Newyddion

Traveline-Cymru-Contact-Centre-achieve-outstanding-customer-service-feedback-once-again

Canolfan Gyswllt Traveline Cymru yn cael adborth rhagorol unwaith eto am ei gwasanaeth i gwsmeriaid

14 Gorffennaf 2021

Mae’r rownd ddiwethaf o adborth gan gwsmeriaid, a gasglwyd ar ran Traveline Cymru, yn dangos bod lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid yn 98.4% o ganlyniad i barodrwydd y staff i helpu a’u gallu i ddeall anghenion cwsmeriaid a darparu gwybodaeth glir a chywir. 

Dangosodd yr ymchwil, a gyflawnwyd gan sefydliad annibynnol o’r enw Finger on the Pulse, fod cwsmeriaid wedi parchu a gwerthfawrogi canolfan gyswllt Traveline Cymru yn fawr yn ystod y 12 mis diwethaf.

Wrth ateb cwestiynau am berfformiad y ganolfan gyswllt, rhoddodd yr ymatebwyr sgôr o fwy na 90% i bob mesur, a’r tri phrif reswm am y lefel uchel o fodlonrwydd cwsmeriaid oedd ‘parodrwydd yr unigolyn ar y ffôn i helpu’ (95.9%), ‘bod y wybodaeth a roddwyd wedi’i hesbonio yn glir’ (95.9%) a ‘bod yr unigolyn ar y ffôn yn deall anghenion’ yn gywir (94.3%).

Mae cyflawniadau’r ganolfan gyswllt ym Mhenrhyndeudraeth yn fwy trawiadol fyth o gofio’r pandemig COVID-19. Er bod rheolau’r cyfnod clo a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi golygu bod timau ar draws y cwmni wedi gorfod symud i weithio gartref, llwyddodd Traveline i ennill sgôr wych o 87.8% ar gyfer ‘yr amser a gymerwyd i ateb y ffôn’, sy’n sgôr uwch o lawer na’r hyn a welwyd mewn ymchwil flaenorol.

Drwy gydol y pandemig parhaodd tîm y ganolfan gyswllt ddwyieithog, sy’n cynnwys 34 aelod o staff,  i ddarparu diweddariadau hollbwysig i’w gwsmeriaid. Cafodd gwybodaeth am wasanaethau hanfodol ac am ddiogelwch ei dosbarthu er mwyn sicrhau bod gweithwyr allweddol a phobl eraill yr oedd angen iddynt deithio yn gallu gwneud hynny’n hyderus ac yn ddiogel.

Yn ogystal ag ymdrin â galwadau Traveline Cymru, mae gan y ganolfan gyswllt gontractau ers amser â chleientiaid megis Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, TrawsCymru, Bwcabus a Nextbike UK; ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig llwyddodd y ganolfan gyswllt i ennill un ar ddeg o gleientiaid newydd uchel eu proffil y mae Traveline UK, Cadw a Chwaraeon Cymru yn eu plith.

Mae twf parhaus y ganolfan yn cyd-fynd â’i gallu i gynnig gwasanaeth o safon i gwsmeriaid, yr adroddwyd amdano’n ddiweddar, trwy ei gwasanaethau ymdrin ag ymholiadau cyffredinol, ei gwasanaethau derbynfa a’i gwasanaethau ymdrin â chwynion dros y ffôn, drwy ebost ac ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr:

“Er gwaetha’r flwyddyn gythryblus a gawsom, rydym yn falch iawn o fod wedi cynnal lefel uchel tu hwnt o fodlonrwydd cwsmeriaid, yn sgil y canlyniadau rhagorol hyn. Yn ogystal â chadarnhau mor galed y mae ein staff yn gweithio, mae’r canlyniadau hefyd yn pwysleisio ein hymrwymiad i ddarparu adnodd heb ei ail i bobl Cymru a’n cleientiaid yn ystod cyfnod mor heriol.”

“Rydym bob amser yn croesawu sylwadau ac awgrymiadau ynghylch ffyrdd o wella ein gwasanaethau i gwsmeriaid ac addasu i anghenion cyfredol, fel y gallwn barhau i gynnig y gwasanaeth o safon ragorol y mae ein cwsmeriaid yn ei ddisgwyl gennym erbyn hyn.”

 

Mae Traveline Cymru, sy’n rhan o’r sefydliad ymbarél PTI Cymru, yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog.    

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon