Newyddion

student-coronavirus-christmas-travel-guidance-transport-for-wales-traveline-cymru

Canllawiau i fyfyrwyr prifysgol sy’n teithio adref ar gyfer y Nadolig

01 Rhagfyr 2020

Gofynnir i fyfyrwyr yng Nghymru sy’n dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig deithio rhwng 3 Rhagfyr a 9 Rhagfyr fan bellaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddant yn cael cynnig profion newydd â chanlyniadau cyflym 24 awr cyn ymadael. Caniateir i fyfyrwyr deithio adref ar ôl 9 Rhagfyr os oes angen iddynt hunanynysu ar ôl cael canlyniad positif.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn cyhoeddiad tebyg yn Lloegr lle bydd dyddiadau ymadael yn cael eu pennu ar gyfer myfyrwyr yn ystod "ffenestr deithio i fyfyrwyr" rhwng 3 Rhagfyr a 9 Rhagfyr, er mwyn lleihau’r risg y gallent ledaenu Covid-19.

 

Os ydych yn fyfyriwr mewn prifysgol yng Nghymru ac os ydych yn bwriadu teithio adref ar gyfer y gwyliau, gofynnir i chi:

  • Leihau eich cysylltiadau cymdeithasol gymaint ag sy’n bosibl cyn diwedd y tymor
  • Cael prawf cyn teithio; gorauoll os caiff ei gynnal yn ystod y 24 awrcyn i chideithio
  • Cynllunio i deithioerbyn 9 Rhagfyrfanbellaf
  • Ymgyfarwyddo â chynlluniau’r brifysgol ar gyfer gorffen addysgu wyneb yn wyneb a’r trefniadau ar gyfer sicrhau eich bod yn gallu gadael y campws yn ddiogel
  • Cynllunio eich taith mor bell ag sy’n bosibl ymlaen llaw, a fydd yn cynnwys archebu eich tocyn a chadw sedd (os yw hynny’n bosibl)
  • Osgoi teithio yn ystod cyfnodau prysur
  • Caniatáu digon o amser ar gyfer eich taith, yn enwedig os byddwch yn teithio ar fws neu mewn car, oherwydd mae’n debygol y bydd y ffyrdd yn fwy prysur nag arfer
  • Dilyn holl ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ynghylch teithio yn ystod y pandemig Covid-19, sy’n cynnwys y rheidrwydd i wisgo gorchudd wyneb a chadw pellter cymdeithasol diogel.

 

Dolenni cyswllt a gwybodaeth ddefnyddiol:

  • Os oes angen unrhyw help arnoch i gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae croeso i chi ffonio ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 00 00.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi creu adnodd Asesu Risg y gall myfyrwyr ei ddefnyddio er mwyn deall sut y gall y dewisiadau a wnewch yn ystod yr wythnosau nesaf effeithio ar y risg y gallech ddal a lledu’r feirws. Mae’n rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol ynghylch y ffordd orau o’ch diogelu eich hun a diogelu pobl eraill.
  • Erbyn hyn, gall myfyrwyr a brynodd docyn ‘Advance’ cyn 11 Tachwedd (2020) er mwyn teithio rywbryd ar ôl 9 Rhagfyr newid eu tocynnau ‘Advance’ er mwyn teithio yn ystod y ffenestr i fyfyrwyr, heb fod yn rhaid talu ffi o hyd at £10 am wneud hynny. Mae’n bosibl eisoes i docynnau hyblyg megis tocynnau ‘Off Peak’ neu ‘Anytime’ gael eu symud i ddyddiad arall heb fod yn rhaid talu ffi weinyddu.
  • Trafnidiaeth Cymru: Mae Trafnidiaeth Cymru wedi llunio rhestr ddefnyddiol o gwestiynau cyffredin er mwyn helpu myfyrwyr i deithio adref yn ddiogel ar ei wasanaethau ar ddiwedd tymor y gaeaf. I helpu i gadw myfyrwyr a theithwyr eraill yn ddiogel, mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i fyfyrwyr gynllunio eu teithiau ymlaen llaw er mwyn osgoi unrhyw oedi ac unrhyw achosion lle gallai trenau fod yn rhy llawn. Gallwch hefyd ddefnyddio gwiriwr capasiti Trafnidiaeth Cymru i weld pa mor brysur y mae eich gwasanaeth yn debygol o fod.
  • National Rail: Gall myfyrwyr gofrestru gyda gwasanaeth “Alert Me by Messenger” National Rail er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu taith , a fydd wedi’i theilwra ar eu cyfer.
  • Trainline: Bydd defnyddio ap Trainline yn eich galluogi i ddefnyddio’r nodwedd ‘Crowd Alerts’ a chael gwybodaeth amser real am drenau fel eich bod yn gwybod beth sy’n digwydd wrth i chi deithio. At hynny, gallwch brynu tocyn digidol fel na fydd yn rhaid i chi gyffwrdd â pheiriant na phapur.
Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon