Newyddion

Stagecoach-South-Wales-Drivers-Strike-To-Cause-Service-Disruption

Disgwylir y bydd streiciau gan yrwyr Stagecoach yn Ne Cymru yn amharu ar wasanaethau yng Nghoed-duon, Bryn-mawr, Pont-y-pŵl a Chwmbrân o ddydd Mawrth 19 Hydref ymlaen

18 Hydref 2021

Ni fydd y streiciau’n effeithio ar wasanaethau ar draws Aberdâr, tref Caerffili (ar wahân i wasanaeth 26), Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. 

Disgwylir y bydd staff yn nepos Stagecoach yng Nghwmbrân, Bryn-mawr a Choed-duon yn mynd ar streic drwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd.

Dywedodd Unite Cymru fod ei aelodau’n haeddu "cyflog teg" o £10.50 yr awr ac y byddent erbyn hyn yn mynd ar streic ar ôl dwy rownd o drafodaethau "ofer" ag Acas, y gwasanaeth cymodi.

Dywedodd Stagecoach fod ei staff yn haeddu codiad cyflog a bod y cwmni "wedi gwneud popeth posibl wrth geisio dod i gytundeb".

 

Dyma ddyddiadau’r streiciau arfaethedig:

  • O 19 Hydref tan 23 Hydref
  • 25 Hydref
  • 29 Hydref a 30 Hydref
  • O 1 Tachwedd tan 6 Tachwedd
  • 8 Tachwedd a 9 Tachwedd
  • 12 Tachwedd
Ni fyddwn yn gallu diweddaru ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni i adlewyrchu’r newidiadau hyn. Felly, dilynwch Stagecoach yn Ne Cymru ar Twitter @StagecoachWales ac ewch i wefan Stagecoach yn Ne Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Byddwn hefyd yn rhoi unrhyw ddiweddariadau pellach ar ein tudalen Problemau Teithio. Os oes angen unrhyw help arnoch i gynllunio eich taith, ffoniwch ein rhif Rhadffôn ar 0800 464 00 00.

 

Meddai swyddog rhanbarthol Unite, Alan McCarthy: "Maen nhw’n dweud o hyd y byddent yn hoffi rhoi £10.50 yr awr ond nad ydynt yn gallu gwneud hynny am resymau ariannol."

Ychwanegodd fod y cyflog y gofynnir amdano yn gyflog rhesymol, o gofio’r modd y mae gweithwyr hanfodol wedi bod yn darparu gwasanaethau drwy gydol y pandemig.

Dywedodd Stagecoach yn Ne Cymru fod y cwmni eisoes wedi gallu rhoi "codiad cyflog da" i’w staff mewn depos eraill a’i fod wedi ymrwymo i ddod i gytundeb ag aelodau Unite.

"Mae’n siomedig iawn nad yw cynrychiolwyr rhanbarthol Unite wedi efelychu ein hagwedd gadarnhaol a hyblyg yn y trafodaethau yn Acas dros gyfnod o oriau lawer," meddai.

"Ein blaenoriaeth fu ceisio dod i gytundeb sy’n sicrhau codiad cyflog cynaliadwy i’n gweithwyr yn syth, gan gydnabod eu hymroddiad drwy gydol y pandemig.

"Mae hefyd yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y rhwydwaith bysiau ar gyfer cymunedau lleol mewn cyfnod sy’n heriol iawn."

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Newyddion y BBC

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon