Newyddion

Clean-Air-Day-June-17-2021

Cadwch y dyddiad! Bydd ‘Diwrnod Aer Glân 2021’ Global Action Plan yn digwydd ddydd Iau 17 Mehefin

09 Mehefin 2021

Y thema eleni yw ‘diogelu iechyd ein plant rhag llygredd aer’ ar ôl blwyddyn lle mae’r pandemig COVID-19 wedi amharu ar fywydau plant. 

 

Beth yw Diwrnod Aer Glân a pham y mae’n bwysig?

Diwrnod Aer Glân yw ymgyrch mwyaf y DU ynglŷn â llygredd aer, ac mae’n cynnwys miloedd o bobl mewn cannoedd o ddigwyddiadau ac yn cyrraedd miliynau yn rhagor drwy’r cyfryngau.

Mae’r diwrnod eleni yn dilyn llwyddiant ymgyrch Diwrnod Aer Glân 2020 (a ohiriwyd tan fis Hydref oherwydd y pandemig Covid-19) pan ymdrechodd pobl a sefydliadau o hyd i adael eu car gartref; cynnal digwyddiadau rhannu dealltwriaeth ar-lein; rhannu gwybodaeth a syniadau ar gyfryngau cymdeithasol; a sicrhau bod y galw am aer glân i’w glywed ar draws y cyfryngau.

Fodd bynnag, mae Sefydliad Iechyd y Byd a’r llywodraeth yn cydnabod o hyd mai llygredd aer yw’r risg amgylcheddol fwyaf yr ydym yn ei hwynebu heddiw i’n hiechyd, oherwydd mae’n achosi hyd at 36,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn y DU. Ar ôl blwyddyn a roddodd i ni flas o sut brofiad yw cael strydoedd tawelach ac aer glanach, mae’n bwysicach yn awr nag erioed o’r blaen i wella ein dealltwriaeth o lygredd aer ac ystyried sut y gallwn i gyd ymddwyn mewn modd sy’n hybu aer glân.

Ddydd Iau 17 Mehefin bydd cymunedau, ysgolion a busnesau (a ninnau yn eu plith!) yn dangos eu cefnogaeth i weithredu ynghylch llygredd aer ac yn lleisio eu barn er mwyn dangos cymaint o bwys yr ydym yn ei roi ar greu dyfodol ag aer glân i’n plant. A gallwch chi gymryd rhan hefyd!

 

Sut y mae llygredd aer yn niweidio iechyd?

Mae llygredd aer yn derm cyffredinol ar gyfer llawer o wahanol fathau o lygredd sydd yn yr aer o’n cwmpas. Gallwch anadlu pob un o’r llygryddion hyn a’u hamsugno yn eich corff. Caiff mathau gwahanol o lygredd aer eu hachosi gan bethau gwahanol.

Gall aer o ansawdd gwael gynyddu’r risg o ddioddef rhai problemau iechyd, a gall waethygu unrhyw broblemau iechyd sy’n bodoli’n barod. Yn achos oedolion, mae hynny’n cynnwys mwy o risg o ddioddef: symptomau peswch a fflem; niwmonia bacterol; pwysedd gwaed uchel; clefyd cardiofasgwlaidd; ac, yn yr hirdymor, canser yr ysgyfaint.

Yn achos plant, gall y ffaith bod eu cyrff yn llai a bod eu horganau a’u systemau imiwnedd yn dal i ddatblygu olygu eu bod yn arbennig o sensitif i lygredd aer. At hynny, gall gyfrannu at achosi asthma mewn rhai plant a gall waethygu symptomau’r plant hynny sydd ag asthma’n barod. Gall dod i gysylltiad â llygredd aer effeithio hefyd ar y modd y mae ysgyfaint plant yn datblygu, a gall achosi problemau iechyd hirdymor.

 

Sut y gallaf helpu i fy niogelu fy hun a diogelu pobl eraill a’r amgylchedd?

Mae Global Action Plan yn argymell y ffyrdd canlynol o leihau cysylltiad â llygredd aer a lleihau’r llygredd aer sy’n cael ei greu:

  • Ceisiwch gerdded, beicio neu fynd ar eich sgwter yn lle gyrru: Gall bod yn sownd mewn traffig olygu eich bod yn dod i gysylltiad â llawer o lygredd. Gall aer wedi’i lygru o bibellau mwg cerbydau eraill gael ei sugno i mewn i’ch car, a bydd yn aros yno’n aml, sy’n golygu y byddwch yn anadlu llawer o lygredd i mewn. Canfu un arbrawf fod y llygredd yr oedd gyrrwr car yn dod i gysylltiad ag ef ddwywaith yn fwy na’r hyn yr oedd cerddwr yn dod i gysylltiad ag ef, a naw gwaith yn fwy na’r hyn yr oedd beiciwr yn dod i gysylltiad ag ef, wrth wneud yr un daith. Gallwch ddefnyddio ein Cynllunwyr Cerdded a Beicio i ddod o hyd i’r llwybrau sydd fwyaf cyfleus i chi.
  • Ceisiwch ystyried eich opsiynau o ran trafnidiaeth gyhoeddus: Ar draws y DU, pe bai pawb yn gwneud un daith yn fwy ar y bws bob mis, byddem yn gwneud biliwn yn llai o deithiau mewn car a byddai allyriadau carbon deuocsid y DU ddwy filiwn o dunelli’r flwyddyn yn llai[1]. Mae hynny’n golygu y gall pob un ohonom chwarae ein rhan, drwy ystyried ein hopsiynau o ran trafnidiaeth gyhoeddus unwaith yn unig yr wythnos a helpu i leihau nifer y ceir sydd ar ein ffyrdd. Mae gan y diwydiant trafnidiaeth ran i’w chwarae hefyd drwy ddechrau defnyddio cerbydau allyriadau isel iawn a’i gwneud yn haws, yn rhatach ac yn fwy cyfleus i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Ceisiwch osgoi cerdded ar hyd y ffyrdd prysuraf: Mae llygredd aer yn crynhoi o amgylch y ffyrdd prysuraf a gall hyd yn oed ychydig o bellter rhyngoch chi a’r ffyrdd hynny wneud gwahaniaeth mawr. Gwelwyd bod ffyrdd tawelach yn golygu bod eich cysylltiad â llygredd 20% yn llai.
  • Ceisiwch beidio â gadael yr injan i redeg yn ddiangen: Os ydych yn gyrru, diffoddwch yr injan pan fydd eich cerbyd yn llonydd ac os yw’n ddiogel i chi wneud hynny.
  • Ceisiwch deithio mewn cerbydau trydan: Mae yna lawer o gerbydau trydan y gallwch deithio ynddynt. Beth am logi car neu dacsi trydan ac ystyried prynu cerbyd trydan pan fyddwch yn prynu eich car nesaf?

 

Beth y mae’r diwydiant trafnidiaeth a Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

  • Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru ei ‘Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru’ a fydd yn llywio’r strategaeth drafnidiaeth yng Nghymru yn ystod yr 20 mlynedd nesaf. Mae’n cydnabod yr angen am system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon er mwyn diwallu anghenion cwsmeriaid yn y ffordd orau posibl ac er mwyn cyrraedd targed sero-net Llywodraeth Cymru ar gyfer allyriadau carbon erbyn 2050.
  • Mae llawer o weithredwyr trafnidiaeth yn cyflwyno cerbydau trydan a mesurau effeithlonrwydd eraill ar eu rhwydwaith er mwyn gwella ansawdd aer a chreu system drafnidiaeth lanach a mwy cynaliadwy yng Nghymru. Mae’r gweithredwyr hynny’n cynnwys Bws Caerdydd, Adventure Travel a Stagecoach.
  • Rydym hefyd yn annog ein cwsmeriaid i ystyried dulliau teithio llesol ac opsiynau aml-ddull wrth deithio at ddibenion hamdden a dibenion gwaith. Gallwch ddefnyddio ein Cynllunwyr Cerdded a Beicio i gynllunio eich teithiau ar feic ac ar droed; clywed gan ein ffrindiau yn Sustrans Cymru am rôl teithio llesol yn ystod y pandemig ac wedi hynny mewn erthygl wadd ar gyfer ein blog; a dysgu am fanteision cerdded (a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer rhan o’ch taith) gan ein ffrindiau yn Ramblers Cymru mewn erthygl wadd arall.

 

I gael rhagor o wybodaeth a chael gwybod ym mha ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan, ewch i wefan Diwrnod Aer Glân.



[1] Y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, ‘Gwell rhwydwaith bysiau i Gymru – Agenda ar gyfer Senedd nesaf Cymru’

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon