Newyddion

Have-Your-Say-On-Active-Travel-Consultations-In-Your-Area-Using-The-Welsh-Government-Commonplace-Consultation-Platform

Cyfle i chi gael gwybod am yr ymgyngoriadau teithio llesol sydd ar waith yn eich cymdogaeth a chyfle i chi ddweud eich dweud

29 Ionawr 2021

Mae awdurdodau lleol yn defnyddio platfform Commonplace ar gyfer ymgyngoriadau, wrth iddynt greu cynlluniau ar gyfer gwella trefi a phentrefi er mwyn eu gwneud yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â nhw.

Drwy wella llwybrau cerdded a beicio a chreu rhai newydd, mae Llywodraeth Cymru am sicrhau mai dulliau teithio llesol yw’r ffordd normal o deithio’n lleol. Bydd hynny’n lleihau traffig diangen, yn helpu teuluoedd i fynd o le i le’n ddiogel, yn gwella ansawdd yr aer ac yn cynyddu apêl y lleoedd yr ydym yn treulio amser ynddynt wrth deithio bob dydd.

Y nod yw galluogi pawb i ddweud eu dweud. Os ydych eisoes yn cerdded neu’n beicio yn rheolaidd, mae hynny’n grêt! Byddwch yn gwybod beth sy’n dda ac yn gwybod beth y mae angen ei wella. Ond rydym yn awyddus dros ben i glywed gan bobl nad ydynt eto wedi profi’r pleser sydd i’w gael o ddefnyddio dulliau teithio llesol. Pa newidiadau ar lawr gwlad a allai eich helpu i ddechrau cerdded neu feicio, os gallwch chi, pan nad oes gwir angen i chi ddefnyddio’r car? Efallai eich bod yn gwybod ble y mae angen llwybr beicio newydd, efallai fod yna ddiffyg croesfannau diogel neu ddiffyg cyrbau isel, neu efallai mai ceir wedi’u parcio ar y palmant yw’r broblem.

 

Ynglŷn â’r prosiect hwn

Mae’r prosiect hwn yn fenter genedlaethol i Gymru. Bob tair blynedd bydd awdurdodau lleol Cymru yn cynnwys pobl leol pan fyddant yn diweddaru eu cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau teithio llesol. Mae Cymru yn unigryw, oherwydd mae ganddi ddeddfwriaeth sy’n mynnu bod cynghorau’n cynnwys pobl leol, sef Deddf Teithio Llesol (Cymru). Mae’r Ddeddf yn nodi uchelgais clir i sicrhau bod cerdded a beicio’n ddulliau allweddol o deithio’n lleol. Elfen hollbwysig o wneud y penderfyniadau cywir yw cynnwys pobl leol yn y sgwrs ynglŷn â ble y mae angen cyfleusterau, fel bod mwy o bobl yn teimlo eu bod yn gallu dewis cerdded a beicio yn lle defnyddio’r car ar gyfer teithiau lleol byr.

 

Dweud eich dweud a rhannu’r neges ag eraill

Ar wefan Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, dewiswch yr ardal yr hoffech wneud sylwadau arni. Caiff pob ymgynghoriad ei reoli gan yr awdurdod lleol ei hun, felly os hoffech wneud sylw ar ardal Cyngor gwahanol bydd angen i chi ddod yn ôl i’r dudalen hon a dewis y map perthnasol. Gadewch eich cyfeiriad ebost os nad yw’r Cyngor yr hoffech wneud sylw ar ei ardal wedi lansio ei ymgynghoriad eto, a bydd rhywun yn cysylltu â chi pan fydd yr ymgynghoriad wedi dechrau.

Byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhannu’r neges ag eraill er mwyn annog cymaint o bobl ag sy’n bosibl ledled Cymru i gymryd rhan. Mae’n hawdd rhannu’r neges ar gyfryngau cymdeithasol – mae pob un o’r gwefannau yn cynnwys dolenni cyswllt y gallwch eu rhannu.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Teithio Llesol Llywodraeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon