Newyddion

Sign-Up-To-The-Traveline-Cymru-Customer-Panel

Hoffech chi fod yn rhan o Banel Cwsmeriaid Traveline Cymru?

04 Rhagfyr 2020

Yn Traveline Cymru, mae ein cwsmeriaid yn flaenllaw ym mhob peth a wnawn, o’r modd y mae ein gwefan yn edrych ac yn teimlo i’r modd y mae ein ap yn gweithredu ac y caiff datblygiadau technolegol newydd o fewn ein gwasanaethau eu rhoi ar waith. Rydym am i bob agwedd ar y gwasanaeth a ddarperir gennym ddiwallu anghenion ein hamrywiaeth eang o gwsmeriaid yn y ffordd orau posibl.

Gyda hynny mewn golwg, yn ôl yn 2018, sefydlwyd ein Panel Cwsmeriaid. Mae aelodau ein panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhanbarth yng Nghymru, ac maent yn derbyn arolygon ar-lein yn rheolaidd ac yn cymryd rhan mewn ymgyngoriadau ynghylch newidiadau posibl i wasanaethau Traveline Cymru. Pan fydd yr holl adborth gan ein panel wedi’i gasglu, caiff ei ddefnyddio’n rhan o’r broses ddatblygu a gweithredu yn nhîm Traveline Cymru. Yn y gorffennol, mae nifer o gysyniadau a newidiadau wedi’u cyflwyno i’r Panel Cwsmeriaid, gan gynnwys y canlynol:

  • Gwelliannau i Gynlluniwr Beicio Traveline Cymru – erbyn hyn mae’r adnodd hwn yn cynnwys gwybodaeth am fannau peryglus ar lwybrau, megis croesfannau a goleuadau traffig; uchder y tir ar hyd llwybr; rhagolygon ynghylch lefelau’r traffig; a chyfleuster cyfrifo CO2 er mwyn helpu beicwyr i gynllunio eu taith a bod yn fwy diogel ar y ffyrdd.
  • Gwella’r modd y mae ein tudalen Amserlenni yn edrych ac yn teimlo – gwnaethom ddiweddaru ein tudalen Amserlenni yn ddiweddar er mwyn ei gwneud yn haws fyth i gwsmeriaid ei defnyddio, drwy wella nodwedd sgrolio’r amserlenni eu hunain, ei gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i broblemau teithio ac amserlenni ar ffurf ffeiliau PDF, a gwneud y tabiau dewis diwrnod yn fwy amlwg.
  • Rhoi gwybod i gwsmeriaid am broblemau trafnidiaeth oherwydd y pandemig Covid-19 – er i ni orfod ymateb yn sydyn i’r pandemig Covid-19, roeddem hefyd am wneud yn siŵr bod newidiadau i amserlenni (oherwydd y pandemig) yn cael eu rhannu mor effeithiol ag sy’n bosibl â chwsmeriaid.
  • Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu Adnodd Prisiau Tocynnau (lle gall cwsmeriaid ddod o hyd i’r tocyn sy’n cynnig y gwerth gorau am arian ar gyfer eu teithiau ar fysiau) a Gwiriwr Capasiti (i weld pa mor llawn yw eich bws) a chafodd aelodau ein panel gyfle i adolygu’r ddau ddatblygiad hyn a chynnig adborth yn eu cylch.

Mae awgrymiadau gan aelodau ein panel wedi dylanwadu ar yr holl ddatblygiadau hyn (a llawer o ddatblygiadau eraill!). Rydym am sicrhau mai ein Panel Cwsmeriaid ni yw’r panel mwyaf sefydlog a dibynadwy sydd i’w gael yn y diwydiant, felly rydym yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn dweud eu dweud am y modd yr ydym yn darparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i ymuno â ni.

Nid yw cofrestru’n aelod o’r Panel Cwsmeriaid yn golygu bod yn rhaid i chi ymateb i’n negeseuon i gyd. Gallwch ymateb i faint bynnag ohonynt a fynnwch, ond po fwyaf o’ch safbwyntiau y gallwn eu casglu, y llawnaf fydd y darlun y gallwn ei greu.

Os hoffech ymuno â’n panel, ewch ati i gofrestru ar dudalen y Panel Cwsmeriaid ar y we.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon