Newyddion

Adventure-Travel-extends-404-service-to-Porthcawl-in-response-to-rise-in-Welsh-staycations

Adventure Travel yn estyn gwasanaeth 404 i Borthcawl er mwyn ymateb i gynnydd yn nifer y bobl sy’n aros yng Nghymru i fynd ar eu gwyliau

03 Mehefin 2021

Mae Adventure Travel, y gweithredwr trafnidiaeth blaenllaw yn y de, wedi ymateb i’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n aros yng Nghymru i fynd ar eu gwyliau drwy ehangu ei wasanaethau i gynnwys bws traeth ar gyfer yr haf.

Bydd gwasanaeth 404, sydd fel rheol yn mynd o Bontypridd i Ben-y-bont ar Ogwr chwe diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, yn teithio i Borthcawl o 7 Mehefin ymlaen ac felly’n cynnig llwybr uniongyrchol i’r dref lan môr boblogaidd hon ar gyfer cwsmeriaid o’r Cymoedd.

Mae’r tuedd i aros yng Nghymru i fynd ar wyliau, sydd wedi deillio o’r cyfnodau clo yn ystod y pandemig coronafeirws, yn golygu bod llawer o drigolion Cymru yn dewis aros yn lleol yr haf hwn yn lle mynd dramor. Gan fod cyrchfannau sydd â thraethau’n eithriadol o boblogaidd, mae’r gwasanaeth ychwanegol hwn yn golygu ei bod yn haws ac yn fwy hwylus i’r sawl sy’n byw mewn ardaloedd mwy anghysbell fynd i lan y môr.

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn tan ganol mis Hydref, a bydd yn cael ei weithredu gan gerbydau sydd wedi’u brandio yn arbennig er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r llwybr newydd.

 

Meddai Adam Keen, Rheolwr Gyfarwyddwr Adventure Travel:

“Mae estyn gwasanaeth 404 i Borthcawl yn golygu bod gan deithwyr o’r Cymoedd fwy o gyfleoedd i fynd i’r traeth – sy’n rhywbeth y mae llawer ohonom wedi bod yn dymuno ei wneud drwy gydol y cyfnod clo. Bydd y ffaith ein bod yn estyn llwybr gwasanaeth 404 yn ystod yr haf yn cynnig diwrnodau allan cofiadwy gyda thocynnau rhesymol iawn a gyrwyr cyfeillgar, ac rydym yn credu y bydd hynny wrth fodd teuluoedd sydd, a dweud y gwir, wedi cael 12 mis digon diflas.

“Gan fod cyfyngiadau teithio wedi cael eu llacio erbyn hyn, mae llawer o bobl yn trefnu eu gwyliau haf yma yng Nghymru. Rydym yn falch o allu cynnig opsiwn hwylus o ran trafnidiaeth iddynt, a fydd yn eu galluogi i gyrraedd rhai o’r cyrchfannau godidog sydd yn y de.”

 

Gallwch weld yr amserlen lawn ar gyfer y gwasanaeth hwn yma.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Adventure Travel

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon