Newyddion

New-Paths-to-Wellbeing-project-launched-by-Ramblers-Cymru

Ramblers Cymru yn lansio prosiect newydd ‘Llwybrau i Lesiant’ er mwyn helpu i sicrhau bod cerdded yn rhan annatod o gymunedau

04 Awst 2021

Mae Ramblers Cymru wedi cael cyllid gwerth £1.2 filiwn er mwyn rhoi i gymunedau ledled Cymru yr adnoddau a’r hyfforddiant y mae arnynt eu hangen i gyflawni gwaith cynnal a chadw ymarferol ar lwybrau a chynefinoedd a gwella ansawdd yr amgylchedd!

Bydd y prosiect Llwybrau i Lesiant yn allweddol o safbwynt gwireddu gweledigaeth Ramblers Cymru i sicrhau bod cerdded yn rhan annatod o gymunedau, wrth i 13 aelod newydd o staff ledled Cymru weithio gyda phartneriaid (22 o awdurdodau lleol, Coed Cadw ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru) i greu fframwaith cenedlaethol ar gyfer y gweithgarwch hwn a gaiff ei gyflawni’n bennaf gan wirfoddolwyr.

Mae’r mudiad yn awyddus i roi i gymunedau ledled Cymru yr adnoddau a’r hyfforddiant y mae arnynt eu hangen i adnabod a dylunio llwybrau newydd a gwella ac uwchraddio llwybrau sy’n bodoli’n barod, gyda chymorth swyddog prosiect rhanbarthol Llwybrau i Lesiant. 

Mae Ramblers Cymru o’r farn y bydd buddsoddi mewn gwella sgiliau gwirfoddolwyr lleol, rhoi’r adnoddau priodol iddynt, a’u cynorthwyo a’u harwain i reoli a chyflawni gwelliannau a gwaith cynnal a chadw ymarferol ar lwybrau a chynefinoedd yn fodd i gryfhau’r graddau y mae cymunedau’n ymgysylltu â llwybrau a mannau gwyrdd. Yn y pen draw, bydd hynny’n cysylltu pobl â’r manteision o ran iechyd a llesiant sy’n deillio o fyd natur ac o wneud gweithgarwch corfforol yn yr awyr agored.

 

Gallech chi chwarae rhan hanfodol!

Bydd Ramblers Cymru yn gweithio gyda chymunedau dethol ledled Cymru er mwyn helpu i hybu mynediad i fannau gwyrdd y gall yr aelodau eu mwynhau. Gallwch fod yn rhan greiddiol o’r prosiect blaenllaw hwn, gan feithrin ystod eang o sgiliau newydd a manteisio ar gymorth ac arweiniad arbenigol gan Ramblers Cymru a phartneriaid eraill!

Yn ogystal â gwella’r amgylchedd i gerddwyr, bydd y prosiect yn helpu byd natur hefyd drwy weithgareddau megis plannu coed, hau hadau blodau gwyllt a chynnal diwrnodau gweithgareddau natur. Yn ogystal â gwneud eich cymuned yn lle mwy gwyrdd i fyd natur ffynnu ynddo, bydd y prosiect yn gyfle gwych hefyd i dynnu aelodau’r gymuned ynghyd drwy weithgareddau y gall pawb gymryd rhan ynddynt! Mae Ramblers Cymru yn awyddus i weld pobl o bob oed a chefndir yn cymryd rhan!

Bydd 18 o gymunedau ledled Cymru yn cael eu dewis ar gyfer y gwaith datblygu, a fydd yn cynnwys hyfforddiant am ddim i wirfoddolwyr. Felly, os hoffech weld gwelliannau i fyd natur ac i fynediad yn eich ardal chi, anfonwch neges e-bost i pathstowellbeing@ramblers.org.uk gan nodi’r wybodaeth ganlynol: 

  • Enw eich cymuned;
  • Cyfeiriad cyswllt;
  • Enw a rhif ffôn prif unigolyn cyswllt y grŵp;
  • Amcangyfrif o nifer y gwirfoddolwyr sy’n debygol o gymryd rhan;
  • Disgrifiad byr sy’n egluro pam y byddai hyn o fudd i’ch cymuned.
  • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 15 Awst 2021.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Ramblers Cymru.

Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Ramblers Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon