Newyddion

Transport-for-Wales-Reinforce-Welsh-Government-Essential-Travel-Only-Restrictions

Trafnidiaeth Cymru yn pwysleisio neges teithiau hanfodol yn unig

22 Rhagfyr 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru’n pwysleisio neges Llywodraeth Cymru gan erfyn ar bobl i wneud teithiau hanfodol yn unig tra mae cyfyngiadau rhybudd lefel pedwar ar waith.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru fesurau aros gartref o hanner nos ddydd Sul (20 Rhagfyr) ac yn ystod y cyfnod hwn ni all pobl deithio oni bai bod eu siwrne yn un hanfodol.   

Mae hyn yn cynnwys rhesymau fel mynd i’r gwaith pan nad yw’n bosib gweithio gartref, addysg, siopa hanfodol neu anghenion meddygol, neu i ddarparu gofal i unigolyn agored i niwed.  

Bydd cyfyngiadau sy’n ymwneud â theithio yn cael eu dileu ar Ddiwrnod Nadolig ond mae Trafnidiaeth Cymru’n atgoffa cwsmeriaid nad oes unrhyw wasanaethau trên ar 25 a 26 Rhagfyr, fel sy’n safonol ar draws y diwydiant bob blwyddyn.

Meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw prif flaenoriaeth Trafnidiaeth Cymru ac rydyn ni’n gwbl gefnogol o Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw symud i rybudd lefel pedwar er mwyn helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws.  

“Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau, bydd trafnidiaeth gyhoeddus ar gael ar gyfer teithiau hanfodol yn unig a byddwn yn cynnig llai o wasanaethau.

“I’r rheini sydd angen gwneud teithiau hanfodol, mae’n hanfodol bod cwsmeriaid yn cynllunio ymlaen llaw ac yn gwirio’r amserlen am unrhyw newidiadau.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon