Newyddion

Nominations-open-for-Community-Transport-Awards-2021

Y cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Cludiant Cymunedol 2021 ar agor

01 Gorffennaf 2021

Bydd Gwobrau Cludiant Cymunedol 2021, a fydd yn cael eu cyflwyno ar 18 Tachwedd, yn cydnabod enghreifftiau o ragoriaeth ar draws y sector.

Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno ar-lein ym mis Tachwedd a bydd modd i holl aelodau’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol fynychu’r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Gellir enwebu unrhyw fudiad neu sefydliad sy’n darparu cludiant cymunedol hygyrch a chynhwysol ac sy’n bodloni meini prawf y wobr berthnasol.

Y tro diwethaf i’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol gyflwyno’r Gwobrau Cludiant Cymunedol oedd yn 2019, pan ymunodd dros 200 o aelodau yn y dathliadau ym Manceinion i roi sylw i’r gwaith anhygoel y mae’r sector cludiant cymunedol yn ei gyflawni. Mae’r cynllun ar gyfer llacio cyfyngiadau’r coronafeirws ar draws y DU yn awgrymu y bydd cynadleddau a chynulliadau’n cael eu caniatáu erbyn mis Tachwedd, ond mae’r penderfyniad wedi’i wneud i’r seremoni eleni gael ei chynnal ar-lein er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd rhan ynddi.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb yn y sector cludiant cymunedol, ond dro ar ôl tro mae aelodau’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi cyflawni gwaith anhygoel er mwyn cynorthwyo’r bobl yn eu cymunedau y mae arnynt angen eu gwasanaeth fwyaf.

 

Bydd Gwobrau Cludiant Cymunedol 2021 yn cydnabod enghreifftiau o ragoriaeth ar draws y sector yn y categorïau canlynol: 

  • Darparwr Cludiant Cymunedol y Flwyddyn: Mae’r categori hwn ar gyfer mudiad neu sefydliad sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl i gynorthwyo eu cymunedau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd ein beirniaid yn ystyried sut y mae’r mudiad neu’r sefydliad wedi ymateb i’r pandemig coronafeirws a sut y mae wedi addasu ac arallgyfeirio ei wasanaethau er mwyn diwallu anghenion y bobl sy’n dibynnu arnynt.  
  • Partneriaeth y Flwyddyn: Mae’r categori hwn ar gyfer dau neu fwy o fudiadau neu sefydliadau sydd wedi gweithio mewn partneriaeth er budd eu cymunedau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd ein beirniaid yn ystyried sut y mae’r mudiadau neu’r sefydliadau hyn wedi cydweithio â’i gilydd i adnabod a datrys problem gan ddefnyddio eu sgiliau gwahanol i gyrraedd eu cymunedau, lle na fyddent wedi medru gwneud hynny ar eu pen eu hunain. 
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Bydd y categori hwn yn cydnabod gwirfoddolwr rhagorol ym maes cludiant cymunedol. Bydd ein beirniaid yn ystyried sut y mae’r unigolyn wedi gwneud mwy na’r disgwyl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ddangos ymrwymiad i’w fudiad neu’i sefydliad a bod yn esiampl wych i eraill.  
  • Cadw mewn Cysylltiad: Mae’r categori hwn yn rhoi gwobr i fudiad neu sefydliad, neu unigolyn, sydd wedi chwilio am ffyrdd newydd o gadw mewn cysylltiad â theithwyr yn ystod y pandemig coronafeirws. Bydd ein beirniaid yn chwilio am enghreifftiau o ffyrdd newydd, arloesol ac effeithiol y mae’r sawl a enwebwyd wedi cynnal ysbryd teithwyr ac wedi’u cysylltu â’u cymunedau yn ystod y cyfnod clo.  
  • Ymrwymiad i Gynaliadwyedd: Mae’r categori hwn yn cydnabod ymrwymiad y sector cludiant cymunedol i gynaliadwyedd, a bydd y wobr yn cael ei rhoi i fudiad neu sefydliad sy’n gallu dangos yr ymrwymiad hwn ar draws ei waith. Bydd ein beirniaid yn ystyried sut y mae’r sawl a enwebwyd wedi ymdrin â chynaliadwyedd mewn modd arloesol gan ddangos eu bod yn canolbwyntio ar y dyfodol a’u bod yn ymwybodol o’r hinsawdd, hyd yn oed os nad yw’r canlyniadau wedi’u gwireddu yn llawn eto.  
  • Cynllun Ceir Gwirfoddol y Flwyddyn: Mae’r categori hwn yn cydnabod cynllun ceir gwirfoddol sydd wedi cael effaith gadarnhaol tu hwnt ar ei gymuned yn ystod y pandemig coronafeirws. Bydd ein beirniaid yn chwilio am fudiad neu sefydliad sydd wedi addasu ei waith a’i wasanaethau er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn dal yn gallu diwallu anghenion teithwyr yn ei gymuned.   
  • Hyrwyddwr Cludiant Cymunedol: Mae’r categori hwn yn cydnabod ffigwr cyhoeddus, mudiad neu sefydliad, neu gorff arall sydd wedi hyrwyddo a chefnogi gwaith y sector cludiant cymunedol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gallai fod yn wleidydd, yn arweinydd cymunedol lleol, yn gyllidwr neu’n berson busnes; bydd ein beirniaid yn chwilio am rywun sydd wedi cefnogi cludiant cymunedol ac sydd wedi codi proffil cludiant cymunedol yn lleol neu’n genedlaethol. 
  • Cystadleuaeth Ffotograffiaeth: Caiff y wobr hon ei rhoi am ffotograff sy’n cyfleu hanfod ymateb y sector cludiant cymunedol i’r pandemig coronafeirws – sy’n dangos gwaith caled, ymroddiad, brwdfrydedd ac arloesedd ein sector wrth ymateb i’r argyfwng hwn. Bydd y cyhoedd yn pleidleisio i ddewis enillydd y wobr hon.  
  • Gwobr am Gyflawniad Oes: Mae’r wobr am gyflawniad oes yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad pellgyrhaeddol a gweithgar i’r sector cludiant cymunedol dros nifer o flynyddoedd. Bydd ein beirniaid yn chwilio am rywun sydd wedi bod yn eiriolwr brwdfrydig dros y sector, ac sydd wedi bod yn ei gefnogi yn rhan o’i fudiad neu’i sefydliad ac fel arweinydd yn ehangach hefyd.  

 

Os hoffech gyflwyno enwebiad, bydd angen i chi:

  1. Ddarllen y ddogfen Gofynion Cymryd Rhan a Meini Prawf y Gwobrau er mwyn cael gwybodaeth fanwl am y rheolau ynghylch cymryd rhan ac am yr hyn y bydd ein beirniaid yn chwilio amdano ym mhob categori.
  2. Lawrlwytho’r ffurflen enwebu ar gyfer y categori y byddwch yn cyflwyno enwebiad iddo.
  3. Llenwi a lanlwytho’r ffurflen enwebu a’r holl dystiolaeth ategol ofynnol i borth enwebiadau’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol neu anfonwch ebost i events@ctauk.org.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon