Newyddion

Rail-Industry-Launch-New-Campaign-To-Tackle-Sexual-Harassment

Y diwydiant rheilffyrdd yn lansio ymgyrch newydd i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol

25 Awst 2021

  • Bydd ymgyrch y diwydiant rheilffyrdd yn codi ymwybyddiaeth o beth yw aflonyddu rhywiol, yn annog pobl i adrodd am achosion ac yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw fannau anniogel ar y rhwydwaith rheilffyrdd.

  • Mae ymchwil yn dangos nad yw pobl yn sylweddoli bod ymddygiad megis chwibanu ar ôl pobl, ciledrych/syllu, neu fod yn rhy agos at rywun yn fwriadol yn fathau o aflonyddu rhywiol

Heddiw mae’r diwydiant rheilffyrdd yn lansio ymgyrch cenedlaethol ar draws Prydain mewn partneriaeth â’r elusen Crimestoppers a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, drwy sicrhau bod pobl yn deall beth yw ymddygiad o’r fath. Bydd yr ymgyrch hefyd yn rhoi gwybod i bobl pa gamau gweithredu y gallant eu cymryd i adrodd am achosion o aflonyddu rhywiol, os byddant yn gweld aflonyddu rhywiol yn digwydd, er mwyn helpu i fynd i’r afael ag ef.

Mae ymchwil newydd yn dangos diffyg ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb aflonyddu rhywiol nad yw’n aflonyddu corfforol, sy’n gallu gwneud i’r sawl sy’n profi aflonyddu o’r fath deimlo’n ofnus ac yn ofidus. Mae’r arolwg o dros 2,500 o bobl, a gynhaliwyd ar ran y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd gan 2CV, yn dangos mai nifer fach o deithwyr ar y rhwydwaith rheilffyrdd sy’n sylweddoli bod chwibanu ar ôl pobl (30%), syllu’n amhriodol (37%) neu gael rhywun yn eistedd/sefyll yn rhy agos atoch mewn cerbyd sydd fel arall yn dawel (39%) yn fathau o aflonyddu rhywiol.

Mae ymchwil gan y Llywodraeth yn dangos bod 84% o fenywod a 60% o ddynion yn y DU wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn ystod eu hoes. Er mwyn mynd i’r afael â hynny mae’r diwydiant rheilffyrdd yn codi ymwybyddiaeth o beth yw aflonyddu rhywiol, drwy gyfres o bosteri ar drenau ac mewn gorsafoedd, gan gynnwys ar sgriniau mawr, yn ogystal ag ar draws cyfryngau cymdeithasol, a hynny er mwyn annog pobl i adrodd am sefyllfaoedd lle maent yn teimlo’n anniogel. Bydd hynny’n datgan yn glir wrth dramgwyddwyr na chaiff eu hymddygiad ei oddef ar y rhwydwaith rheilffyrdd. 

Mae’r diwydiant rheilffyrdd yn disgwyl y bydd hybu dealltwriaeth gyffredin o beth yw aflonyddu rhywiol yn helpu pobl sy’n ei weld neu’n ei brofi i fagu hyder i sôn am hynny, fel bod modd dwyn y tramgwyddwyr i gyfrif am eu gweithredoedd. Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn annog pobl i adrodd am aflonyddu rhywiol, er mwyn rhoi mwy o gyfle i’r heddlu gael gafael ar droseddwyr a’u cosbi.

Eleni, mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig bron wedi treblu nifer y swyddogion sydd wedi cael eu hyfforddi’n arbennig i ymchwilio i droseddau rhywiol ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, ac mae’n parhau i ddefnyddio swyddogion mewn dillad plaen a swyddogion mewn gwisg swyddogol i batrolio’r rhwydwaith.

Bydd staff rheilffyrdd yn cael eu hatgoffa o’r rôl y gallan nhw ei chwarae er mwyn cadw teithwyr a’u cydweithwyr yn ddiogel, drwy ddilyn y camau canlynol: Bod yn ymwybodol, Dangos consérn, Gwrando, Cysuro ac Adrodd. Bydd y cyngor hwn yn cael ei rannu ledled y diwydiant gan hyrwyddwyr mewnol, drwy fideos a thaflenni addysgiadol.

 

Meddai Jacqueline Starr, Prif Weithredwr y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd:

“Mae pob math o aflonyddu rhywiol yn ddifrifol ac mae gweithredoedd megis ciledrych, eistedd yn agos at rywun heb fod raid, neu wneud sylwadau rhywiol yn annerbyniol ar ein rheilffyrdd ac yn y gymdeithas yn ehangach. Fel diwydiant, rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw fannau anniogel ar y rhwydwaith rheilffyrdd, drwy ddangos i’r nifer fach o dramgwyddwyr nad oes croeso iddynt ar drenau nac mewn gorsafoedd. Bydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn eu dwyn i gyfrif er mwyn sicrhau bod teithio ar drenau’n fwy diogel i bawb.”

 

Mae’r ymgyrch yn atgoffa teithwyr y gallant gysylltu â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig drwy neges destun i adrodd am unrhyw achosion o aflonyddu rhywiol y byddant yn eu gweld. Drwy anfon neges fer i 61016, sy’n cynnwys manylion yr hyn a welsant, gall tystion helpu’r Heddlu i ddod o hyd i dramgwyddwyr a lleihau niwed posibl i bobl eraill yn y dyfodol. Mewn argyfwng, dylech ffonio 999 bob amser.

 

Meddai Lucy D’Orsi, Prif Gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:

“Yn anffodus, mae aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus wedi dod yn rhywbeth derbyniol, sy’n un rheswm pam nad yw pobl yn adrodd am ymddygiad o’r fath. Mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan i newid hynny.

“Mae’r ymgyrch hwn yn ymwneud ag addysgu pobl ynglŷn â beth sy’n annerbyniol a sut i adrodd amdano, er mwyn i ni allu gweithio gyda’n gilydd i wneud y rhwydwaith rheilffyrdd yn amgylchedd gwrthwynebus ar gyfer aflonyddu rhywiol. Bob tro y bydd rhywun yn adrodd wrthym am achos o aflonyddu rhywiol, byddwn yn cael gwybodaeth werthfawr y gallwn ei defnyddio er mwyn creu darlun cywir o droseddwr a chymryd camau gweithredu.

“Hoffem annog unrhyw un sy’n profi neu’n gweld aflonyddu rhywiol i anfon neges destun i 61016, p’un a yw’n rhywbeth sy’n digwydd ar y pryd neu’n rhywbeth sydd wedi digwydd yn ddiweddar. Gall ein hystafell reoli anfon swyddogion i leoliad os oes angen, neu eich galluogi i gysylltu â swyddog er mwyn i chi siarad ag ef/hi ar adeg sy’n gyfleus. Cadwch 61016 yn eich ffôn fel bod y rhif gennych wrth law os bydd arnoch angen ein help ni rywbryd.

“Dylai fod modd i bawb deithio heb ofni y gallai rhywun aflonyddu arnynt. Mae pob adroddiad a gawn yn bwysig, a byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif.”

 

Meddai Mark Hallas, Prif Weithredwr yr elusen Crimestoppers:

“Mae ein helusen o’r farn bod gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel, gan gynnwys pan fyddant yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Rhaid cael gwared ag achosion o aflonyddu rhywiol, a dyna pam yr ydym yn cefnogi’r ymgyrch pwysig hwn yn llwyr. Os nad ydych yn teimlo’n gyffyrddus ynglŷn ag adrodd am rywrai yr ydych yn eu hadnabod sy’n gyfrifol am aflonyddu’n rhywiol ar eraill, cofiwch y gallwch adrodd amdanynt yn hollol ddienw drwy ffonio llinell y diwydiant rheilffyrdd ar gyfer adrodd am aflonyddu rhywiol, a gaiff ei gweithredu gan Crimestoppers ar 0800 783 0137. Rydym yn addo na fydd neb byth yn dod i wybod eich bod wedi cysylltu â ni, ac y byddwch yn helpu i amddiffyn pobl eraill rhag y niwed a gaiff ei achosi gan yr ymddygiad troseddol annerbyniol hwn.”

 

Mae’r ymgyrch yn ategu ymrwymiad y diwydiant rheilffyrdd i sicrhau nad oes unrhyw fannau anniogel ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae’n dilyn ymgyrchoedd blaenorol i fynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol, yn enwedig ymddygiad sydd o natur rywiol.

 

Gallwch gael gwybod mwy ar wefan Goddef Dim National Rail.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon