Newyddion

Transport for Wales Rail encourage passengers to still plan ahead as services increase from September 13th

Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn annog teithwyr i barhau i gynllunio ymlaen llaw wrth i nifer y gwasanaethau gynyddu

10 Medi 2021

Bydd y newidiadau’n golygu cynnydd cyffredinol o 8.5% yn nifer y gwasanaethau.

Mae cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cael eu hannog i wirio manylion eu taith gan y bydd mwy o wasanaethau trên yn rhedeg o fis Medi 2021.

O ddydd Llun 13 Medi, bydd amserlenni rheilffyrdd newydd ar waith ar draws rhwydwaith TrC Cymru a'r Gororau. Bydd y newidiadau hyn yn gweld cynnydd cyffredinol o 8.5% mewn gwasanaethau. Hefyd, bydd dau drên pellter hir 'Mark IV' o ansawdd uchel yn cael eu cyflwyno i wasanaethau teithwyr, gan gynnwys y gwasanaethau arlwyo a lluniaeth hefyd.

Er na fydd y newidiadau yn effeithio ar amseroedd llawer o wasanaethau, dylai cwsmeriaid barhau i sicrhau eu bod yn gwirio eu hamseroedd gadael, cyrraedd a chysylltu yn drylwyr.

 

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: 

“Er mwyn cyflwyno mwy o wasanaethau ar ein rhwydwaith, bu’n rhaid i ni addasu rhywfaint ar ein hamserlen.  Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig iawn bod cwsmeriaid yn gwirio manylion eu taith cyn teithio. 

“Rydyn ni'n disgwyl y bydd mwy o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau, felly bydd ein teclyn Gwirio Capasiti yn ddefnyddiol iawn i helpu cwsmeriaid gynllunio i deithio pan fydd gwasanaethau'n dawelach.

“Ers llacio cyfyngiadau, rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu croesawu llawer o gwsmeriaid yn ôl. Mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn well i'r amgylchedd, ac mae llawer o bobl wedi cael eu hynysu ers amser maith. Rydyn ni'n hapus dros ben bod pobl yn dychwelyd i ddefnyddio opsiynau teithio mwy cynaliadwy.” 

 

Atgoffir cwsmeriaid bod gwisgo gorchudd wyneb tra ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru, oni bai eu bod wedi'u heithrio.  Rhaid gwisgo gorchudd wyneb hefyd mewn gorsafoedd caeëdig. 

Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn dilys cyn defnyddio un o wasanaethau TrC. Gellir gwirio manylion y daith a phrynu tocynnau yma.
 


Newidiadau i’r Amserlen:

Gwasanaethau'r Cymoedd:  Cynyddu'r gwasanaethau i Dreherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr i ddau yr awr a gwasanaethau ychwanegol i Ystrad Mynach a Bargoed.

Ynys y Barri / Penarth: Cynyddu'r gwasanaeth i Ynys y Barri i dri yr awr a chynyddu'r gwasanaeth i Benarth i bedwar yr awr.

Llinell y Ddinas / Llinell Coryton: Cynyddu’r gwasanaeth i ddau yr awr.  Oherwydd gwaith adfer hanfodol i bont reilffordd yng nghanol y ddinas, ni fydd unrhyw wasanaethau uniongyrchol rhwng Coryton a Radur  (* ac eithrio  gwasanaeth uniongyrchol 07:45 Coryton i Radur a 14:59 Radur i Coryton ddydd Llun - dydd Gwener).  Bydd gwasanaethau'n rhedeg rhwng Coryton a Bae Caerdydd a rhwng Radur a Chanol Caerdydd.  Gellir defnyddio gwasanaethau eraill i gysylltu rhwng Caerdydd Heol y Frenhines a Chaerdydd Canolog.

Gwennol Bae Caerdydd:  Bydd y gwasanaeth 08:07 o Caerdydd Heol y Frenhines i Fae Caerdydd a'r gwasanaeth 08:14 o Fae Caerdydd i Caerdydd Heol y Frenhines yn rhedeg fel gwasanaeth bws yn lle trên - ddydd Llun - dydd Gwener.

Caergybi - Caerdydd:  Bydd gwasanaethau uniongyrchol rhwng Caergybi a Chaerdydd yn cael eu hailgyflwyno, gan gynyddu gwasanaethau ar hyd y Gororau rhwng Caerdydd a'r Amwythig.  Bydd gwasanaeth 16:50 Caergybi i Gaerdydd hefyd yn galw ym Mae Colwyn, y Rhyl, Abergele, Prestatyn a'r Fflint.

Stopiau Gwasanaeth Ychwanegol: Bydd mwy o wasanaethau yn stopio yn Prees ac Yorton a bydd gwasanaethau dydd Sul yn stopio mewn gorsafoedd lleol rhwng Amwythig a Birmingham.

Wrecsam i Bidston: Bydd gwasanaeth 12:34 Wrecsam Cyffredinol i Bidston, 13:34 Bidston i Wrecsam Cyffredinol yn rhedeg fel gwasanaeth bws yn lle trên ddydd Mawrth - dydd Iau, oherwydd hyfforddiant hanfodol i yrwyr.

Lein y Cambrian: Bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Pwllheli a Machynlleth, oherwydd gwaith adfer hanfodol Network Rail i Draphont Abermaw. Bydd lleoliadau arosfannau bysiau yn lle trên yn newid mewn rhai gorsafoedd er mwyn gwella amseroedd teithio a bydd amserlenni bysiau yn amrywio trwy gydol y cyfnod hwn, oherwydd gwaith ffordd yn yr ardal. 

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon