Newyddion

Nextbike-Half-Price-Annual-Membership-For-Charity-Campaign-Fareshare-Traveline-Cymru

Nextbike yn cynnig bwyd a bargen dros gyfnod yr ŵyl gydag ymgyrch i gefnogi’r elusen fwyd FareShare

01 Rhagfyr 2020

Mae nextbike, y cwmni blaenllaw rhannu beiciau, yn gobeithio rhoi 6,000 o brydau bwyd yn rhan o gynnig arbennig ar gyfer mis Rhagfyr, wrth iddo lansio ymgyrch elusennol nodedig dros gyfnod yr ŵyl.

Yn ystod mis Rhagfyr, bydd nextbike yn cynnig cyfle i’r cyhoedd brynu aelodaeth flynyddol am hanner y pris arferol, sy’n golygu y bydd blwyddyn o feicio yn costio £30 yn unig yn lle £60.

Ac am bob aelodaeth flynyddol a gaiff ei phrynu ym mis Rhagfyr, bydd nextbike yn rhoi £15 i’r elusen fwyd FareShare, a fydd yn galluogi’r elusen i ddosbarthu hyd at 60 yn rhagor o brydau bwyd i deuluoedd a fydd mewn angen dros gyfnod y Nadolig. Elusen FareShare, sydd bellach yn enwog wedi i bêl-droediwr rhyngwladol Lloegr Marcus Rashford ei chefnogi, yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n ailddosbarthu bwyd ac mae ganddi dros 30 o warysau ar draws y wlad.

Mae’r elusen yn mynd â bwyd dros ben sydd o ansawdd da, nad oes modd ei werthu mewn siopau oherwydd camgymeriadau wrth ei becynnu, oherwydd ei fod ar fin cyrraedd y dyddiad olaf ar gyfer ei werthu neu oherwydd bod gormod ohono wedi’i gynhyrchu, ac yn ei ailddosbarthu i 11,000 o elusennau a grwpiau cymunedol sy’n gweithio yn y rheng flaen, gan gynnwys banciau bwyd, hosteli pobl ddigartref a chlybiau brecwast mewn ysgolion.

 
Mae Krysia Solheim, rheolwr gyfarwyddwr nextbike UK, yn gobeithio y bydd pobl yn barod i gefnogi’r ymgyrch.

“Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd, a dweud y lleiaf, ac rydym yn gwybod bod llawer o deuluoedd mewn angen am amryw resymau,” meddai Ms Solheim.

“Er ei bod yn gyfnod anodd, yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg yw’r ymdeimlad o gymuned a chyfrifoldeb sy’n bodoli yn y DU. Ni ddylai neb yn ein cymdeithas orfod mynd heb fwyd, a phan dynnodd Marcus Rashford sylw at sefyllfa’r miloedd o blant ysgol sy’n wynebu tlodi bwyd, roeddem yn gwybod ein bod am wneud rhywbeth i helpu.

“Gyda gostyngiad o 50 y cant oddi ar bris ein haelodaeth flynyddol, gall pobl gael bargen iddyn nhw eu hunain a theimlo’n dda ar yr un pryd o wybod eu bod hefyd wedi prynu prydau bwyd i 60 o bobl a fydd mewn angen dros gyfnod y Nadolig. Rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu darparu o leiaf 6,000 o brydau bwyd erbyn diwedd y flwyddyn.”

Ers lansio’r cynllun yn y DU yn 2014, mae beiciau nextbike wedi cael eu llogi 2.65 miliwn o weithiau ac wedi teithio dros 5 miliwn o gilomedrau. Mae hynny wedi helpu i osgoi cynhyrchu dros 99,000 o dunelli o allyriadau CO2.

 
Meddai James Persad, Pennaeth Marchnata FareShare:

“Mae’r galw am fwyd wedi bod yn ddigynsail eleni, ac yn ôl yr 11,000 o elusennau a grwpiau cymunedol yr ydym yn eu cynorthwyo mae’r galw dros y Nadolig yn debygol o fod yn fwy fyth. Dyna pam y mae FareShare yn hynod o ddiolchgar i nextbike a’i gwsmeriaid am gefnogi ein hymdrechion i sicrhau bod bwyd dros ben yn cyrraedd y sawl y mae arnynt ei angen fwyaf.

“Rydym yn sylweddoli nad yw bwyd dros ben yn ateb sydyn a fydd yn trechu tlodi bwyd, ond bob blwyddyn ledled y DU mae 8 miliwn o bobl yn mynd heb fwyd tra caiff digon o fwyd i baratoi mwy na biliwn o brydau ei daflu i ffwrdd cyn iddo hyd yn oed gyrraedd ein cartrefi. Rhaid nad yw hynny’n iawn.”

 

I gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch i www.nextbike.co.uk/en/nextbikeforcharity

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon