Cymerwch ran yn Wythnos Beicio i’r Ysgol 2021 gyda Sustrans
22 Medi 2021Caiff y digwyddiad hwn sy’n para wythnos ei drefnu gan Sustrans ac Ymddiriedolaeth Bikeability, ac mae’n annog teuluoedd i fynd i’r ysgol ar gefn beic a sgwter.
Bydd yr Wythnos Beicio i’r Ysgol yn digwydd rhwng dydd Llun 27 Medi a dydd Gwener 1 Hydref 2021. Yn ystod yr wythnos, caiff teuluoedd eu hannog i fynd i’r ysgol a thu hwnt ar gefn beic neu sgwter, a dathlu’r manteision enfawr y gall dulliau llesol o deithio i’r ysgol eu sicrhau i iechyd a lles plant ac i’r amgylchedd.
Beth yw manteision teithio ar gefn beic a sgwter?
Mae’r manteision yn cynnwys y canlynol:
- Gwella ffitrwydd corfforol
- Hybu iechyd meddwl a lleihau straen, drwy ymarfer corff
- Cyflwyno plant i arferion teithio iach pan fyddant yn ifanc
- Gwneud gweithgaredd gyda’ch gilydd fel teulu
- Helpu plant i ddod i adnabod eu hardal leol
- Pobl o bob oed yn gallu mwynhau’r gweithgaredd
- Lleihau’r llygredd a achosir wrth deithio i’r ysgol
- Mae’n hwyl!
Sut y gall fy ysgol gymryd rhan yn Wythnos Beicio i’r Ysgol Cymru?
Mae ystod o adnoddau ar gael i gynorthwyo ysgolion drwy gydol yr Wythnos Beicio i’r Ysgol. Mae’r adnoddau hynny’n cynnwys:
- posteri ar gyfer ysgolion
- pump o weithgareddau dyddiol sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, i’w cwblhau yn y dosbarth o’r Blynyddoedd Cynnar i Gyfnod Allweddol 3
- canllaw ar ffurf fideo, sy’n cynnwys camau syml i wirio bod eich beic yn ddiogel i’w ddefnyddio
- cyflwyniadau ar gyfer ysgolion.
Nod y gweithgareddau hyn yw ysbrydoli disgyblion i ystyried eu teithiau i’r ysgol, deall manteision dulliau llesol o deithio, ac ystyried achosion ac effeithiau llygredd aer.
Cael teuluoedd i gymryd rhan
Byddai Sustrans yn hoffi cael gwybod faint o deuluoedd sy’n teithio i’r ysgol ar gefn beic neu sgwter yn ystod Wythnos Beicio i’r Ysgol 2021.
Bydd pob teulu sy’n llenwi ffurflen fer ar-lein i roi gwybod i Sustrans y bydd eu plant yn cymryd rhan yn cael cyfle awtomatig i ennill beic Frog mewn raffl.
Mae Sustrans wedi creu adnoddau ar gyfer ysgolion, sy’n adnoddau y gellir eu hanfon adref at rieni a gwarcheidwaid ynglŷn â’r Wythnos Beicio i’r Ysgol ac sy’n gofyn i deuluoedd roi gwybod i Sustrans os byddant yn cymryd rhan.
Wyddech chi fod modd hefyd i chi gynllunio eich llwybrau beicio gan ddefnyddio Cynlluniwr Beicio Traveline Cymru? Ewch i’n gwefan, cliciwch ar yr eicon beic ar ein Cynlluniwr Taith, a nodwch fan cychwyn a man gorffen eich taith!
Ffynhonnell y wybodaeth: Sustrans Cymru