Newyddion

Plan-your-essential-journeys-to-health-sites-across-Wales-using-new-Traveline-Cymru-myhealthjourney-website

Defnyddio gwefan newydd ‘fynhaithiechyd’ Traveline Cymru i gynllunio eich teithiau hanfodol i safleoedd iechyd ledled Cymru

18 Chwefror 2021

Mae’r wefan ryngweithiol fynhaithiechyd yn darparu gwybodaeth fanwl am yr opsiynau gorau o ran trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl sy’n mynychu apwyntiadau a staff sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith.

Mae platfform newydd, sydd wedi’i ddatblygu’n arbennig ar gyfer y sawl sy’n teithio at ddibenion hanfodol i safleoedd iechyd ledled Cymru, wedi’i lansio gan wasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus, sef Traveline Cymru.

Mae’r wefan ryngweithiol fynhaithiechyd yn darparu gwybodaeth fanwl am yr opsiynau gorau o ran trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl sy’n mynychu apwyntiadau a staff sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith, boed ar fysiau, ar drenau, ar gludiant cymunedol neu drwy ddulliau teithio llesol.

Cafodd y platfform ei greu gyda chymorth byrddau iechyd lleol a Teithio Llesol Cymru, a chaiff ei ariannu gan Trafnidiaeth Cymru. Mae cynlluniwr taith pwrpasol y platfform yn galluogi cleifion a gweithwyr allweddol i ddewis y dull teithio mwyaf diogel ac uniongyrchol wrth iddynt gynllunio eu teithiau hanfodol i ysbytai a chanolfannau iechyd ledled Cymru, ac yn eu galluogi hefyd i gael y newyddion diweddaraf am drafnidiaeth.

At hynny, mae’r wefan yn cynnwys dolenni cyswllt â chyfres o wasanaethau a chwiliwr arosfannau bysiau Traveline Cymru, sy’n darparu’r newyddion diweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Oherwydd cyfyngiadau COVID19, mae fynhaithiechyd ar gael ar hyn o bryd er mwyn cynorthwyo gweithwyr allweddol i gynllunio teithiau hanfodol i’r gwaith neu gynorthwyo aelodau’r cyhoedd sy’n mynychu apwyntiad iechyd. Fodd bynnag, pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio, bydd y wefan yn cynorthwyo’r sawl sy’n teithio er mwyn ymweld â pherthnasau neu ffrindiau sydd mewn ysbytai ledled Cymru.

Gan fod Cymru dan gyfyngiadau lefel rhybudd 4 ar hyn o bryd, dim ond at ddibenion cyfyngedig y dylid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r dibenion hynny’n cynnwys teithio i’r gwaith os na allwch weithio gartref, teithio er mwyn diwallu anghenion hanfodol o ran siopa neu anghenion meddygol, teithio er mwyn rhoi gofal hanfodol i rywun neu deithio er mwyn osgoi’r risg o ddioddef salwch neu anaf. Os oes angen o hyd i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus at ddibenion hanfodol, dylech ddilyn y canllawiau Teithio’n Saffach. 

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru:

“Rydym yn falch dros ben o lansio’r gwasanaeth pwrpasol hwn ar gyfer aelodau’r cyhoedd yng Nghymru er mwyn eu cynorthwyo i deithio at ddibenion hanfodol sy’n ymwneud ag iechyd. Hoffai Traveline Cymru ddiolch yn arbennig i bob bwrdd iechyd a fu’n ymwneud â chreu’r platfform ac i Teithio Llesol Cymru am ei gymorth.

“Yn ogystal â chynorthwyo’r sawl sy’n mynd i safleoedd iechyd, drwy gynnig taith ratach a allai hefyd fod yn gynt na gyrru, bydd yr adnodd hwn yn galluogi safleoedd iechyd i fwynhau manteision cael meysydd parcio llai gorlawn, llai o dagfeydd traffig, ac aer sydd o ansawdd gwell. Bydd hefyd yn helpu’r sawl nad ydynt yn gallu gyrru ar ôl rhai apwyntiadau i gyrraedd adref yn ddiogel.”

 

Meddai Dr Tom Porter, Meddyg Ymgynghorol ym maes Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus ac arweinydd Teithio Llesol Cymru:

“Rydym yn falch o gefnogi’r gwasanaeth newydd hwn gan Traveline Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y cyhoedd yn gwneud defnydd ehangach ohono maes o law wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws ostwng ymhellach.

“Yn y gwasanaeth iechyd, mae’n bwysig ein bod nid yn unig yn helpu pobl gyda’u hiechyd pan fyddant yn cyrraedd ein safleoedd, ond hefyd yn eu helpu ar eu taith atom. Mae cerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer eich taith gyfan neu ran ohoni’n eich helpu i gadw’n iach ac yn heini, ac mae’n lleihau llygredd aer yn ein trefi a’n dinasoedd. 

“Dan y cyfyngiadau presennol, mae’n bwysig bod pobl yn osgoi teithio oni bai bod rhaid ac mae’n bwysig eu bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru os byddant yn gwneud hynny. Ond wrth i ni weld cyfnodau clo’n dod i ben a gweld y tywydd yn gwella, rydym yn edrych ymlaen at weld pobl yn troi’n gyntaf at fynhaithiechyd pan fyddant yn cynllunio eu taith.”

 

Mae Traveline Cymru, sy’n rhan o’r sefydliad ymbarél PTI Cymru, yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog.

 

I weld y wefan, ewch i fynhaithiechyd.traveline.cymru.

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Hannah Young yn jamjar drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio hannah@jamjar.agency

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon