal byr

22 Hydref 2020

Mae pobl ar draws Cymru yn cael eu hannog gan Traveline Cymru i fynd i’w dudalennau pwrpasol am y Coronafeirws ar y we i ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, cyn iddynt deithio yn ystod y cyfnod atal byr.

Dim ond teithiau hanfodol y bydd y rheolau, a fydd mewn grym o 6pm nos Wener 23 Hydref tan ddydd Llun 9 Tachwedd, yn eu caniatáu yn ystod y cyfnod o bythefnos. Bydd yn ofynnol i lawer o weithredwyr ledled Cymru leihau nifer eu gwasanaethau.

Mae teithiau hanfodol yn cynnwys teithiau er mwyn cyflawni cyfrifoldebau gofalu, teithiau at ddibenion gwaith os nad yw pobl yn gallu gweithio gartref, a theithiau os oes angen mofyn bwyd a chynnyrch meddygol hanfodol.

Mae gan Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus, dudalen bwrpasol am COVID-19 ar y we, a fydd yn cael ei diweddaru’n rheolaidd yn ystod y cyfnod atal byr, ynghyd â’i sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.

Ni fydd Cynlluniwr Taith ac Amserlenni Traveline Cymru yn cael eu diweddaru yn ystod y cyfnod dan sylw, oherwydd bydd y sefydliad yn canolbwyntio ar brosesu’r holl ddata am deithio a fydd yn angenrheidiol ar ôl y cyfnod atal byr fel bod pobl yn gallu cynllunio eu teithiau’n ôl yr arfer pan fydd y cyfnod o bythefnos wedi pasio.

Mae tudalennau pwrpasol Traveline Cymru am y Coronafeirws ar y we, sydd ar gael ar www.cymraeg.traveline.cymru/coronavirus, yn darparu’r cyngor diweddaraf am ddiogelwch ynghyd â gwybodaeth am y cyfnod atal byr ac am deithio, ac yn ateb cwestiynau hanfodol am deithio. At hynny, gall teithwyr ffonio rhif Rhadffôn y sefydliad, sef 0800 464 00 00, i gael gwybodaeth dros y ffôn bob dydd rhwng 7am ac 8pm.

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Pan fydd y cyfnod atal byr yn dod i rym ar 23 Hydref, bydd yn ofynnol i bobl aros gartref a theithio at ddibenion hanfodol yn unig. Hoffem annog y sawl y mae angen iddynt deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus at ddibenion hanfodol, er enghraifft er mwyn gweithio, i fynd i’n tudalennau pwrpasol ar y we i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am deithio, oherwydd bod llawer o wasanaethau’n cael eu haddasu.
 
“Byddwn yn diweddaru’n rheolaidd yr holl wybodaeth am deithio sydd ar ein tudalennau ar y we a’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol fel bod teithwyr yn hollol ymwybodol o unrhyw newidiadau.
 
“Yn ystod y cyfnod atal o bythefnos, bydd ein timau’n gweithio yn ddiflino i brosesu’r holl ddata am deithio sy’n ofynnol ar gyfer ein Cynlluniwr Taith, fel bod pobl yn gallu cynllunio eu teithiau’n ôl yr arfer pan fydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau.
 
“Unwaith eto, hoffem bwysleisio mai dim ond at ddibenion hanfodol y bydd pobl yn cael teithio ac, os oes angen i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, y dylech fynd i’n tudalennau pwrpasol ar y we.”

Mae Traveline Cymru, sy’n rhan o sefydliad ymbarél o’r enw PTI Cymru, yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru.

Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog.    

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon