Newyddion

Transport-For-Wales-Launch-Public-Survey-To-Help-Shape-Future-Of-Rail-Travel

Cyfle i chi ddweud eich dweud: Trafnidiaeth Cymru yn lansio arolwg cyhoeddus er mwyn helpu i lywio dyfodol teithio ar drenau

30 Awst 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) am i'r cyhoedd gymryd rhan mewn arolwg a fydd yn helpu i gynllunio trafnidiaeth y dyfodol yn dilyn pandemig covid-19.

I gwblhau'r arolwg, ewch i: https://www.smartsurvey.co.uk/s/FC65OJ/

 

Mae'r arolwg newydd yn ymdrin â nifer o wahanol agweddau ar drafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig, gan gynnwys patrymau teithio pobl, eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a sut yr hoffent brynu a defnyddio tocynnau.

Wrth i TrC barhau â'i gynlluniau i drawsnewid trafnidiaeth ar draws eu rhwydwaith, maen nhw am ymgysylltu â'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu, cael mewnwelediad a rhoi platfform iddyn nhw lle gellir clywed, rhannu a gweithredu ar eu syniadau.  Bydd hyn yn helpu TrC i lunio ei brif gynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys moderneiddio rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a thrawsnewidiad y prosiect tri chwarter biliwn o bunnoedd - Metro De Cymru.

 

Dywedodd David O’Leary, Cyfarwyddwr Masnachol a Phrofiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru:

“Mae'r cwsmer wrth wraidd ein proses benderfynu yn TrC ac rydym yn gweithio'n barhaus i wella profiad cyffredinol y cwsmer.

“Mae'r heriau y mae covid-19 wedi’u cyflwyno i ni yn golygu ein bod ni i gyd wedi gorfod ail-werthuso'r ffordd rydyn ni'n gweithio ac yn teithio, ac felly mae mewnwelediad ac ymchwil newydd yn hollbwysig.  Mae angen i'r cyhoedd helpu trwy gymryd rhan yn yr arolwg, felly dilynwch y ddolen i'r wefan a rhannwch eich barn gyda ni."

 

Ychwanegodd Michael Davies, Rheolwr Mewnwelediad ac Arloesi TrC:

“Mae’r byd wedi newid yn ddramatig o ganlyniad i bandemig Covid.  Mae cyfyngiadau dros yr 16 mis diwethaf wedi effeithio ar ein bywydau bob bydd, gwaith, siopa, teithio a chymdeithasu.  Yng Nghymru, mae trafnidiaeth gyhoeddus ac yn benodol teithio ar reilffordd wedi cael ei effeithio gan ostyngiad yn nifer teithwyr na welwyd o’r blaen.

“Rydyn ni nawr yn edrych ar ddyfodol teithio ar reilffordd a hoffem ddeall ychydig mwy am sut rydych chi'n teithio nawr a sut y byddwch chi'n teithio yn y dyfodol agos.  Rydyn ni'n awyddus i ddeall pa ddull cludo rydych chi'n ei ddefnyddio at wahanol ddibenion."

 

I gwblhau'r arolwg, ewch i: https://www.smartsurvey.co.uk/s/FC65OJ/

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon