Newyddion

Cardiff-Bus-to-introduce-36-new-electric-buses-on-network

Bws Caerdydd yn cyflwyno 36 o fysiau trydan newydd ar ei rwydwaith

23 Ebrill 2021

Credir mai hon yw’r archeb unigol fwyaf o fysiau trydan sydd wedi’i chyflwyno y tu allan i Lundain hyd yma.

Mae Bws Caerdydd wedi cadarnhau ei fod wedi archebu 36 o’r bysiau batri-trydan diweddaraf, a chredir mai hon yw’r archeb unigol fwyaf sydd wedi’i chyflwyno y tu allan i Lundain hyd yma.

Bydd y 36 o fysiau Yutong E12 heb allyriadau i’w gweld ar ffyrdd y ddinas o ddiwedd 2021 ymlaen a byddant yn gweddnewid y modd y mae rhwydwaith bysiau Caerdydd yn gweithredu.

Mae’r buddsoddiad yn ganlyniad cydweithio rhwng y cwmni bysiau a’i gyfranddaliwr, Cyngor Caerdydd, wedi iddynt gyflwyno cais llwyddiannus am gyllid gan y Cynllun Bysiau Allyriadau Isel Iawn a weinyddir gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU.

Yn dilyn y cais llwyddiannus, dechreuwyd gweithio ar ymarfer helaeth i werthuso’r gwahanol gerbydau sydd ar gael, yn ogystal â gwerthuso’r seilwaith gwefru ategol.

 

Meddai Paul Dyer, Rheolwr Gyfarwyddwr Bws Caerdydd:

“Mae’n newyddion gwych i’r cwmni ac i’r ddinas gyfan. Mae’n cadarnhau ymhellach mai ni yw prif weithredwr bysiau’r ddinas a’n bod yn chwarae rhan hollbwysig ym mywyd y ddinas.

“Mae perthynas gadarn yn bodoli rhyngom ni a’n cwsmeriaid, sef trigolion Caerdydd, ac rydym yn cael ein hystyried yn un o asedau allweddol y ddinas, sy’n rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif wrth i ni geisio cyrraedd sefyllfa lle nad ydym yn cynhyrchu unrhyw allyriadau. Mae’n iawn i’r ddinas fod yn falch o’i chwmni bysiau a’r rhan y mae’n parhau i’w chwarae ym mywyd y ddinas. Cafodd hynny ei amlygu ymhellach yn ystod y 12 mis diwethaf a’r pandemig Coronafeirws, wrth i ni helpu i sicrhau bod olwynion y ddinas yn dal i droi mewn cyfnod nas gwelwyd mo’i debyg o’r blaen.

“Mae hwn yn newyddion gwych sy’n newid popeth i’r ddinas, ac wrth edrych i’r dyfodol bydd y buddsoddiad yn cyfrannu’n fawr nid yn unig at sicrhau bod olwynion y ddinas yn dal i droi ond hefyd at sicrhau bod hynny’n digwydd mewn modd sy’n garedig ac yn gynaliadwy i’r amgylchedd. Yn ogystal â manteision amgylcheddol y bysiau, byddant hefyd yn codi safonau o ran yr amgylchedd a ddarperir i’n cwsmeriaid ar y bysiau. Mae’r buddsoddiad hefyd yn cefnogi’n llawn gamau gweithredu Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru i wella ansawdd yr aer a sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r ffordd ymlaen ar gyfer symud o le i le yn y ddinas.

“Dyma ddechrau ein cynlluniau i foderneiddio ein fflyd a buddsoddi ynddi ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau mai ein cwmni ni yw’r cwmni bysiau a edmygir fwyaf yng Nghymru a’i fod yn ased i’r ddinas.

“At hynny, mae hefyd yn dangos bod ein rhanddeiliaid yn ein hystyried yn rhan hollbwysig o’r dyfodol a’u bod yn ein cefnogi. Mae hynny’n rhoi hwb enfawr i’n tîm ymroddedig sy’n gweithio’n galed yn Bws Caerdydd i sicrhau bod olwynion y ddinas yn dal i droi. Hoffwn roi teyrnged i’w holl ymdrechion dros y 14 mis diwethaf ers i mi ymuno â’r cwmni. Rwy’n gwybod eu bod nhw, fel fi, yn hynod falch o’r gwaith y maent yn ei wneud ac yn falch o gael gweithio i Bws Caerdydd.”

 

Meddai Ian Downie, Pennaeth Yutong Bus yng nghwmni Pelican Engineering:

“Mae’n bleser ac yn fraint i ni fod wedi cael y contract hwn gan Bws Caerdydd. Bydd y cerbydau hynod fodern sydd heb allyriadau’n cael effaith fawr ar y gwaith o gludo dinasyddion Caerdydd mewn cerbydau mwy cyfforddus, gan wella ansawdd yr aer ar yr un pryd. Rydym yn edrych ymlaen at ein partneriaeth gyda Bws Caerdydd er mwyn cynorthwyo i greu system drafnidiaeth lân a chynaliadwy yng Nghaerdydd.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Bws Caerdydd

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon