Newyddion

Transport-for-Wales-South-Wales-Metro-Works-Between-Merthyr-Tydfil-and-Pontypridd

Gwaith ar Fetro De Cymru yn parhau rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd rhwng 23 Hydref a 27 Hydref

20 Hydref 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn parhau i fwrw ymlaen â chynlluniau trawsnewidiol ar gyfer Metro De Cymru gyda gwaith rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd.

Mae hwn yn ddatganiad i’r wasg a gafwyd o wefan Trafnidiaeth Cymru.

 

Bydd y rheilffordd rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd ar gau rhwng dydd Sadwrn 23 Hydref a dydd Mercher 27 Hydref er mwyn caniatáu i waith peirianyddol gael ei wneud, fel rhan o'r paratoadau ar gyfer cyflwyno trenau tram trydan newydd sbon.  Bydd gwasanaethau bysiau yn cymryd lle’r trên rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd.

Mae'r trawsnewidiadau gwerth tri chwarter biliwn o bunnoedd hyn o Linellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach, amlach rhwng Caerdydd a blaenau'r cymoedd, gan gynnwys Merthyr Tudful.

Bydd y blocâd yn caniatáu i beirianwyr wneud gwaith cymhleth gan gynnwys ail-leoli signalau, gosod a phrofi offer newydd, dadfeilio, ailalinio'r trac a gosod y system cyfarpar llinell uwchben.

Oherwydd maint y gwaith paratoi sydd angen ei wneud yn ystod y cyfnod hwn pan nad yw trenau'n rhedeg, bydd yn golygu bod yn rhaid i ni weithio 24 awr y dydd.  Mae casgliad mawr o bobl, cyfarpar a pheiriannau yn golygu na ellir osgoi cau'r rheilffordd.

Pan fyddant wedi'u gosod, bydd y llinellau uwchben yn pweru'r trenau tram newydd, a fydd yn lleihau amseroedd teithio rhwng Merthyr Tudful a chanol dinas Caerdydd ac yn caniatáu i TrC gynyddu amlder gwasanaethau i bedwar bob awr.

 

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffordd TrC:

“Mae gennym ni dipyn o waith i’w wneud i greu Metro De Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr uwchraddiad mwyaf i isadeiledd Llinellau Craidd y Cymoedd i'r raddfa hon ers iddo gael ei adeiladu gyntaf, fel y gallwn ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach a gwyrddach y mae pobl cymoedd De Cymru yn eu haeddu.

“Tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio'n gyfrifol trwy sicrhau bod ein safleoedd yn cael eu rheoli'n dda a bod ein pobl yn ystyriol o'n cymdogion.”

Bydd y buddsoddiad yn y Metro yn gwella cysylltedd yn sylweddol gan ddarparu mynediad i swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru, trwy uno llwybrau rheilffordd, bysiau a theithio llesol.

 

Mae diweddariadau teithio a mwy o wybodaeth am Metro De Cymru ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys blog sy'n ateb rhai cwestiynau cyffredin am y gwaith o drawsnewid y Metro.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon