Newyddion

New-Director-For-Wales-Community-Transport-Association-Traveline-Cymru

Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn penodi Rachel Burr yn Gyfarwyddwr newydd i Gymru

23 Tachwedd 2020

Mae’n bleser gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol gyhoeddi bod Rachel Burr wedi’i phenodi yn Gyfarwyddwr newydd i Gymru.

Mae Rachel, sy’n byw ym Mhorthcawl, yn ymuno â’r Gymdeithas o’i rôl fel Rheolwr Ymgyrchoedd Cymru gyda’r Ymddiriedolaeth Gŵn. Mae wedi bod yn gweithio yn y sector elusennau ers dros 14 blynedd mewn amrywiaeth o rolau a oedd yn ceisio creu newid a chynorthwyo cymunedau. Yn ystod ei chyfnod yn gweithio i Brake, yr elusen diogelwch ar y ffyrdd, bu’n ymgyrchu dros opsiynau gwell a mwy hygyrch o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Bu hefyd yn arwain gwaith dylanwadu cenedlaethol mewn ystod o feysydd polisi cymdeithasol i Gyngor ar Bopeth, ac yn fwyaf diweddar bu’n arwain tîm ymgyrchoedd Cymru gyda’r Ymddiriedolaeth Gŵn.

“Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfle i arwain gwaith y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru,” meddai Rachel. “Rwy’n dod o ardal wledig ac rwy’n gwybod o brofiad sut y mae cysylltiadau gwael o ran trafnidiaeth yn cyfyngu ar gyfleoedd cymdeithasol a chyfleoedd o ran cyflogaeth i bobl nad oes ganddynt gar. Rwyf bob amser wedi edmygu’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i ddarparu gwasanaeth mor bwysig i gymunedau trwy gludiant cymunedol.

“Mae cyfleoedd i wneud gwahaniaeth yn fy nghymell, ac rwy’n credu bod aelodau’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau’r sawl y maent yn eu cynorthwyo. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda thîm y Gymdeithas Cludiant Cymunedol a’n haelodau er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith hollbwysig hwn a chodi ymwybyddiaeth ohono.”

Meddai Bill Freeman, Prif Weithredwr y Gymdeithas, wrth gyfeirio at benodiad Rachel:

“Mae’n bleser mawr cael croesawu Rachel i’r tîm. Rydym yn falch o’r gwahaniaeth y mae ein haelodau yng Nghymru yn ei wneud i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ac roeddem yn falch o weld pwyslais mor gryf ar gludiant cymunedol yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch ei strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru. Bydd profiad helaeth Rachel o arwain gweithgareddau polisi ac ymgyrchoedd o fantais fawr i’n gwaith yng Nghymru wrth i ni barhau i hyrwyddo manteision gwasanaethau trafnidiaeth sydd wedi’u gwreiddio yn yr ardal leol ac sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned, ac wrth i ni ddadlau’r achos dros gynyddu’r gefnogaeth i’r gwasanaethau hynny a’r buddsoddiad a wneir ynddynt.”

Bydd Rachel yn dechrau yn ei swydd ar 7 Rhagfyr.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon