Newyddion

FOR-Cardiff-Launch-New-Scheme-To-Help-Keep-Women-Safe

Ymgyrch newydd gan Caerdydd AM BYTH yn rhoi sylw i ddiogelwch menywod yn ystod Pythefnos y Glas

27 Medi 2021

O 21 Medi tan 4 Hydref, bydd 35 o fyrddau hysbysebu digidol yn goleuo’r brifddinas er mwyn helpu menywod i deimlo’n fwy diogel yn ystod y nos.

O ddydd Mawrth 21 Medi ymlaen, bydd 35 o fyrddau hysbysebu digidol yn goleuo’r brifddinas ac ardaloedd y mae llawer o fyfyrwyr yn mynd iddynt yn rhan o fenter newydd – Caerdydd Diogel AM BYTH – er mwyn helpu menywod i deimlo’n fwy diogel yn ystod y nos, a bydd yn para tan ddiwedd Pythefnos y Glas (20 Medi – 4 Hydref).

Daw’r ymgyrch wedi i adroddiad diweddar ganfod bod 80 y cant o fenywod yn y DU wedi datgelu iddynt ddioddef aflonyddwch rhywiol mewn mannau cyhoeddus*.

 

Mae’r fenter gan Caerdydd AM BYTH wedi’i chroesawu gan fyfyrwyr ar draws y ddinas, gan gynnwys myfyrwraig ffisiotherapi sydd yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd, Jemma Shand (22), a ddywedodd:

“Yn ystod Pythefnos y Glas 2019, roedd un o’m ffrindiau yn cerdded yn ôl i’w neuadd breswyl ar ei phen ei hun pan ddechreuodd person dieithr ei dilyn.

“Yn rhywle, llwyddodd y person i ddod yn ddigon agos ati a dechrau cyffwrdd yn amhriodol â hi.

“Roeddwn yn casáu cerdded ar fy mhen fy hun yn ystod Pythefnos y Glas ac mae’n gas gen i wneud hynny o hyd, ddwy flynedd yn ddiweddarach, er bod y person hwnnw wedi’i arestio.

“Mae gwybod bod y byrddau hysbysebu digidol hyn yn goleuo strydoedd tywyll, a’u bod yn cynnwys codau QR er mwyn i bobl allu cael gafael ar Fannau Diogel, yn gwneud i fi deimlo’n fwy hyderus wrth gerdded yng Nghaerdydd yn ystod y nos.”

 

Mae Caerdydd AM BYTH yn galw ar fusnesau ledled y ddinas i gydweithio a chreu rhwydwaith o Fannau Diogel. Ac mae’r cynllun yn annog pob busnes, boed yn rhan o economi’r dydd neu economi’r nos, i roi cymorth i unrhyw bobl sy’n teimlo yn anniogel – ac nid i fenywod yn unig – drwy fod yn gyfeillgar, bod yn barod i wrando a bod yn barod i ffonio rhywun, boed yn ffrind, yn dacsi neu’n wasanaeth brys ar 999.

Bydd y sgriniau digidol sydd mewn mannau megis Heol y Plwca, Heol y Gogledd a Ffordd Tresilian, yn cynnwys cod QR sy’n cysylltu â’r ap Safe Places lle bydd unrhyw un sy’n teimlo yn ofnus neu wedi dychryn yn gallu gweld eu ‘Man Diogel’ dynodedig agosaf.

Gall Mannau Diogel cofrestredig gael eu hamlygu hefyd gan sticer yn eu ffenest, ac maent wedi’u rhestru ar wefan Caerdydd Diogel AM BYTH.

Bydd y cynllun Mannau Diogel yn para ar ôl Pythefnos y Glas, a gall busnesau wneud cais i fod yn rhan o’r fenter drwy wefan Caerdydd Diogel AM BYTH.

Mae busnesau sydd wedi cofrestru i fod yn Fan Diogel wedi cael cymorth a hyfforddiant er mwyn sicrhau bod eu haelodau o staff yn gallu ymdrin yn effeithiol â sefyllfaoedd anodd.

Roedd Gwesty’r Angel yng Nghaerdydd gyda’r cyntaf i gyhoeddi y byddai’n agor ei ddrysau i unrhyw bobl y mae angen lloches arnynt yn syth yng nghanol y ddinas, yn dilyn llofruddiaeth drasig Sarah Everard ym mis Mawrth 2021 – ac mae’r gwesty bellach yn aelod swyddogol o’r cynllun.

 

Meddai Rheolwr Cyffredinol Gwesty’r Angel yng Nghaerdydd, Richard Smith:

“Wrth i fusnesau lletygarwch ailddechrau croesawu pobl dan do, rydym wedi gweld llawer o bobl yn dod drwy ein drysau i chwilio am loches, ac mae llawer ohonynt yn fenywod ifanc sy’n teimlo eu bod mewn perygl.

“Os oes rhywun wedi rhedeg allan o arian ac angen lifft adref yn ddiogel, neu os oes rhywun yn teimlo’n agored i niwed neu’n anniogel mewn unrhyw ffordd, rydym yma i helpu.

“Ochr yn ochr â Marsialiaid Nos Caerdydd AM BYTH, mae’r fenter Mannau Diogel yn rhywbeth a fydd yn sicrhau bod Caerdydd yn fan diogel i bawb.”

 

Meddai Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH:

“Ein huchelgais yw sicrhau bod Caerdydd yn ddinas lle mae menywod yn teimlo’n hyderus ac yn teimlo bod croeso iddynt pan fyddant yn cerdded drwy’r brifddinas, yn ystod y dydd neu’r nos.

“Wrth i fusnesau Caerdydd gofrestru i fod yn Fannau Diogel, gallwn greu amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng nghanol Caerdydd neu sy’n ymweld â chanol y ddinas.”

Meddai wedyn: “Rydym o’r farn bod gan Gymru a’i phrifddinas gyfrifoldeb i arwain y ffordd o safbwynt creu amgylchedd mwy diogel i fenywod.”

 

I lawrlwytho’r ap ‘Safe Places’ neu gael gwybod mwy am sut y gall busnes yng Nghaerdydd gofrestru i fod yn Fan Diogel: https://forasafercardiff.com/cy/.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Caerdydd AM BYTH

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon