Newyddion

Help-make-decisions-about-your-local-services-on-Census-Day-2021

Cofiwch helpu i wneud penderfyniadau am eich gwasanaethau lleol ar Ddiwrnod Cyfrifiad 2021

26 Chwefror 2021

Pan fyddwch yn cwblhau eich cyfrifiad chi ar 21 Mawrth, byddwch yn helpu i wneud penderfyniadau am wasanaethau lleol gan gynnwys trafnidiaeth leol.

Mae’r cyfrifiad yn digwydd bob 10 mlynedd ac mae’n rhoi darlun i ni o’r holl bobl a’r holl aelwydydd sydd yng Nghymru a Lloegr. Bydd Cyfrifiad 2021, sef y cyfrifiad digidol cyntaf erioed, yn digwydd ddydd Sul 21 Mawrth. Mae hynny’n golygu eich bod yn cael eich annog i ymateb ar-lein os oes modd – bydd cymorth ar gael ar-lein, dros y ffôn, drwy ebost, ar gyfryngau cymdeithasol a thrwy neges destun.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bawb yng Nghymru a Lloegr gwblhau cyfrifiad neu gael eu cynnwys mewn cyfrifiad ar gyfer y man lle maent yn byw neu’n aros. Nid oes angen i chi gwblhau’r cyfrifiad os ydych yn aros yn y DU am lai na thri mis.

Mae’r cyfrifiad yn galluogi’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau, awdurdodau lleol, elusennau ac eraill i gynnal dealltwriaeth gynhwysfawr o’u cymunedau. Drwy gymryd rhan yn y cyfrifiad, byddwch yn helpu i sicrhau eich bod chi a’ch cymuned yn cael y gwasanaethau y mae arnoch eu hangen yn ystod y 10 mlynedd nesaf ac wedyn. Mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys:

  • Trafnidiaeth
  • Ysbytai
  • Gofal iechyd
  • Ysgolion
  • Prifysgolion
  • Canolfannaugwaith
  • Cartrefi
  • Gwasanaethau brys.

Mae Covid-19 yn golygu bod llawer ohonom wedi treulio mwy o amser nag erioed yn ein cymunedau lleol wrth i ni weithio gartref, gwneud ymarfer corff a siopa’n lleol, a chynorthwyo’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Bydd y cyfrifiad yn adnodd hanfodol ar gyfer deall yr effeithiau hirdymor y mae Covid-19 wedi’u cael ar iechyd ac ar amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd pobl.

Bydd llythyr yn cael ei anfon atoch a fydd yn cynnwys cod mynediad ac iddo 16 o nodau. Bydd angen y cod hwnnw arnoch i gwblhau eich cyfrifiad ar-lein. Os nad oes gennych god mynediad neu os hoffech ofyn am gopi papur o’r cyfrifiad, ewch i wefan Cyfrifiad 2021.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Cyfrifiad 2021

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon