Newyddion

Nextbike-Launches-New-Electric-Bikes-In-Penarth-Wales-Traveline-Cymru

Nextbike yn lansio’r cynllun beiciau trydan cyntaf yng Nghymru ym Mhenarth

13 Tachwedd 2020

Ar 12 Tachwedd cyrhaeddodd y cyntaf o 50 o feiciau trydan nextbike Benarth, gan nodi dechrau cynllun beiciau trydan cyntaf y cwmni yng Nghymru.

Wyddech chi y gallwch ddefnyddio gwefan ac ap Traveline Cymru i ddod o hyd i’ch gorsaf nextbike agosaf (gan gynnwys y gorsafoedd newydd ym Mhenarth!) a gweld faint o feiciau sydd ar gael? Chwiliwch am eicon nextbike wrth ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith a’n Chwiliwr Arosfannau Bysiau i chwilio am wybodaeth ar gyfer Caerdydd, Abertawe a Phenarth.

 

Mae’r beiciau, sy’n symud gyda chymorth motor, ar gael mewn pum “gorsaf drydan” ar draws Penarth (Y Rhodfa Lan Môr, Bae Caerdydd, Gorsaf Reilffordd Penarth, Arcêd Windsor ac Ysbyty Athrofaol Llandochau) ac maent yn gallu teithio ar gyflymder o hyd at 15 milltir yr awr.

Mae motor trydan y beiciau, sy’n dechrau gweithio pan fydd beicwyr yn dechrau pedlo, yn cael ei wefru tra bydd y beiciau wedi’u parcio yn y “gorsafoedd trydan”. Mae defnyddwyr yn datgloi’r beiciau gan ddefnyddio ap nextbike i sganio’r côd QR sydd ar y beic.

Mae’r beiciau trydan yn costio £2 am bob 30 munud neu £30 am 24 awr i’r rhai nad ydynt yn aelodau, neu £1 am bob 30 munud neu £20 am 24 awr i’r sawl sy’n aelodau. Mae’n costio £10 i ymaelodi am fis neu £60 i ymaelodi am flwyddyn.

Bydd unrhyw un sy’n ceisio dychwelyd beic trydan i unrhyw le heblaw gorsaf drydan yn cael dirwy o £20. Mae nextbike yn olrhain lleoliad ei feiciau trydan yn barhaus ac yn dweud nad oes modd i ddefnyddwyr storio’r beiciau mewn mannau preifat.

Mae nextbike yn cadw’r hawl i godi hyd at £200 am ddifrod i feiciau cyffredin a £500 am ddifrod i feiciau trydan. Mae hynny’n cynnwys difrod sydd wedi digwydd i feiciau oherwydd na chawsant eu dychwelyd yn y modd priodol.

Bu Peter King, un o Gynghorwyr Bro Morgannwg a’r Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, yn lansio’r beiciau wrth yr orsaf drydan y tu allan i Arcêd Windsor.

"Rwy’n credu eu bod nhw’n ddewis da yn lle defnyddio’r car. Gan fod cymaint o riwiau ym Mhenarth a bod rhai ohonom yn llai heini nag y buom, bydd ychydig o gymorth trydanol yn ddefnyddiol iawn," meddai wrth Nub News.

"Defnyddiais feic trydan mewn seminar fasnach ryw flwyddyn yn ôl, a helpodd hynny i’m darbwyllo i a rhai o swyddogion eraill y Fro bod hwn yn rhywbeth y dylem ei ystyried ymhellach.

"Gwnaeth y cynllun argraff dda arnom yn syth. Ein gobaith yw ei gyflwyno yn ehangach ar draws y Fro. Os yw’n llwyddiannus ym Mhenarth, gobeithio y bydd yn ehangu."

Cafwyd y datganiad ysgrifenedig canlynol gan lefarydd ar ran nextbike:

"Mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn lansio nextbike ym Mhenarth yr wythnos hon, sef ein cynllun beiciau trydan cyntaf yng Nghymru. Diolch i Gyngor Bro Morgannwg am gefnogi’r gymuned trwy sicrhau bod modd cyflwyno’r system hon!

"Er bod hwn yn gyfnod anodd iawn i lansio cynllun newydd, rydym wedi bod yn trafod yn fanwl â Chyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru ac wedi cytuno bod y system yn bwysig i les y gymuned a’i bod yn darparu dull arall o gyflawni teithiau hanfodol ym Mhenarth.

"Gan ddechrau ddydd Iau 12 Tachwedd, byddwn yn cyflwyno 50 o feiciau trydan a 5 gorsaf drydan.

"Dyma gam cyntaf cynllun trydan rhanbarthol sy’n cynnwys Penarth a Chaerdydd. Bydd y cynlluniau ar gyfer Caerdydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd sydd i ddod."

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Penarth News Hub

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon