Newyddion

Traveline-Cymru-Nominated-In-UK-Search-Awards-2021

Traveline Cymru ar y rhestr fer mewn pedwar categori yng Ngwobrau UK Search Awards am ei ymgyrch ‘fynhaithiechyd’

29 Hydref 2021

Caiff seremoni wobrwyo UK Search Awards ei hystyried yn brif ddigwyddiad i glodfori’r gwaith a wneir ym maes Optimeiddio Peiriannau Chwilio, Talu Fesul Clic a marchnata cynnwys yn y DU.

Mae Traveline Cymru “wrth ei fodd” o fod wedi cael ei ddewis i fod yn y rownd derfynol mewn pedwar categori yng Ngwobrau UK Search Awards eleni, sy’n wobrau o fri. Mae wedi’i ddewis am ei ymgyrch fynhaithiechyd a gafodd ei lansio ym mis Mawrth 2021, mewn partneriaeth â’r asiantaeth marchnata digidol D3 (Data Driven Decisions).

Caiff seremoni wobrwyo UK Search Awards ei hystyried yn brif ddigwyddiad i glodfori’r gwaith a wneir ym maes Optimeiddio Peiriannau Chwilio, Talu Fesul Clic a marchnata cynnwys yn y DU, ac eleni mae darparwr gwybodaeth am deithio Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau ar gyfer Defnydd Gorau o Dechnegau Chwilio ym maes Teithio a Hamdden, y Trydydd Sector/Sector Dielw ac Iechyd ac yn y dosbarth ar gyfer yr Ymgyrch Gorau â Chyllideb Fach.

Cafodd Traveline Cymru, sy’n rhan o sefydliad ymbarél PTI Cymru, ei gydnabod yn y categorïau uchod o ganlyniad i’w hysbysebion digidol y talwyd amdanynt ac a ddefnyddiwyd drwy Google a Facebook i hyrwyddo’r platfform rhyngweithiol a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer pobl sy’n gwneud teithiau hanfodol i safleoedd iechyd ledled Cymru.

 

Mae gwefan fynhaithiechyd yn darparu gwybodaeth fanwl am yr opsiynau gorau o ran trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael ar gyfer pobl sy’n mynychu apwyntiadau ac ar gyfer staff sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith, p’un a ydynt yn teithio ar fysiau, trenau neu gludiant cymunedol neu’n defnyddio dulliau teithio llesol.

Cafodd y platfform ei greu gyda chymorth byrddau iechyd lleol a Teithio Llesol Cymru a’i ariannu gan Trafnidiaeth Cymru, ac mae ei gynlluniwr taith pwrpasol yn galluogi cleifion a gweithwyr allweddol i wneud y dewis mwyaf diogel ac uniongyrchol wrth gynllunio eu teithiau hanfodol i ysbytai a chanolfannau iechyd ledled Cymru ac yn eu galluogi hefyd i gael y newyddion diweddaraf am drafnidiaeth.

At hynny, mae’r wefan yn cynnwys dolenni cyswllt â chwiliwr arosfannau bysiau Traveline Cymru a’i gyfres o wasanaethau, sy’n darparu’r newyddion diweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, roedd fynhaithiechyd ar gael yn wreiddiol er mwyn cynorthwyo gweithwyr allweddol i gynllunio teithiau hanfodol i’r gwaith neu gynorthwyo aelodau’r cyhoedd i fynychu apwyntiadau iechyd. Fodd bynnag, gan fod y cyfyngiadau wedi’u llacio erbyn hyn, mae’r platfform yn cynorthwyo pobl sy’n teithio i ysbytai ledled Cymru er mwyn ymweld â pherthnasau neu ffrindiau.

Dangosodd gwaith dadansoddi fod yr ymgyrch a oedd yn targedu cynulleidfa benodol iawn wedi cyrraedd cyfran sylweddol o’r 2.5 miliwn o oedolion sy’n byw yng Nghymru, a chyfran uwch fyth o staff y GIG a phobl a oedd yn gwneud teithiau meddygol hanfodol. Llwyddodd yr ymgyrch i sicrhau dros 11,000 o gliciau i’r wefan ac 8,000 o ymwelwyr newydd, a chafodd dros 7,000 o ymweliadau newydd eu priodoli i hysbysebion digidol.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru:

“Rydym wrth ein bodd o fod wedi cyrraedd y rhestr fer mewn nid un ond pedwar categori yng Ngwobrau UK Search Awards eleni, sy’n tystio i waith caled tîm Traveline Cymru, D3 a’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn ei gyfanrwydd a gadwodd Cymru i fynd yn ystod cyfnod eithriadol o anodd i’r diwydiant.

“Ein nod oedd datblygu cynllun cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer Cymru gyfan er mwyn meithrin ymddiriedaeth yn ein gwasanaeth a meithrin ymwybyddiaeth o’n brand, ac mae’r ffaith bod y cynllun wedi llwyddo i ddenu 96% o’r sawl a ymwelodd â’r wefan yn ystod mis yr ymgyrch yn dangos iddo fod yn effeithiol tu hwnt.

“Rydym yn hynod o falch o’r gwasanaeth pwrpasol hwn sy’n cynorthwyo’r cyhoedd yng Nghymru i wneud teithiau hanfodol yn ymwneud ag iechyd. Hoffai Traveline Cymru ddiolch yn arbennig i’r holl fyrddau lleol a fu’n ymwneud â chreu’r platfform, ac i Teithio Llesol Cymru hefyd, am eu cymorth.”

 

Bydd seremoni UK Search Awards yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 16 Tachwedd 2021.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon