Newyddion

Age-Cymru-project-to-bring-HOPE-to-older-people-in-Wales

Prosiect HOPE Age Cymru yn cynnig gobaith i bobl hŷn yng Nghymru

05 Chwefror 2021

Mae prosiect HOPE Age Cymru (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu / Helping others participate and engage) yn helpu pobl hŷn (50+ oed) a gofalwyr i gael cymorth a medru byw eu bywydau i’r eithaf.

Bydd HOPE yn helpu pobl i gael gwybodaeth a chymorth gyda phroblemau sy’n cynnwys tai, cael mynediad i wasanaethau, ymdrin ag unigrwydd ac arwahanrwydd, cael help ariannol a manteisio ar bethau eraill y mae arnynt eu hangen neu a allai fod o fudd iddynt. At hynny, bydd yn helpu pobl hŷn i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, deall eu hawliau, ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol a lleisio eu barn.

Nod y prosiect yw helpu pobl i gael y cymorth a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen, a hynny cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn eu hatal rhag mynd i argyfwng. Heb os, bydd y pandemig COVID-19 presennol wedi effeithio’n fawr ar fywydau pobl hŷn, felly mae’n bosibl y bydd angen mwy o gymorth nag erioed arnynt i ailymgysylltu â’u cymunedau a chael mynediad i wasanaethau wrth i gyfyngiadau gael eu llacio. Bydd HOPE yn darparu cymorth o ran eiriolaeth ar lefel gymunedol drwy recriwtio gwirfoddolwyr i’r prosiect, ac yna’u hyfforddi a’u cefnogi yn llwyr.

Mae HOPE yn brosiect ar gyfer Cymru gyfan ond bydd yn gweithio ar draws y rhanbarthau lle mae staff rhanbarthol ar gael. Mae’r rhanbarthau hynny fel a ganlyn:

  • Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, MerthyrTudful, RhonddaCynonTaf a BroMorgannwg
  • Dyfed-Powys
  • Gwent
  • GogleddCymru
  • Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Wrth i bob un ohonom barhau i aros gartref er mwyn atal COVID-19 rhag ymledu, mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn fwy cyffredin nag erioed, yn enwedig ymhlith pobl hŷn. Dyna pam y mae Traveline Cymru yn arbennig o awyddus i gefnogi’r ymgyrch hwn, er mwyn helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd a chael cymorth, hyd yn oed pan na allwn deithio i fod gyda’n gilydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth y gallech chi ei gael gan HOPE, neu os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn eiriolwr gwirfoddol, anfonwch ebost i advocacy@agecymru.org.uk

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Age Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon