Newyddion

Christmas-And-New-Year-Bus-And-Rail-Travel-Information-Wales-Traveline-Cymru

Ble mae dod o hyd i wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus os byddwch yn teithio dros yr ŵyl

14 Rhagfyr 2020

Caiff y sawl a fydd yn teithio dros yr ŵyl ac sy’n bwriadu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd eu cynghori i gadw golwg ar newidiadau munud olaf i wasanaethau oherwydd y pandemig COVID-19. 

Mae Traveline Cymru yn annog aelodau’r cyhoedd i ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar ei dudalen bwrpasol ‘Gwybodaeth am deithio dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd’.

Bydd gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus yn diweddaru ei dudalen a’i sianelau ar gyfryngau cymdeithasol ag unrhyw newidiadau i wasanaethau wrth iddynt ddod i law. Gallai amserlenni gael eu newid ar fyr rybudd, felly caiff cwsmeriaid eu hannog i ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf cyn ac ar ddiwrnod eu taith. Ni all Traveline Cymru warantu y bydd ei Gynlluniwr Taith a’i dudalen Amserlenni wedi’u diweddaru mewn pryd i adlewyrchu newidiadau i wasanaethau dros yr ŵyl.

At hynny, mae Traveline Cymru yn annog aelodau’r cyhoedd i gofio glynu wrth ganllawiau presennol Llywodraeth Cymru ynghylch COVID-19 wrth gynllunio i deithio.

Mae hynny’n cynnwys hunanynysu os ydych yn dangos symptomau, cyfyngu ar ba mor aml yr ydych yn gadael eich cartref a pha mor bell yr ydych yn teithio, dilyn y canllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol, a dilyn cyngor ynghylch hylendid.
Bydd rhai gweithredwyr yn dod â’u gwasanaethau i ben yn gynnar ar Noswyl Nadolig, Nos Galan a diwrnodau eraill dros yr ŵyl.

Yn benodol, ni fydd gwasanaethau bws yn gweithredu ar Ddydd Nadolig, a bydd nifer fach ohonynt yn gweithredu gwasanaeth cyfyngedig ar Ŵyl San Steffan. Ni fydd gwasanaethau trên yn gweithredu o gwbl ar Ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan.

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i feddwl yn ofalus am eu teithiau dros y Nadolig eleni yng ngoleuni’r pandemig COVID-19 sy’n parhau, ond rydym hefyd yn sylweddoli y bydd angen i lawer o bobl deithio. Mae’n bwysig cofio, felly, y gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu newid ar fyr rybudd yn ystod y cyfnod hwn.

“Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, hoffem annog aelodau’r cyhoedd i ystyried yn ofalus ble y byddant yn mynd a phwy y byddant yn cwrdd â nhw, er mwyn lleihau’r siawns y gallent ddal a lledaenu’r Coronafeirws. Mae gennym nifer o ffyrdd y gall pobl gael gafael ar wybodaeth am deithio ac am COVID-19 – trwy dudalennau pwrpasol ar ein gwefan ddwyieithog, drwy ein rhif Rhadffôn a thrwy ein gwasanaethau ar gyfer dyfeisiau symudol – er mwyn galluogi pawb yng Nghymru i deithio yn y modd mwyaf diogel posibl dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.”

Gall cwsmeriaid gynllunio eu teithiau drwy fynd i’r wefan ddwyieithog neu drwy ddefnyddio’r ap ar gyfer dyfeisiau symudol, y gwasanaeth negeseuon testun neu’r sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.

Fel arall, gall cwsmeriaid ddefnyddio’r rhif Rhadffôn 0800 464 0000 i ffonio llinell Traveline Cymru ar gyfer gwasanaeth i gwsmeriaid, a fydd ar gael bob dydd dros gyfnod yr ŵyl ar wahân i Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan.

Mae Traveline Cymru, sy’n rhan o’r sefydliad ymbarél PTI Cymru, yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog.    

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Hannah Young yn jamjar drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio hannah@jamjar.agency

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon