Newyddion

Cardif-Bay-Barrage-temporarily-closed-to-walkers-and-cyclists-for-4-evenings-of-concerts-at-Alexandra-Head

Morglawdd Bae Caerdydd ar gau dros dro i gerddwyr a beicwyr ar gyfer pedair noson o gyngherddau ym Mhentir Alexandra

13 Medi 2021

Bydd y morglawdd ym Mae Caerdydd ar gau gan mwyaf i gerddwyr a beicwyr o nos Iau 16 Medi tan ddydd Sul 19 Medi.

Bydd y morglawdd ar gau oherwydd pedwar cyngerdd ym Mhentir Alexandra: y band roc Biffy Clyro nos Iau, noson o gerddoriaeth “drum’n’bass” nos Wener, noson o gerddoriaeth “house” nos Sadwrn a’r band disgo Nile Rodgers & CHIC ddydd Sul.

Bydd y morglawdd ar gau rhwng cylchfan Porth Teigr a phen draw’r morglawdd ym Mhenarth. Dim ond wrth gylchfan Porth Teigr y bydd pobl sy’n mynd i’r cyngherddau yn gallu cyrraedd a gadael y digwyddiadau.

 

Beth fydd ar gau a phryd?

  • Dydd Iau, 16 Medi: Biffy Clyro – bydd llwybr cerdded y morglawdd, rhwng Porth Teigr Way a Phenarth, ar gau o 16:30 tan 00:30. Yn ogystal: bydd Cei Britannia, Rhodfa’r Harbwr a Porth Teigr Way ar gau tan o gwmpas canol nos
  • Dydd Gwener, 17 Medi: Gŵyl Titan – gyda Pendulum – bydd llwybr cerdded y morglawdd ar gau o 12:30 tan 00:30
  • Dydd Sadwrn, 18 Medi: Gŵyl Titan – gydag Eric Prydz – bydd llwybr cerdded y morglawdd ar gau o 12:30 tan 00:30
  • Dydd Sul, 19 Medi: Digwyddiad diwrnod cyfan gyda Nile Rodgers – bydd llwybr cerdded y morglawdd ar gau o 12:30 tan 00:30. Yn ogystal: bydd Cei Britannia, Rhodfa’r Harbwr a Porth Teigr Way ar gau o 12:00 tan o gwmpas canol nos ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul

Yn ystod y cyfnodau dan sylw, bydd y safle ar agor i ddeiliaid tocyn yn unig. Os byddwch yn teithio o Benarth, gwnewch yn siŵr eich bod ar ochr Caerdydd o’r morglawdd cyn bod y safle’n cau. Os ydych yn ddeiliad tocyn, bydd y fynedfa a’r allanfa ar gyfer y digwyddiadau wrth ymyl cylchfan Porth Teigr ar ochr y Bae o lwybr cerdded y morglawdd.

 

Ffynonellau’r wybodaeth: Newyddion y BBC a Wales Online

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon