Newyddion

Swansea-Free-Weekend-Bus-Initiative-Returns-For-October-Half-Term

Menter Abertawe, sy’n galluogi pobl i deithio am ddim ar fysiau ar benwythnosau, yn dychwelyd ar gyfer gwyliau hanner tymor mis Hydref

05 Hydref 2021

Manteisiodd bron 220,000 o deithwyr ar y cynllun pan oedd ar waith yn ystod gwyliau’r haf ym mis Awst.

Caiff y cynllun teithio am ddim ar fysiau ei ariannu gan Gyngor Abertawe, a bydd yn dychwelyd ar gyfer y ddau benwythnos yn ystod y gwyliau hanner tymor, gan ddechrau ddydd Sadwrn 23 Hydref am dri diwrnod yn olynol (dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun) ac yna ddydd Gwener 29 Hydref am dri diwrnod yn olynol (dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul) ar gyfer teithiau sy’n dechrau cyn 7pm.

Yn ôl Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, roedd yr adborth a gafwyd ynglŷn â’r fenter yn ystod yr haf yn eithriadol o gadarnhaol, a gwelwyd cynnydd o 65% yn nifer y teithwyr ar rai o’r llwybrau prysuraf ar benrhyn Gŵyr.

 

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, wedyn:

“Gwnaethom lansio #BysusAmDdimAbertawe er mwyn helpu teuluoedd a busnesau wrth iddynt ddod allan o’r pandemig. Clywais gan deuluoedd fod y fenter wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddynt. Roeddent yn gallu mwynhau diwrnodau allan heb orfod poeni am gost teithio.

“At hynny, rhoddodd y fenter hwb i’r economi leol wrth i bobl deithio i ganol y ddinas a’n hatyniadau cymunedol a’n canolfannau siopa. Bydd y fenter ar waith yn ystod gwyliau hanner tymor mis Hydref er mwyn i deuluoedd allu teithio am ddim unwaith eto.”

 

Croesawodd Mark Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, nifer y teithwyr a oedd yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus:

“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth posibl yn Abertawe i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Bydd #BysusAmDdimAbertawe yn ystod y gwyliau hanner tymor yn digwydd wythnos yn unig cyn dechrau Uwchgynhadledd COP26, pan fydd arweinwyr y byd yn cwrdd yn Glasgow i ystyried y camau nesaf yn yr ymdrech ryngwladol i ymdrin â’r broblem.

“Rydym yn gobeithio y bydd #BysusAmDdimAbertawe yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy aml a’u ceir yn llai aml yn yr hirdymor, gan helpu i leihau llygredd a thagfeydd traffig.

“Roedd yn galonogol gweld bod y fenter yn ystod yr haf wedi bod mor boblogaidd, ac rydym eisoes yn ystyried sut y gallwn ei hailgyflwyno efallai yn ystod gwyliau’r ysgol dros gyfnod y Nadolig.”

 

Mae’r cynllun yn golygu na fydd yn rhaid i bobl sy’n dechrau ac yn gorffen eu taith ar fws o fewn ardal Cyngor Abertawe ar y chwe diwrnod dan sylw’n gorfod talu am y gwasanaeth, cyhyd â bod eu taith yn dechrau cyn 7pm.

Cytunwyd y byddai’r fenter yn gorffen am 7pm yn lle 11pm, sef yr amser gorffen blaenorol, yn dilyn trafodaethau â chwmnïau bysiau, a byddwn yn eu cynorthwyo i ddarparu’r gwasanaeth yn ystod y chwe diwrnod dan sylw.

Mae’r fenter yn rhan o Gynllun Adferiad y Cyngor, sy’n werth £20 miliwn ac y bwriedir iddo gynorthwyo teuluoedd a rhoi hwb i’r economi leol yn dilyn y pandemig.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Abertawe

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon