Newyddion

Traveline-Cymru-invest-in-vulnerable-customers-alongside-leading-inclusive-theatre-company-Hijinx

Traveline Cymru ar y cyd â’r cwmni theatr cynhwysol blaenllaw, Hijinx, yn buddsoddi mewn cwsmeriaid agored i niwed

17 Mai 2021

Mae rhai o staff Traveline Cymru wedi bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant cyfathrebu arbenigol gydag un o gwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw Ewrop, er mwyn gwella’r gwasanaeth a gaiff ei ddarparu ar gyfer cwsmeriaid agored i niwed.

Cafodd yr hyfforddiant ei gyflwyno gan gwmni theatr Hijinx er mwyn hybu hyder y staff yng nghanolfan alwadau ddwyieithog Traveline Cymru i gyfathrebu’n effeithiol â phobl sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Mae’r hyfforddiant yn cyd-daro ag effaith barhaus y pandemig COVID-19, sy’n golygu bod tîm y ganolfan gyswllt wedi gorfod darparu gwybodaeth gymhleth sy’n newid yn barhaus i’w gwsmeriaid yn ystod cyfnod pan oedd pawb yn teimlo’n bryderus tu hwnt.

Ar adeg pan fo gweithredwyr yn gorfod cwtogi eu darpariaeth o ran gwasanaethau, gwneud newidiadau mawr i’w hamserlenni a chyflwyno mesurau diogelwch newydd, mae’r hyfforddiant wedi helpu i sicrhau bod y tîm yn gallu cynnal gwasanaeth o safon ac yn gallu darparu’n effeithiol wybodaeth hanfodol am drafnidiaeth gyhoeddus i bawb y mae arnynt ei hangen.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru:

“O ganlyniad i COVID-19, mae’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned nid yn unig yn gorfod ymdopi â newidiadau cymhleth i drefniadau teithio ond hefyd efallai’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, gorbryder neu unigrwydd. Mae hynny’n golygu ei bod yn bwysicach nag erioed bod ein hasiantiaid yn gallu cyfathrebu’n hyderus â phob cwsmer, gan gynnwys pobl ag anawsterau dysgu a/neu awtistiaeth, sy’n dibynnu’n helaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’n hollbwysig bod y bobl hynny’n gallu teithio at ddibenion hanfodol yn ddiogel ac yn ddidrafferth.

“Buom yn gweithio o’r blaen gyda Hijinx ar bartneriaeth greadigol drwy Arts & Business Cymru, felly rydym yn gwybod yn iawn pa mor effeithiol yw rhaglen y cwmni o hyfforddiant arbenigol. Rydym yn teimlo’n awr bod gan ein hasiantiaid y sgiliau i ddarparu gwasanaeth o safon i bob cwsmer ledled Cymru, a hoffem ddiolch i’r cwmni theatr am ei amser a’i ymdrech i sicrhau bod y diwrnod yn un addysgiadol a difyr i’n gweithwyr.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi sicrwydd i bawb sy’n defnyddio ein gwasanaeth bod ein tîm o asiantiaid ymroddedig wrth law i gynorthwyo teithwyr ledled Cymru, waeth beth fo’u hamgylchiadau.”

 

Yn ogystal â darparu hyfforddiant busnes i gwmnïau fel Traveline Cymru mae Hijinx, sy’n sefydliad cynhyrchu proffesiynol, yn enwog am greu perfformiadau rhagorol ar y llwyfan a’r sgrin, i Gymru a gweddill y byd, gydag artistiaid sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

 

Meddai Sarah Horner o gwmni theatr Hijinx:

“Rydym yn falch iawn o allu ymestyn ein perthynas â Traveline, gan ddarganfod ffyrdd newydd o gyflwyno hyfforddiant gyda’n hactorion niwrowahanol yn ystod y cyfnodau clo. Mae gweithio gyda phartneriaid fel Traveline, sydd wedi ymrwymo fel ni i gynorthwyo pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i gael mynediad da i wasanaethau, mor bwysig i Hijinx. Ar ôl blwyddyn lle mae’r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar lawer o bobl sydd ar gyrion ein cymdeithas, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio i sicrhau bod cymorth ar gael iddynt allu teithio at ddibenion hanfodol. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm Traveline ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n partneriaeth yn y dyfodol.”

 

Mae Traveline Cymru a Hijinx wedi cael buddsoddiad gan raglen CultureStep A&B Cymru i gryfhau a datblygu eu partneriaeth greadigol.

 Arts and Business Cymru

Mae Traveline Cymru, sy’n rhan o’r sefydliad ymbarél PTI Cymru, yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog.       

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Hannah Young yn jamjar drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio hannah@jamjar.agency

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon