Newyddion

Free-Travel-For-Children_Transport-For-Wales

Wyddech chi? Gall plant a phobl ifanc deithio am ddim gyda Trafnidiaeth Cymru os byddant yn teithio gydag oedolyn sy’n talu am docyn

02 Awst 2021

Gall plant dan 11 oed sy’n teithio gydag oedolyn sy’n talu am docyn deithio am ddim gyda Trafnidiaeth Cymru, a gall pobl ifanc dan 16 oed deithio am ddim y tu allan i oriau brig. 

 

Beth yw’r cynnig? 

 

Plant dan 11 oed yn cael teithio am ddim

Gall hyd at ddau blentyn 10 oed ac iau deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru os ydynt yn teithio gydag oedolyn sy’n talu am docyn. Gellir prynu tocynnau yn un o swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru neu oddi wrth eich casglwr tocynnau cyfeillgar os nad oes swyddfa docynnau ar gael. Rhaid bod y plentyn yn teithio o’r un lleoliad ac i’r un lleoliad â’r oedolyn sy’n talu am docyn. Bydd angen prawf o oedran y plentyn.

 

Pobl ifanc dan 16 oed yn cael teithio am ddim y tu allan i oriau brig

Os ydych yn ddigon ffodus i fod yn 15 oed neu’n iau, gallwch deithio am ddim gyda Trafnidiaeth Cymru y tu allan i oriau brig. Bydd angen i chi deithio gydag oedolyn sy’n talu am docyn, a chaniateir i hyd at ddau deithiwr dan 16 oed deithio ar unrhyw un adeg gydag oedolyn sy’n talu am docyn. Caniateir i chi deithio am ddim rhwng 09.30 a 15.59 ac ar ôl 18.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch deithio am ddim drwy’r dydd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc. Rhaid eich bod yn teithio o’r un lleoliad ac i’r un lleoliad â’r oedolyn sy’n talu am docyn. Bydd angen prawf o’ch oedran.

Ewch i un o swyddfeydd tocynnau Trafnidiaeth Cymru neu siaradwch â chasglwr tocynnau ar un o’n trenau heddiw er mwyn manteisio ar y cynigion arbennig hyn.

 

Mae pob tocyn a chynnyrch yn rhwym wrth amodau teithio National Rail ac wrth delerau ac amodau penodol eraill. Dylech ddarllen yr holl delerau a’r holl amodau cyn i chi brynu eich tocyn a theithio. Ym mhob gorsaf lle mae yna beiriannau gwerthu tocynnau a swyddfeydd tocynnau, dylech sicrhau eich bod yn prynu’r tocyn cywir ar gyfer eich taith cyn i chi fynd ar y trên.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon