Newyddion

Traveline-Cymru-Welsh-Contact-Centre-Awards-Nomination

Canolfan gyswllt yn y gogledd yn cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt Cymru

24 Medi 2021

Mae canolfan gyswllt Gymraeg ym Mhenrhyndeudraeth wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt Cymru eleni, sy’n wobrau o fri.

Mae PTI Cymru wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Canolfan Gyswllt Fach y Flwyddyn, oherwydd ei lefelau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid ac oherwydd y twf a welwyd yn nifer ei gleientiaid drwy gydol 2020/21 a’r pandemig Coronafeirws.

Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae canolfan gyswllt ddwyieithog PTI Cymru wedi ymdrin â 1,045,182 o alwadau ar ran ei gleientiaid presennol sy’n cynnwys Traveline Cymru, fyngherdynteithio, Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, NextBike UK a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, llwyddodd y ganolfan gyswllt sydd â 38 aelod o staff i ennill 11 o gleientiaid newydd amlwg sy’n cynnwys Traveline UK, Cadw a Chwaraeon Cymru, ac o ganlyniad mae nifer y staff a gyflogir gan y cwmni wedi cynyddu’n sylweddol.

Mae ei dwf parhaus yn cyd-fynd â’i lefelau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid, drwy ei wasanaethau ar gyfer ymdrin ag ymholiadau cyffredinol, ei wasanaethau derbynfa a’i wasanaethau ar gyfer ymdrin â chwynion dros y ffôn, drwy ebost ac ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Mae PTI yn ymfalchïo yn ei allu i gynnal lefelau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid, drwy ei wasanaethau ar gyfer ymdrin ag ymholiadau cyffredinol, ei wasanaethau derbynfa a’i wasanaethau ar gyfer ymdrin â chwynion dros y ffôn, drwy ebost ac ar gyfryngau cymdeithasol, a llwyddodd i sicrhau sgôr o 98.4% ar gyfer bodlonrwydd cwsmeriaid yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae cyflawniadau’r ganolfan gyswllt yn fwy trawiadol fyth o gofio’r pandemig COVID-19. Cyn pen wythnos ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rheolau’r cyfnod clo, gofynnwyd i aelodau timau ar draws y cwmni weithio gartref nid yn unig er mwyn gallu parhau i ddarparu lefel uchel o wasanaeth a diweddariadau hollbwysig i’w cwsmeriaid ond hefyd er mwyn iddynt ofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain.

Cafodd system deleffoni newydd ei chyflwyno er mwyn gwella cysylltiadau â chwsmeriaid a sicrhau bod pobl yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio yn ystod y cyfnod clo; a chafodd gwybodaeth hanfodol am wasanaethau a diogelwch ei rhannu drwy’r dudalen ‘Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth’, er mwyn sicrhau bod gweithwyr allweddol a phobl eraill yr oedd angen iddynt deithio’n gallu gwneud hynny’n hyderus ac yn ddiogel. Yn ogystal, llwyddodd tîm gofal cwsmer PTI i ragori drwy ddarparu cyfleusterau canolfan gyswllt i’r gwasanaeth Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol a’r Eisteddfod Genedlaethol, tra oeddent yn gwneud trefniadau i’w staff weithio gartref ar ôl iddynt orfod cau eu swyddfeydd oherwydd y pandemig.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr PTI Cymru, ar ôl cael gwybod bod y cwmni wedi cyrraedd y rhestr fer:

“Ar ôl blwyddyn gythryblus, mae clywed bod ein canolfan gyswllt wedi cyrraedd y rhestr fer a’i bod gyda’r gorau yng Nghymru yn golygu llawer i ni. Yn ogystal â thystio i waith caled ein staff, mae hefyd yn amlygu ein hymrwymiad i ddarparu adnoddau heb eu hail i bobl Cymru a’n cleientiaid yn ystod cyfnod mor heriol.

“Hoffwn ddiolch i’r beirniaid am gydnabod ein hymrwymiad parhaus i gynorthwyo ein cleientiaid ledled y wlad, ac edrychwn ymlaen at fynychu’r seremoni wobrwyo yn ddiweddarach eleni.”

 

Caiff PTI Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a chafodd ei sefydlu’n wreiddiol yn 1999 er mwyn darparu gwasanaeth Traveline yng Nghymru. Erbyn hyn, mae’n cynnig peth wmbredd o wasanaethau eraill hefyd sy’n cynnwys y ganolfan gyswllt fasnachol lwyddiannus, cymorth ym maes marchnata, data ynghylch gwasanaethau bws, a gwasanaethau cyfieithu ledled Cymru a’r DU.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon