Newyddion

Traveline-Cymru-Marketing-Officer-Recruitment

Rydym wrthi’n recriwtio! Cyfle i gael swydd fel Swyddog Marchnata yn PTI Cymru (Traveline Cymru)

10 Tachwedd 2021

Ydych chi’n gyfathrebwr hyderus sy’n frwdfrydig ynghylch ymgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid?

Rydym yn chwilio am Swyddog Marchnata newydd i ymuno â thîm PTI Cymru er mwyn helpu i hybu ymwybyddiaeth a defnydd o’n gwasanaethau, gan gynnwys Traveline Cymru.

Os oes gennych lawer o brofiad o weithio ym maes marchnata a chyfathrebu, os ydych yn gyfathrebwr hyderus ac os gallwch hybu ein gwaith o ymgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid ar draws amrywiaeth eang o blatfformau…byddem yn hoffi clywed gennych!

 

Gallwch ymgeisio am y swydd a chael rhagor o wybodaeth amdani yma.

 

Trosolwg

Math o swydd: Llawn-amser, Parhaol

Lleoliad: Gweithio gartref gan deithio o amgylch Cymru i fynychu digwyddiadau os oes angen

Cyflog: £18,000 y flwyddyn

Oriau: O ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn barod i weithio oriau ychwanegol a gweithio ar benwythnosau os oes angen

Iaith: Saesneg, gyda’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol

 

Diben y swydd

  • Hybu’r gwaith o ymgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid
  • Cynorthwyo’r tîm marchnata i gynyddu ymwybyddiaeth a defnydd o wasanaethau PTI Cymru, gan gynnwys Traveline Cymru
  • Rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid drwy wella nodweddion ac ansawdd gwasanaethau’n barhaus
  • Denu cwsmeriaid newydd drwy ymgyrch hyrwyddo cynhwysfawr a pharhaus
  • Sicrhau bod anghenion cwsmeriaid yn cael lle blaenllaw yn holl weithgarwch ein rhanddeiliaid

 

Gofynion/Sgiliau hanfodol:

  • Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol da
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Sgiliau TG da
  • Sgiliau ysgrifennu cadarn
  • Gwybodaeth ardderchog am farchnata digidol ac am gyfryngau cymdeithasol
  • Sgiliau da o safbwynt cyflwyno adroddiadau
  • Y gallu i ddeall a dehongli data a gwybodaeth megis ymchwil i’r farchnad
  • Yn hyderus
  • Yn gallu eich cymell eich hun i weithio
  • Yn frwdfrydig
  • Yn greadigol
  • Yn ddiwyd ac yn hyblyg
  • Y gallu i weithio’n annibynnol ac mewn tîm
  • Y gallu i ymddwyn yn broffesiynol bob amser
  • Sgiliau trefnu da a’r gallu i reoli amser yn dda
  • Parodrwydd i weithio oriau ychwanegol ac ar benwythnosau os oes angen
  • Parodrwydd i deithio o amgylch Cymru pan fo hynny’n bosibl

 

Sgiliau dymunol:

  • Diddordeb mewn cynaliadwyedd a theithio gwyrdd
  • Gwybodaeth am yr agendâu o ran teithio a chynaliadwyedd yng Nghymru

 

Dyletswyddau a chyfrifoldebau

1. Cynorthwyo’r Rheolwr Marchnata i gynllunio, dylunio a gweithredu ymgyrchoedd hysbysebu, deunydd darllen a mentrau hyrwyddo PTI Cymru

2. Rheoli a diweddaru’r calendr digwyddiadau blynyddol. Bydd hynny’n cynnwys:

  • Ymchwilio’n rheolaidd i ddigwyddiadau yng Nghymru a diweddaru dyddiaduron/cynllunwyr digwyddiadau
  • Cysylltu â threfnwyr i archebu stondinau os yw hynny’n berthnasol
  • Adolygu trefnwyr yn achlysurol er mwyn sicrhau bod ein manylion cyswllt wedi’u cynnwys yn eu deunydd hyrwyddo a’u hysbysebion ac ar eu gwefannau
  • Trefnu staff ar gyfer digwyddiadau, recriwtio a chydlynu staff dros dro ar gyfer digwyddiadau, mynychu’r digwyddiadau, rheoli stoc drwy gyflenwr gwasanaethau logisteg, trafod â’r cwsmer ac arddangos y gwasanaethau
  • Trefnu digwyddiadau lansio perthnasol a threfnu gweithdai er mwyn hyrwyddo ein gwasanaethau i bob rhanddeiliad perthnasol

3. Datblygu a hyrwyddo sesiynau Hyfforddi’r Hyfforddwr a gwasanaethau Traveline Cymru+ ledled Cymru

4. Cysyllt â chydlynwyr digwyddiadau, swyddogion cynaliadwyedd, gweithredwyr trafnidiaeth, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau’r GIG, prifysgolion / colegau, cyflogwyr mawr a’r cyhoedd er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o wasanaethau Traveline Cymru.

  • Cydlynu’r gwaith o gasglu gwybodaeth a hyrwyddo gwasanaethau arbenigol megis myndibobmanfelmyfyriwr a fynhaithiechyd
  • Ymgysylltu â digwyddiadau, lleoliadau a threfnwyr er mwyn sicrhau bod Traveline Cymru yn bartner teithio a ddewisir, ac mai trafnidiaeth gyhoeddus yw’r prif opsiwn teithio ar gyfer y sawl sy’n mynychu

5. Cynorthwyo’r Rheolwr Marchnata i ddatblygu, gweithredu a monitro’r strategaeth ar gyfer y wasg a chysylltiadau cyhoeddus yn rhan o’r cynllun marchnata. Bydd hynny’n cynnwys:

  • Cael cymaint ag sy’n bosibl o gyfleoedd hyrwyddo rhad ac am ddim drwy gysylltiadau cyhoeddus ar wefannau rhanddeiliaid ac yn eu deunydd hyrwyddo
  • Enwebu gwasanaethau / cyflogwyr PTI Cymru ar gyfer gwobrau a chystadlaethau lle bo hynny’n berthnasol, er mwyn codi proffil y sefydliad
  • Mynychu a threfnu digwyddiadau a gweithdai er mwyn cael sylw gan y cyfryngau

6. Cynorthwyo’r Swyddog Cyfathrebu i reoli cynnwys a dyluniad gwefannau PTI Cymru, a fydd yn cynnwys monitro adborth ar y we a chrynhoi canlyniadau

7. Dylunio ymchwil i’r farchnad, cyflawni ymchwil o’r fath a chasglu’r canlyniadau fel y bo angen

  • Glynu wrth holl bolisïau a holl weithdrefnau’r cwmni a’u gweithredu

8. Dirprwyo dros y Rheolwr Marchnata yn ei absenoldeb/ei habsenoldeb

9. Cynorthwyo’r uwch-reolwyr i gyflawni eu dyletswyddau nhw, pan fo angen

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon