Newyddion

Community-Transport-Association-Support-Parliamentary-Comittee-Calls-For-Long-Term-Funding

Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn cefnogi argymhellion y Pwyllgor Seneddol ynghylch cyllid hirdymor ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth hanfodol

08 Mawrth 2021

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Senedd Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad i adferiad tymor hir o’r pandemig COVID-19.

Bu’r ymchwiliad yn ystyried y dasg o ailadeiladu’r economi a’r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru gan sicrhau ar yr un pryd nad yw’r bobl fwyaf difreintiedig yn syrthio’n ôl ymhellach yn ein cymdeithas.

Cyfeiriwyd at gludiant cymunedol yn yr adroddiad a oedd yn argymell y dylai’r llywodraeth ystyried ffyrdd o ddarparu grantiau tymor hwy i awdurdodau lleol yn lle darparu cyllid ar gyfer blwyddyn ar y tro i gefnogi cludiant lleol, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, oherwydd byddai hynny’n ei gwneud yn bosibl i wasanaethau hanfodol lleol ailadeiladu ar sylfaen fwy sefydlog.

Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn cynrychioli tua 80 o fudiadau dielw ledled Cymru, a arweinir gan y gymuned. Mae’r mudiadau cludiant cymunedol lleol hynny yn cynorthwyo’r sawl sydd efallai’n methu â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus brif ffrwd, ac yn eu galluogi i fynychu apwyntiadau iechyd hanfodol, cymryd rhan yn eu cymunedau a theithio i siopau a gwasanaethau.

Mae’r sector wedi cael ei daro’n galed gan y pandemig ond mae wedi parhau i gynnig gwasanaethau hollbwysig, megis gwasanaethau dosbarthu bwyd a meddyginiaeth a chludo pobl i gael gofal iechyd a chael eu brechu. Mae COVID-19 wedi bygwth hyfywedd y ddarpariaeth o ran trafnidiaeth mewn llawer o ardaloedd, sydd wedi arwain at bryder difrifol y gallai’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas a’r sawl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig gael eu hanghofio wrth i’r wlad ailadeiladu ar ôl y pandemig, oni bai bod camau’n cael eu cymryd i gefnogi gwasanaethau cludiant lleol.

 

Meddai Rachel Burr, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru:

“Mae cludiant cymunedol wrth wraidd y broses adfer yn dilyn y pandemig COVID-19; mae’n wasanaeth hanfodol i gymaint o bobl, ac os na chaiff ei ariannu’n ddigonol bydd yn cael effaith ddinistriol ar bobl nad ydynt yn gallu defnyddio mathau eraill o drafnidiaeth am resymau’n ymwneud â daearyddiaeth, tlodi neu ddiffyg hygyrchedd.

“Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn croesawu argymhelliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, sef y dylai Llywodraeth Cymru ystyried darparu cyllid tymor hwy i awdurdodau lleol, a fydd yn eu galluogi i gefnogi opsiynau allweddol o ran cludiant lleol, megis cludiant cymunedol, ar sylfaen fwy sefydlog. Mae’n hanfodol ein bod yn galluogi’r sector cludiant cymunedol i ddal ati i gynnig cymorth hanfodol i’r sawl y mae arnynt angen y cymorth hwnnw fwyaf.”

Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn elusen genedlaethol ac yn fudiad ag aelodaeth, sy’n cynrychioli ac yn cynorthwyo darparwyr cludiant cymunedol: miloedd o elusennau a grwpiau cymunedol lleol ledled y DU sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth sy’n cyflawni diben cymdeithasol ac yn sicrhau budd i’r gymuned. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ac am waith ein haelodau yn www.ctauk.org. 

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon