Newyddion

Traveline-Cymru-Launches-New-Multi-Modal-Travel-Map

Traveline Cymru yn lansio ‘Map Teithio’ newydd sy’n cynnwys gwybodaeth am amryw ddulliau o deithio

12 Hydref 2021

Mae Traveline Cymru wedi lansio Map Teithio newydd a fydd yn disodli ei Chwiliwr Arosfannau Bysiau presennol.

Mae’r nodwedd newydd yn galluogi cwsmeriaid i weld arosfannau bysiau, gorsafoedd trenau, arosfannau parcio a theithio* a gorsafoedd Nextbike yn yr ardal y maent am chwilio ynddi, a’r cyfan ar un map rhyngweithiol.

Mae Traveline yn deall mor bwysig yw hi i’n cwsmeriaid eu bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth hawdd ei deall am deithio. Felly, yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, mae’r tîm wedi bod yn gweithio y tu ôl i’r llenni gyda’i dîm ei hun o gwsmeriaid i roi prawf ar y map er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y cyhoedd yn y ffordd orau posibl. Yn benodol, mae’r panel wedi bod yn datblygu nodwedd newydd sbon sy’n caniatáu mynediad hwylus i wybodaeth am amryw ddulliau o deithio yng Nghymru.

Gall defnyddwyr fynd i Fap Teithio Traveline Cymru ar ei wefan neu’i ap, chwilio am ardal yng Nghymru, dewis faint bynnag o ddulliau teithio yr hoffent eu gweld ar y map, clicio ar eicon teithio yn yr ardal a chael gafael ar yr holl wybodaeth berthnasol angenrheidiol am yr arhosfan neu’r orsaf dan sylw.

Traveline Cymru yw un o ranbarthau cyntaf Traveline yn y DU i gynnig opsiynau teithio aml-ddull ar ei blatfformau gwybodaeth. Yn dilyn y rownd ddiweddaraf o ganlyniadau ynglŷn â bodlonrwydd cwsmeriaid, cadarnhawyd bod darparu gwybodaeth glir a chywir yn hollbwysig i ddefnyddwyr trafnidiaeth a llwyddodd Traveline i sgorio 98.4% ar gyfer lefelau bodlonrwydd o ran hynny.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru:

“Rydym yn hynod o falch o allu lansio’r gwasanaeth gwybodaeth hollgynhwysol hwn am deithio i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru, a fydd yn eu galluogi i weld y dulliau teithio sydd ar gael a’r dulliau teithio sydd fwyaf addas ar gyfer eu taith. Dyma un yn unig o’r adnoddau yr ydym wedi bod yn gweithio arnynt er mwyn gwella’r profiad o gynllunio taith, a byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach i’n gwefan ar gyfer dyfeisiau symudol yn ystod yr wythnosau nesaf.”

 

Gall cwsmeriaid gynllunio eu teithiau drwy ymweld â’r wefan ddwyieithog neu drwy ddefnyddio’r ap ar gyfer dyfeisiau symudol, y gwasanaeth negeseuon testun neu sianelau ar gyfryngau cymdeithasol. Fel arall, gall cwsmeriaid ffonio llinell Traveline Cymru ar gyfer gwasanaethau i gwsmeriaid, sef y rhif Rhadffôn 0800 464 0000, a fydd ar gael bob dydd dros yr ŵyl ar wahân i Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan.

 

* Dylech nodi bod y gwaith o ychwanegu gwybodaeth am arosfannau parcio a theithio yn dal i fynd rhagddo.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon