Newyddion

Transport-For-Wales-Conwy-Council-Launch-Fflecsi-Service-Traveline-Cymru

Gwasanaeth bws Fflecsi Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dechrau yn Nyffryn Conwy

09 Tachwedd 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ati i ehangu gwasanaeth bws fflecsi i ran arall o Gymru.

Mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru a Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei lansio’n swyddogol heddiw yn Nyffryn Conwy.

Mae fflecsi yn wasanaeth bws sydd â lleoliad cychwyn a gorffen penodol, sy’n gallu addasu ei lwybr i gasglu a gollwng teithwyr unrhyw le o fewn yr ardal fflecsi honno.      

Yn hytrach na bod teithwyr yn aros i’r bws gyrraedd mewn safle bysiau, gallant archebu taith ymlaen llaw gan ddefnyddio ap newydd, gwefan fflecsi neu drwy ffonio 0300 234 0300. Bydd y teithwyr yn cael gwybod ymhle byddant yn dal y bws a faint o’r gloch y bydd yn cyrraedd – bydd y pwynt casglu yn agos at leoliad y teithiwr.   

Drwy’r system archebu a reolir, bydd fflecsi hefyd yn sicrhau bod pob teithiwr yn cael sicrwydd o sedd a fydd wedyn yn helpu i gadw at fesurau pellter cymdeithasol. Mae diogelwch cwsmeriaid a chydweithwyr yn flaenoriaeth i TrC ac mae’r gwasanaeth newydd hwn yn sicrhau diogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus.     

Mae’r gwasanaeth yn disodli gwasanaethau 42, 68 a 70 yn y dyffryn, a rhan fwyaf o wasanaeth 19.

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: 

“Mae fflecsi yn ffordd o drefnu ein system drafnidiaeth yn wahanol, gan roi mwy o reolaeth i deithwyr dros sut byddant yn teithio.  

“Yn ôl yr adborth cychwynnol, mae’r math yma o wasanaethau yn boblogaidd. Byddwn yn parhau i ddysgu o brofiadau mewn rhannau eraill o Gymru i greu opsiynau effeithlon a chyfleus fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus integredig.” 

Meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: 

“Mae fflecsi yn dreial cyffrous iawn i ni wrth i ni barhau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae pandemig Covid-19 wedi effeithio’n uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, wrth i ni symud ymlaen, diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth bennaf o hyd. 

“Mae’r cynllun peilot newydd hwn yn rhoi’r cyfle i ni edrych ar ffordd newydd o ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus o dan yr amgylchiadau sydd ohoni.  

“Rydyn ni nawr yn cynnal cynlluniau peilot ledled Cymru ac mae’n wych gweld bod y cynllun yn cael ei ehangu i Ddyffryn Conwy.” 

Meddai’r Cyngh Greg Robbins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,

“Rydym yn falch iawn o allu gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar y gwasanaeth fflecsi newydd yn Nyffryn Conwy. Mae’r bysiau yn newydd sbon a bydd y gwasanaeth yn galluogi pobl yr ardal i deithio mewn ffordd fwy cyfleus, yn cynnwys teithio i siopa neu i weld y meddyg.”

I gael rhagor o wybodaeth, yn cynnwys manylion y gwasanaethau a sut i archebu sedd, ewch i: www.fflecsi.cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon