Newyddion

Transport-for-Wales-Start-Improvement-Works-At-Cardiff-Central-Station

Gwelliannau’n dechrau yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn rhan o Weledigaeth Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru

22 Medi 2021

Mae gwaith i wella cyfleusterau i gwsmeriaid yng ngorsaf Caerdydd Canolog wedi dechrau ers dydd Llun 27 Medi.

Nod yr holl waith uwchraddio fydd gwella profiad cyffredinol y cwsmeriaid sy’n ymweld â phrif orsaf Cymru.

Mae buddsoddiad cydweithredol gwerth miliynau o bunnoedd i drawsnewid yr orsaf ar y gweill dros y blynyddoedd nesaf. Bydd cyfleusterau i gwsmeriaid yn cael eu huwchraddio dros y misoedd nesaf, a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus gorsaf Caerdydd Canolog i fod yn orsaf fwy cynaliadwy a hygyrch sy’n addas ar gyfer y dyfodol.  

Ddiwedd mis Medi, bydd gwaith yn dechrau i adnewyddu ystafelloedd aros yr orsaf a’r toiledau i gwsmeriaid, adnewyddu’r toiled hygyrch a’r cyfleusterau newid i rieni a babanod, gwella holl arwyddion yr orsaf, gosod peiriant dosbarthu dŵr newydd yng nghyntedd deheuol yr orsaf i helpu cwsmeriaid i osgoi defnyddio poteli dŵr plastig untro, cyflwyno biniau ailgylchu a gwastraff newydd a gosod socedi USB newydd yn y prif gyntedd ac yn ardal aros Platfform 8.

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr/dechrau Ionawr. Mae TrC yn annog cwsmeriaid i ganiatáu amser ychwanegol rhag ofn y bydd tarfu posibl. ​​​​​​​

 

Dywedodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trafnidiaeth TrC: 

“Rydyn ni’n buddsoddi’n barhaus mewn gwella gorsafoedd ar draws ein rhwydwaith ac mae pob rhaglen waith yn cynnig manteision amlwg i’n cwsmeriaid. Mae cryn dipyn o waith cynllunio wedi mynd rhagddo i sicrhau ein bod yn cyrraedd y pwynt darparu.

"Hoffwn ddiolch i’n cydweithwyr a’n partneriaid prosiect sydd wedi bod yn rhan o’r broses ac a fydd yn parhau i’n cefnogi wrth i ni gyflawni’r gwelliannau pwysig hyn. Hoffwn ddiolch hefyd i’n cwsmeriaid a’n hymwelwyr sy’n dod i orsaf Caerdydd Canolog am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni gyflawni’r gwelliannau hyn.” 

 

Ychwanegodd Wayne Creswell, Rheolwr Gorsaf Caerdydd Canolog: 

“Gorsaf Caerdydd Canolog yw’r un brysuraf yng Nghymru o bell ffordd ac mae’n rhan hanfodol o’n rhwydwaith trafnidiaeth. Rydyn ni’n falch iawn o weld y buddsoddiad hwn mewn cyfleusterau i gwsmeriaid drwy’r orsaf gyfan ac rydw i’n hyderus y bydd staff yn cefnogi ein cwsmeriaid a’n contractwyr ar y safle, i sicrhau ein bod yn tarfu cyn lleied â phosibl ac yn parhau i ddarparu gwasanaeth di-dor o’r radd flaenaf. Rydyn ni’n cydweithio i sicrhau bod ein gorsafoedd yn llefydd diogel, hygyrch a chroesawgar i deithwyr.

“Gall hyd yn oed newidiadau bach gael effaith fawr ar ein cwsmeriaid, ac rydw i’n hyderus y byddan nhw’n croesawu'r cyfleusterau gwell hyn. Mae gan orsaf Caerdydd Canolog rôl bwysig i’w chwarae o ran parhau i ddatblygu Caerdydd fel cyrchfan a chanolfan ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol.

"Byddwn yn gweld mwy o welliannau o lawer yn yr orsaf ac yn yr ardal gyfagos dros y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni ar daith gyffrous a hoffwn ddiolch ymlaen llaw i staff yr orsaf ac ymwelwyr am eu cefnogaeth barhaus wrth i ni symud ymlaen drwy bob cam.” ​​​​​​​

 

Gall teithwyr ar drenau edrych ymlaen at nifer o ddatblygiadau trawsnewidiol yng Ngorsaf Caerdydd Canolog yn y dyfodol. Bydd rhagor o waith uwchraddio’n cael ei wneud y flwyddyn nesaf pan fydd sgriniau newydd yn cael eu gosod yn lle’r holl sgriniau digidol presennol sy’n rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid. 

Gorsaf Caerdydd Canolog yw’r orsaf brysuraf yng Nghymru o hyd, gyda dros 12.6 miliwn o deithwyr yn dod i mewn ac yn gadael dros y 12 mis diwethaf. (ffigurau a ryddhawyd gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) ym mis Rhagfyr 2020).

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon