Newyddion

Every-forward-facing-seat-on-buses-now-able-to-be-used-in-Wales

Pob sedd sy’n wynebu tuag ymlaen ar fysiau’n gallu cael eu defnyddio’n awr yng Nghymru

21 Mehefin 2021

Er mwyn ymateb i’r galw cynyddol am wasanaethau teithio yn dilyn llacio cyfyngiadau’r llywodraeth, o ddydd Llun 21 Mehefin ymlaen bydd yn bosibl defnyddio pob sedd sy’n wynebu tuag ymlaen ar fysiau yng Nghymru.

Mae’r penderfyniad hwn, sy’n debygol o effeithio ar nifer fach yn unig o wasanaethau bws yn ystod cyfnodau prysur o’r dydd, yn dilyn archwiliad ar sail risg o ystod o ffactorau. Roedd y ffactorau hynny’n cynnwys y mesurau diogelwch sydd wedi’u cyflwyno gan weithredwyr, y graddau y cydymffurfir â’r rheidrwydd i wisgo gorchudd wyneb, niferoedd y bobl sydd wedi’u heintio â Covid-19, a chyfraddau brechu.

 

Meddai llefarydd ar ran y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wrth wneud sylw ar y penderfyniad:

“Mae gweithredwyr yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw’r olwynion i droi yng Nghymru a sicrhau bod pobl yn gallu teithio’n hyderus. Mae hynny’n cynnwys rhedeg gwasanaethau ychwanegol lle mae llawer o alw amdanynt, a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fysiau prysur drwy gyfrwng apiau a gwefannau.

“Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ac wrth i fwy o bobl ddechrau teithio o le i le, bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy prysur nag yr oedd yn ystod y pandemig. Ar lwybrau prysur yn ystod cyfnodau prysur, mae hynny’n golygu na fydd yn bosibl cadw pellter cymdeithasol bob amser ac y bydd angen i rai teithwyr eistedd wrth ymyl ei gilydd efallai. Rydym yn annog teithwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw a theithio yn ystod cyfnodau llai prysur os oes modd."

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Confederation of Passenger Transport

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon