Newyddion

Traveline-Cymru-Launch-New-Range-Of-Business-Services

All Gwasanaethau Busnes newydd Traveline Cymru helpu eich sefydliad chi?

17 Medi 2021

O hyfforddiant TravelineCymru+ ar-lein ynghylch sut mae defnyddio ein gwasanaethau gwybodaeth i Gynlluniwr Taith Aml-ddull newydd i’w roi ar eich gwefan.

Mae cyfres Traveline Cymru o wasanaethau eisoes yn darparu gwybodaeth gyfredol am deithio, ond bydd y rhaglenni newydd hyn o wasanaethau i fusnesau’n galluogi sefydliadau i annog eu gweithlu i ddefnyddio’r opsiynau teithio diweddaraf, cyflymaf a mwyaf diogel i deithio’n ôl ac ymlaen i’w cyfleusterau, boed yn wasanaethau bws, yn wasanaethau trên, yn gludiant cymunedol neu’n ddulliau teithio llesol.

 

TravelineCymru+

Mae’r gwasanaeth newydd cyntaf, sef TravelineCymru+, wedi’i anelu nid yn unig at gwmnïau sy’n croesawu eu staff yn ôl i’r swyddfa wedi i fesurau’r cyfnod clo gael eu llacio, ond hefyd at y diwydiant twristiaeth a hamdden er mwyn darparu gwybodaeth i staff, ymwelwyr a gwirfoddolwyr.

Yn rhan o’r prosiect gellir archebu lle mewn sesiynau digidol a gynhelir bob chwarter yma, er mwyn rhoi i hyrwyddwyr teithio’r presennol a’r dyfodol yr adnoddau hanfodol sy’n ofynnol i allu cyhoeddi gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau ar draws sefydliadau.

I ategu TravelineCymru+, mae rhaglen Hyfforddi’r Hyfforddwr bresennol Traveline wedi’i hymestyn er mwyn cynorthwyo cwmnïau sy’n adleoli ac sy’n ailintegreiddio staff yn ôl yn eu swyddfeydd. Mae cwmnïau megis Canolfannau Byd Gwaith Cymru, Lexis Nexis, y BBC a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cymryd rhan yn flaenorol yn y cynllun. Cafodd ei ddatblygu’n wreiddiol i hyfforddi hyrwyddwyr mewn sefydliadau, a oedd yn cael eu hannog wedyn i rannu gwybodaeth am wasanaethau Traveline Cymru ag aelodau o staff, ymwelwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb ynddynt.

Mae Luke Williams wedi bod yn gweithio fel Swyddog Marchnata i Traveline ers pum mlynedd a fe sy’n gyfrifol am gynnal y sesiynau Hyfforddi’r Hyfforddwr hyn, sy’n sesiynau wyneb yn wyneb, ledled Cymru. Cafodd y digwyddiadau eu hunain eu treialu’n ôl yn 2017 mewn partneriaeth â’r elusen ddigartrefedd Llamau a phrif arbenigwr y DU ar anabledd, sef Remploy, a’u diben yw paratoi staff i gyflwyno eu sesiynau hyfforddiant Traveline Cymru eu hunain.

 

Meddai Luke, wrth lansio TravelineCymru+:

“Ar ôl cynnal sesiynau Hyfforddi’r Hyfforddwr yn llwyddiannus yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rwyf wrth fy modd ein bod yn bwriadu mynd yn ddigidol gyda TravelineCymru+ a chynnig y sesiynau hyfforddiant rhad ac am ddim hyn i fwy fyth o fusnesau ledled Cymru. Mae sicrhau bod gan fusnesau yr adnoddau gofynnol i annog eu staff, eu cwsmeriaid a’u hymwelwyr i deithio ar fws, ar drên, ar feic ac ar droed yn allweddol. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â ‘Hyrwyddwyr Teithio’ y dyfodol ac at helpu mwy fyth o fusnesau i ddechrau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a dulliau teithio llesol.”

Yn rhan o’r ddarpariaeth, gall cwmnïau partner elwa o becyn adnoddau sy’n cynnwys sleidiau ategol, deunydd darllen a deunydd hyrwyddo ar gyfer cyflwyno’r hyfforddiant yn y dyfodol. Gallant elwa hefyd o ystod o ddeunydd marchnata cynaliadwy sy’n cynnwys taflenni, deunydd ysgrifennu a chwpanau coffi, sy’n galluogi’r cyfranogwyr i ddangos ymhellach y manteision y mae gwasanaethau Traveline Cymru yn eu cynnig.

 

Wijet Cynlluniwr Taith Aml-ddull

Yn olaf bydd Traveline Cymru yn lansio wijet cynlluniwr taith newydd, a fydd yn galluogi sefydliadau i lawrlwytho fersiwn wedi’i deilwra o gynlluniwr taith Traveline Cymru ar eu gwefan eu hunain. Erbyn hyn mae’r adnodd, a fydd yn adlewyrchu’r hyn y mae’r cynlluniwr taith sydd ar wefan Traveline Cymru yn gallu ei wneud, yn cynnwys cynllunwyr dulliau teithio llesol yn ogystal â meysydd y gellir eu teilwra’n gyfan gwbl, megis y rhai ar gyfer amser gadael/cyrraedd, y nifer fwyaf o newidiadau a chyflymder cerdded, ac mae hefyd yn rhad ac am ddim.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru:

“Rydym yn falch iawn o lansio’r gwasanaethau newydd hyn ar gyfer y sawl sy’n dychwelyd i’r swyddfa ar ôl y pandemig, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cynllunio gymaint ag sy’n bosibl ymlaen llaw. I’r cwmnïau y mae eu staff a’u cwsmeriaid yn dibynnu’n helaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus, bydd y gwasanaethau hyn yn eu galluogi i gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am deithio, gan gynnwys gwybodaeth am y llwybr cyflymaf, rhataf a mwyaf effeithlon iddynt.

“Ein gobaith yw nid yn unig bod yr adnoddau’n meithrin hyder pobl yn y gwasanaethau a ddarperir gennym ni, wrth i gwmnïau ddefnyddio’r adnoddau gyda’u cynulleidfaoedd, ond hefyd bod y cwmnïau eu hunain yn elwa o gael eu gweithlu’n ôl yn y swyddfa ac o gael mwy o gwsmeriaid yn dod i’w cyfleusterau.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon