Newyddion

Aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i ‘aros gartref i achub bywydau’ yn ystod y cyfnod clo Lefel Rhybudd 4

Aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i ‘aros gartref i achub bywydau’ yn ystod y cyfnod clo Lefel Rhybudd 4

11 Ionawr 2021

Rhaid i chi aros gartref a sicrhau eich bod yn teithio neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus at nifer gyfyngedig o ddibenion hanfodol yn unig.
 

Mae Cymru mewn cyfnod clo Lefel Rhybudd 4. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i chi:

  • Beidio â mynd allan oni bai eich bod yn mofyn bwyd, yn gwneud ymarfer corff yn lleol neu’n rhoi gofal, neu am resymau’n ymwneud ag iechyd.
  • Gweithio gartref os gallwch chi.
  • Teithio at ddibenion hanfodol yn unig (sy’n cynnwys rhoi gofal hanfodol, mofyn bwyd a diwallu anghenion meddygol, neu deithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith os na allwch weithio gartref).
  • Peidio â chwrdd â phobl nad ydych yn byw gyda nhw, dan do nac yn yr awyr agored.
  • Pan fyddwch allan, cadw pellter cymdeithasol, golchi eich dwylo’n rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen. Nid oes gan tua 1 o bob 3 pherson â Covid unrhyw symptomau o gwbl a gallent fod yn lledaenu’r feirws yn ddiarwybod iddynt. Mae hynny’n golygu ei bod yn hollbwysig i bawb ddilyn y camau hyn er mwyn helpu i atal y feirws rhag ymledu.
  • Hunanynysu ar unwaith a gofyn am brawf os byddwch yn datblygu unrhyw rai o symptomau’r coronafeirws.

Caniateir i chi adael eich cartref er mwyn gwneud ymarfer corff, ond rhaid i’r ymarfer corff hwnnw ddechrau o’ch cartref a gorffen yno. At hynny, dylech wneud eich ymarfer corff ar eich pen eich hun neu gyda rhywun sy’n byw yn yr un cartref â chi neu sydd yn yr un swigen gefnogaeth â chi.

Fel sy’n wir am bob lefel rhybudd, rhaid i bawb barhau i wisgo gorchuddion wyneb yn y mannau cyhoeddus dan do sy’n dal ar agor (mae rhai esemptiadau ac eithriadau’n berthnasol), gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis, a rhaid i bobl hunanynysu pan fydd Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru yn dweud wrthynt am wneud hynny.

 

Ble y gallaf ddod o hyd i wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus os oes angen i fi deithio at ddiben hanfodol?

Rhaid i chi sicrhau mai dim ond at ddibenion hanfodol yr ydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sef er mwyn rhoi gofal hanfodol, mofyn bwyd a diwallu anghenion meddygol, teithio i’r gwaith os na allwch weithio gartref, neu deithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith os ydych yn weithiwr allweddol.

Bydd gweithredwyr trafnidiaeth yn cwtogi amserlenni eu gwasanaethau ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf. Oherwydd mai newidiadau byrdymor yw’r newidiadau hynny, mae’n bosibl na fydd ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni yn gywir. Hoffem eich sicrhau bod ein tîm data yn gweithio ddydd a nos i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir gennym yn cynnwys y manylion diweddaraf cyn gynted ag sy’n bosibl.

Pan fyddwch yn teithio at ddibenion hanfodol dylech fynd i’n tudalen bwrpasol, sef ‘Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth’, i weld yr holl wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni gan weithredwyr ledled Cymru. Os oes angen unrhyw help arnoch i gynllunio eich taith hanfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus ffoniwch ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 00 00, bob dydd rhwng 7am ac 8pm.

 

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn dilyn y canllawiau ar gyfer Lefel Rhybudd 4?

Mae mwyafrif y canllawiau uchod wedi’u nodi mewn cyfraith, sy’n golygu bod modd iddynt gael eu gorfodi gan yr heddlu neu gan swyddogion gorfodi awdurdodau lleol. Fodd bynnag, hyd yn oed pan gaiff pethau eu caniatáu, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i chi ystyried yn ofalus beth yw’r peth mwyaf synhwyrol i chi ei wneud er mwyn diogelu eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned, yn hytrach nag ystyried beth y mae’r gyfraith yn caniatáu i chi ei wneud.

Os byddwch yn torri’r gyfraith, mae’n bosibl y byddwch yn cael cyfarwyddyd i fynd adref neu y byddwch yn cael eich symud o’r fan lle’r ydych ac yn cael eich hebrwng adref. Gellir rhoi hysbysiad cosb benodedig i chi a gofyn i chi dalu £60. Bydd y swm yn codi i £120 os byddwch yn torri’r gyfraith am yr ail waith, a bydd yn parhau i godi os byddwch yn torri’r gyfraith wedyn. Yr isafswm ar gyfer troseddau mwy difrifol yw £500. Fel arall, gellir dwyn achos troseddol yn eich erbyn a gallai fod yn rhaid i chi dalu dirwy os byddwch yn cael eich dyfarnu’n euog.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: llyw.cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon