Newyddion

Yr-Wyddfa-Partnership-Sustainable-Parking-and-Transport-Strategy-Consultation-Have-Your-Say-Traveline-Cymru

Cyfle i chi ddweud eich dweud am yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Partneriaeth Yr Wyddfa ar gyfer Parcio a Thrafnidiaeth Gynaliadwy

08 Chwefror 2021

Mae Partneriaeth Yr Wyddfa wedi datblygu strategaeth ddrafft er mwyn cyflwyno dull twristiaeth gynaliadwy o helpu i wella trafnidiaeth a pharcio ar draws Parc Cenedlaethol Eryri yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

Gyda chymorth Trafnidiaeth Cymru, mae’r bartneriaeth yn gofyn i gymunedau lleol gyfrannu i’r strategaeth honno a helpu i gynllunio a gweithredu gwelliannau i faterion pwysig sy’n ymwneud â pharcio, trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau cerdded a beicio.

Mae’r strategaeth ddrafft yn seiliedig ar yr argymhellion a wnaed yn Adolygiad Parcio a Thrafnidiaeth Yr Wyddfa ac Ogwen, a gynhaliwyd gan Martin Higgitt Associates yn 2020, sy’n nodi atebion posibl i’r problemau sy’n ymwneud â pharcio, tagfeydd traffig, llygredd a sŵn yn ardal fewnol fwyaf sensitif Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r adroddiad yn nodi rolau a gofynion o bwys ar gyfer y pedair cymuned sy’n byrth i’r ardal dan sylw, o ran darparu cyfleusterau parcio, gweithredu rhwydwaith o fysiau gwennol a datblygu cyfleusterau ychwanegol ar gyfer ymwelwyr.

Bydd Partneriaeth Yr Wyddfa yn cynnal ymgynghoriad cychwynnol am bum wythnos o ddydd Llun 1 Chwefror tan ddydd Sul 7 Mawrth 2021. Yn rhan o’r ymgynghoriad, bydd y bartneriaeth yn cynnal gweithdy ar-lein (drwy Zoom) ar gyfer pob un o’r pedair cymuned sy’n byrth i’r ardal dan sylw, sef Llanberis, Betws-y-coed, Beddgelert a Bethesda.

Gallwch lenwi’r ffurflen hon i gofrestru ar gyfer un o’r gweithdai erbyn dydd Mawrth 16 Chwefror. Argymhellir eich bod yn mynychu’r gweithdai ar-lein yn hytrach nag ar ffôn symudol.

At hynny, gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein hwn os yw’n well gennych gymryd rhan fel hynny yn yr ymgynghoriad. Dylech anfon eich sylwadau erbyn 12:59pm ddydd Sul 7 Mawrth 2021.

Gallwch gael gwybod mwy am y strategaeth arfaethedig ar wefan Partneriaeth Yr Wyddfa.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Partneriaeth Yr Wyddfa

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon