Newyddion

Proposal-to-reduce-speed-limit-to-20mph-on-residential-streets-in-Wales

Cyfle i chi ddweud eich dweud: Cynnig i ostwng y terfyn cyflymder i 20 milltir yr awr ar strydoedd preswyl yng Nghymru

16 Awst 2021

Mae Llywodraeth Cymru am newid y terfyn cyflymder i 20 milltir yr awr mewn pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru.

 

Beth yw’r newidiadau arfaethedig?

Bydd y terfynau newydd arfaethedig yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd preswyl yn bennaf, ond byddant hefyd yn cael eu cyflwyno ar ffyrdd a gaiff eu defnyddio’n rheolaidd ar gyfer dulliau teithio llesol.

Gallai gostwng y terfyn cyflymder:

  • leihau nifer y gwrthdrawiadau sy’n digwydd ar ein ffyrdd a lleihau eu difrifoldeb
  • creu mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu i wella iechyd a lles pawb
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel a helpu i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Mae’r cynigion yn cael eu treialu mewn 8 cymuned ledled Cymru.

 

Sut y gallaf ymateb?

Bydd eich barn yn llywio polisïau Llywodraeth Cymru cyn bod y newidiadau’n cael eu cyflwyno. Gallwch ddweud eich dweud am y newidiadau arfaethedig erbyn 1 Hydref yn y ffyrdd canlynol:

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Llywodraeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon