Newyddion

Stagecoach-takes-major-step-forward-in-its-diversity-pledge-with-launch-of-new-employee-networks

Stagecoach yn cymryd cam mawr tuag at wireddu ei addewid ynghylch amrywiaeth, drwy lansio rhwydweithiau newydd i weithwyr

25 Mehefin 2021

Mae chwe rhwydwaith newydd i weithwyr wedi’u creu er mwyn cynrychioli gwahanol grwpiau o weithwyr ar draws Stagecoach.

Mae Stagecoach, prif weithredwr bysiau a thramiau’r DU, yn cymryd cam mawr tuag at wireddu ei addewid ynghylch amrywiaeth, drwy lansio rhwydweithiau newydd i weithwyr, a fydd yn ceisio parhau i greu gweithle sy’n wirioneddol gynhwysol a rhoi mwy o gyfle i weithwyr y cwmni fynegi eu barn am ddyfodol y busnes.

Mae chwe rhwydwaith newydd i weithwyr wedi’u creu er mwyn cynrychioli gwahanol grwpiau o weithwyr ar draws Stagecoach. Cafodd y themâu, sef Gofalwyr, LHDTQ+, Cyn-filwyr, Amlddiwylliannol, Rhieni a Menywod@Stagecoach, eu dewis mewn fforwm cydweithwyr a oedd yn cynnwys gweithwyr o bob cwr o’r DU.

Bwriad y rhwydweithiau newydd i weithwyr yw bod yn gymunedau dan arweiniad gwirfoddolwyr yn Stagecoach, sy’n cael rhyddid i herio, annog newid, cynorthwyo cydweithwyr a bod yn llais cyfun er mwyn parhau i sicrhau bod Stagecoach yn lle gwych i weithio ynddo. Gofynnodd Stagecoach am geisiadau gan bobl o blith ei 24,000 a mwy o weithwyr, a fyddai’n hoffi arwain y rhwydweithiau newydd a chymryd rhan ynddynt, a chafodd ymateb anhygoel.

Un o’r rhwydweithiau cyntaf i ddechrau arni oedd y rhwydwaith LHDTQ+ a gafodd ei lansio fel ei fod yn cyd-daro â mis Pride, sef mis Mehefin. Mae Jamie-Lee Harley-Thornton, un o yrwyr bysiau Stagecoach yn nepo West Ham yn Llundain, wedi’i ddewis yn arweinydd ar gyfer y rhwydwaith LHDTQ+ newydd i weithwyr.

Dechreuodd Jamie-Lee, sy’n berson trawsryweddol, weithio i Stagecoach ym mis Ionawr 2020 ar ôl bod yn was sifil am 17 mlynedd. Roedd arni awydd bod yn yrrwr bws erioed, ac ar ôl teimlo ei bod mewn rhigol yn ei swydd flaenorol penderfynodd ymgeisio am swydd gyda Stagecoach. Ers datgelu ei bod yn berson trawsryweddol, blaenoriaeth Jamie-Lee yw sicrhau bod pobl yn teimlo y gallant fod yn driw iddynt eu hunain, a’i nod fel arweinydd y rhwydwaith newydd yw gwneud i bobl deimlo’n driw iddynt eu hunain, a rhoi cymorth ac anogaeth iddynt.

 

Meddai Jamie-Lee:

“Ers dod i weithio i Stagecoach, rwyf wedi bod yn ffodus iawn o’r gefnogaeth rwyf wedi’i chael gan fy rheolwr ac aelodau eraill o’r tîm ac rwy’n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi, ond mae yna broblemau bob amser y mae angen eu datrys. Pan ddaeth y cyfle i wneud cais i fod yn rhan o’r rhwydwaith LHDTQ+ newydd, roeddwn yn ei ystyried yn gyfle i helpu i oresgyn unrhyw broblemau ond, yn anad dim, yn gyfle i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael yr un gefnogaeth ag a gefais i ac yn gyfle i helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yn y busnes.”

 

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi bod yn cefnogi LHDTQ+ yn ystod mis Pride drwy wneud y canlynol:

  • Rydym wedi bod yn arddangos sticeri enfys siâp calon ar ffenestri cerbydau, gyda’r geiriau ‘Proud To Serve’ arnynt, sy’n atgyfnerthu un o werthoedd Stagecoach, sef gwasanaethu ein cwsmeriaid a chysylltu cymunedau.
  • Mae gyrwyr wedi cael laniardiau o liwiau’r enfys i’w gwisgo am eu gwddf tra byddant wrth y llyw, er mwyn dangos eu cefnogaeth i gydraddoldeb rhwng y rhywiau.
  • Mae Leanne Lloyd, un o’n gyrwyr ym Mhorth, wedi bod wrthi’n brysur yn creu bathodynnau â rhuban o liwiau’r enfys er mwyn i’r staff ddangos eu cefnogaeth i’r gymuned LHDTQ+.

Un arall o’r rhwydweithiau newydd yw’r rhwydwaith Cyn-filwyr a gafodd ei lansio fel ei fod yn cyd-daro ag Wythnos y Lluoedd Arfog a ddaeth i ben ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 26 Mehefin.

Dan arweiniad Kathryn Dawson sy’n yrrwr bws ym Manceinion a Simon Tramalloni sy’n Rheolwr Gweithrediadau yng Nglannau Mersi a De Sir Gaerhirfryn, bydd y rhwydwaith newydd hwn yn ceisio adeiladu ar y gwaith y mae Stagecoach wedi bod yn ei arwain o safbwynt cefnogi ein lluoedd arfog drwy ddigwyddiadau a gwaith elusennol, gan gefnogi ceisiadau gan gyn-filwyr a sicrhau bod cyrsiau’n hwylus i gyn-filwyr eu dilyn.

 

Meddai Simon Tramalloni:

“Dyma ddechrau rhywbeth newydd a chyffrous i Stagecoach, a fydd yn helpu i sbarduno newid go iawn. Nid ydym o reidrwydd yn chwilio am bobl sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ond rydym am greu grŵp o bobl sydd o’r un anian ac sy’n deall pwysigrwydd sicrhau bod ein cwmni’n gynhwysol i gyn-filwyr.

“Dros gyfnod o flynyddoedd lawer, mae ein busnes wedi rhoi cymorth i gyn-filwyr mewn llawer o wahanol ffyrdd. Yn awr, fodd bynnag, rydym am fynd un cam ymhellach a nodi ym mha ffyrdd eraill y gallwn helpu’r cyn-filwyr sy’n gweithio i ni’n barod a’r cyn-filwyr sydd efallai am ymuno â Stagecoach.”

 

Llofnododd Stagecoach addewid ynghylch amrywiaeth yn rhan o’r Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant ddiwedd 2019, gan ymrwymo i greu gweithlu cynhwysol sy’n cynrychioli’r cwsmeriaid a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae eisoes wedi cymryd camau i greu gweithlu mwy amrywiol o ran rhywedd. Mae nifer y menywod sy’n yrwyr bysiau wedi cynyddu 25% ers 2014, ac mae’r cwmni yn bwriadu sicrhau cynnydd o 20% yn nifer y menywod sydd mewn swyddi arwain.

 

Meddai Clare Burles, Cyfarwyddwr Pobl Stagecoach:

“Rydym yn gwmni cynhwysol sy’n croesawu pobl dalentog ac sy’n eu helpu i ddatblygu a chyflawni eu potensial, pwy bynnag ydynt ac o ble bynnag maent yn dod.

“Ein rhwydweithiau newydd a arweinir gan ein gweithwyr yw’r cam nesaf yn ein siwrnai, ac rydym yn awyddus i wneud llawer mwy o waith a rhoi mwy o gyfle i bawb fynegi barn am ddyfodol ein busnes.

“Rydym i gyd yn unigolion, ac mae’n bwysig bod pob un ohonom yn teimlo ein bod yn gallu bod yn driw i ni ein hunain yn y gwaith a’n bod yn cael cefnogaeth bob dydd. Po fwyaf y byddwn yn deall ein gilydd, ein safbwyntiau gwahanol a’r heriau yr ydym yn eu hwynebu, cynta’n y byd y byddwn yn gallu gwneud newidiadau cadarnhaol a fydd o fantais i’n cydweithwyr a’r cwsmeriaid yr ydym yn falch o’u gwasanaethu.”

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Stagecoach yn Ne Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon