Newyddion

Stagecoach-bus-drivers-lead-the-way-in-safe-and fuel-efficient-GreenRoad-driving-scheme

Gyrwyr bysiau Stagecoach yn arwain y ffordd mewn cynllun i hybu gyrru’n ddiogel a defnyddio tanwydd yn effeithlon

18 Mawrth 2021

Mae cyfanswm o 5,249 o yrwyr Stagecoach – gan gynnwys 130 o dde Cymru – wedi ennill statws ‘Fleet Elite’ a bathodyn arbennig.

  • 130 o weithwyr Stagecoach yn Ne Cymru yn ennill statws ‘Fleet Elite’ GreenRoad
  • System ddiogelwch a thelemateg uwch yn gwirio technegau gyrru bob amser ac yn helpu i ddefnyddio tanwydd yn effeithlon
  • Buddsoddi mewn hyfforddiant a thechnoleg newydd yn parhau er mwyn gwneud gwasanaethau bws yn fwy diogel fyth

Mae gyrwyr bysiau Stagecoach yn arwain y ffordd mewn rhaglen fyd-eang o fri ar gyfer mesur perfformiad, a hynny am y bumed flwyddyn yn olynol.

Mae cyfanswm o 5,249 o yrwyr Stagecoach – gan gynnwys 130 o dde Cymru – wedi ennill statws ‘Fleet Elite’ a bathodyn arbennig dan raglen gynhwysfawr ar gyfer mesur diogelwch wrth yrru, a reolir gan GreenRoad. Mae system ddiogelwch a thelemateg GreenRoad yn gwasanaethu gyrwyr proffesiynol yn y DU, Iwerddon, Ewrop, y Dwyrain Canol, America, Awstralia a Seland Newydd.

Mae 14 o yrwyr Stagecoach yn Ne Cymru sydd wedi ennill statws ‘Fleet Elite’ wedi cael y bathodyn Aur ac mae 45 wedi ennill statws ‘Master Fleet Elite’ am gynnal eu statws dros gyfnod o bedair blynedd neu fwy’n olynol.

Llwyddodd mwy o weithwyr Stagecoach nag unrhyw gwmni arall i ennill statws ‘Fleet Elite’ yn y cynllun sydd ar waith ym mhob cwr o’r byd. Bob blwyddyn, mae Stagecoach yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn hyfforddiant ar gyfer ei dîm proffesiynol o weithwyr ac mewn technoleg newydd er mwyn gwneud ei weithrediadau’n fwy diogel fyth.

Yn ddiweddar cyhoeddodd Stagecoach fuddsoddiad mawr yn y system GreenRoad a ddefnyddir gan ei yrwyr, wrth i dechnoleg gael ei chyflwyno am y tro cyntaf yn y DU i rybuddio gyrwyr ynghylch pontydd.

Mae technoleg ddiogelwch GreenRoad yn cael ei defnyddio ar holl fysiau Stagecoach yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ac mae wedi bod yn eithriadol o effeithiol o safbwynt helpu gyrwyr i wella eu sgiliau. Gan ddefnyddio system LED syml ar y dangosfwrdd, sy’n debyg i oleuadau traffig, mae GreenRoad yn rhoi adborth i yrwyr yn syth ynghylch eu technegau gyrru ac yn eu hannog i yrru’n fwy esmwyth a diogel gan ddefnyddio tanwydd yn fwy effeithlon.

I ennill statws ‘Fleet Elite’, rhaid i yrwyr achosi cyfartaledd o bump neu lai o ‘ddigwyddiadau’ gyrru annerbyniol, megis brecio neu gyflymu’n sydyn, am bob 10 awr o yrru yn ystod o leiaf 350 awr ar draws y flwyddyn galendr gyfan.

 

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru:

“Rydym yn falch iawn bod ein gyrwyr unwaith eto’n arwain y ffordd yn y cynllun hwn sydd ar waith ym mhob cwr o’r byd, a bod mwy o yrwyr nag erioed o’r blaen wedi ennill statws ‘Fleet Elite’.

“Diogelwch yw man cychwyn pob peth yr ydym yn ei wneud, ac rydym yn dal i fuddsoddi miliynau o bunnoedd mewn hyfforddiant a thechnoleg newydd er mwyn gwneud ein gwasanaethau bws yn fwy diogel fyth. Mae’n wych o beth bod y buddsoddiad mawr hwn yn parhau i gael ei adlewyrchu yn safonau proffesiynol ein gyrwyr.”

 

Meddai David Ripstein, Llywydd a Phrif Weithredwr GreenRoad:

“Llongyfarchiadau i 5,249 o yrwyr Stagecoach sydd wedi ennill statws ‘Fleet Elite’. Mae’n record neilltuol sy’n adlewyrchu ffocws cyson Stagecoach ar ddiogelwch a chyfrifoldeb amgylcheddol. Rydym yn falch o allu cynorthwyo Stagecoach – bob diwrnod o’r flwyddyn – i wella diogelwch, esmwythdra a chyfleustra i’w gwsmeriaid ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio a meithrin partneriaeth agos â’r cwmni.”

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Stagecoach yn Ne Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon