Newyddion

Stagecoach-South-Wales-Launch-New-Service-To-Support-Passengers-Travelling-To- Newbridge-Vaccination-Centre

Stagecoach yn Ne Cymru yn cynorthwyo teithwyr y mae angen iddynt deithio i ganolfan frechu newydd Trecelyn

12 Chwefror 2021

Bydd gwasanaeth 28 yn gweithredu bob awr, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, o Gyfnewidfa Caerffili drwy Faesycwmer i Drecelyn er mwyn galluogi pobl i gyrraedd y ganolfan frechu.

Mae Stagecoach yn Ne Cymru yn cynorthwyo teithwyr o fwrdeistref Caerffili y mae angen iddynt deithio i’r ganolfan frechu yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn, drwy gyflwyno gwasanaeth bws newydd o ddydd Llun 15 Chwefror ymlaen.

Bydd gwasanaeth 28 yn gweithredu bob awr, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, o Gyfnewidfa Caerffili drwy Faesycwmer i Drecelyn er mwyn galluogi pobl i gyrraedd y ganolfan frechu. Mae’r gwasanaeth newydd wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd yr un canllawiau ynghylch Covid-19 yn berthnasol. Bydd gan y gwasanaeth lai o gapasiti na’r hyn sy’n arferol, bydd yn rhaid cadw pellter cymdeithasol, bydd y ffenestri ar agor er mwyn cael digon o awyr iach yn y bws, a bydd yn rhaid gwisgo gorchudd wyneb bob amser (oni bai eich bod wedi eich eithrio rhag gwneud hynny am resymau meddygol).

 

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru:

“Yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydym yn gwybod mor bwysig yw sicrhau bod trafnidiaeth yn parhau i fod ar gael i gymunedau lleol a gweithwyr allweddol ledled y de.

“Rydym yn falch o allu gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gyflwyno’r gwasanaeth newydd hwn a chynorthwyo ein cwsmeriaid y mae angen iddynt gyrraedd Trecelyn ar gyfer eu hapwyntiad i gael brechiad. Rydym yn gwybod y bydd y daith hon yn un bwysig i lawer o bobl yn awr ac yn ystod y misoedd sydd i ddod, wrth i’r rhaglen frechu barhau.

“Rydym am i deithwyr lleol wybod y byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol i gynnig opsiynau hanfodol o ran trafnidiaeth i weithwyr allweddol y mae angen iddynt deithio ar draws y de, gan roi’r pwys mwyaf bob amser ar iechyd a diogelwch ein cwsmeriaid a’n gyrwyr.”

Mae Stagecoach yn Ne Cymru yn dal i weithredu trefniadau glanhau trylwyr ar ei fysiau ac ym mhob depo er mwyn sicrhau diogelwch a lles cwsmeriaid y cwmni a’i weithwyr bws.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y canolfannau brechu i’w gweld yma.

I gael gwybodaeth am amserlen gwasanaeth 28, cliciwch yma. 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon