Newyddion

Traveline-Cymru-PTI-Cymru-Win-Welsh-Contact-Centre-Of-The-Year

Traveline Cymru/PTI Cymru yn ennill y wobr ‘Canolfan Gyswllt Fach y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru

22 Tachwedd 2021

Cafodd y digwyddiad ei gynnal wyneb yn wyneb ac yn rhithwir dan arweiniad y comedïwr Russell Kane.

Ar 19 Tachwedd 2021, enillodd canolfan gyswllt Gymraeg ei hiaith PTI Cymru y wobr ‘Canolfan Gyswllt Fach y Flwyddyn’ yn y seremoni wych a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd.

Roedd dros 400 o westeion yn bresennol yn y digwyddiad a gynhaliwyd wyneb yn wyneb ac yn rhithwir dan arweiniad y comedïwr Russell Kane ac a oedd yn dathlu ymroddiad a llwyddiannau’r sawl a gyrhaeddodd y rownd derfynol, o fewn y sector drwy gydol 2021.

Roedd pedwar aelod o dîm PTI yn bresennol yn y digwyddiad crand wyneb yn wyneb, ac roedd tîm y cwmni ym Mhenrhyndeudraeth wedi trefnu ei barti ei hun er mwyn gwylio’r seremoni o bell.

Owain, Tansy, Katie and Rhian at the Welsh Contact Centre Forum Awards

 

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae’r tîm dwyieithog wedi bod yn ymdrin â galwadau ar ran ei gleientiaid presennol sy’n cynnwys Traveline Cymru, fyngherdynteithio, Transport for Wales Rail Limited, NextBike UK a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac enillodd y wobr ‘Canolfan Gyswllt Fach y Flwyddyn’ am ei wasanaeth o safon i gwsmeriaid ac am y modd y llwyddodd i gynyddu nifer ei gleientiaid drwy gydol 2020/21 a’r pandemig coronafeirws.

Yn ystod y llynedd yn unig, llwyddodd y ganolfan gyswllt sy’n cyflogi 38 o bobl i ddenu un ar ddeg o gleientiaid newydd uchel eu proffil y mae Traveline UK, Cadw a Chwaraeon Cymru yn eu plith, sy’n golygu bod y cwmni wedi cynyddu nifer ei staff yn sylweddol.

Mae twf parhaus y tîm yn cyd-fynd â’i allu i ddarparu gwasanaeth o safon i gwsmeriaid drwy ei wasanaethau ymdrin ag ymholiadau cyffredinol, ei wasanaethau derbynfa a’i wasanaethau ymdrin â chwynion dros y ffôn, drwy ebost ac ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr PTI Cymru, ar ôl ennill y wobr:

“Rydym wedi wynebu llawer o heriau yn ystod 2021 ond mae’n wir dweud ein bod wedi llwyddo i’w goresgyn i gyd. Mae ennill y categori hwn a oedd yn cynnwys y goreuon yng Nghymru yn golygu cymaint i ni, ac mae’n cadarnhau mor galed y mae ein staff yn gweithio ac yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu adnoddau heb eu hail i bobl Cymru a’n cleientiaid yn ystod cyfnod mor heriol.”

 

Mae PTI yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn gallu cynnal gwasanaeth o safon i gwsmeriaid drwy ei wasanaethau ymdrin ag ymholiadau cyffredinol, ei wasanaethau derbynfa a’i wasanaethau ymdrin â chwynion dros y ffôn, drwy ebost ac ar gyfryngau cymdeithasol, a llwyddodd i sicrhau sgôr o 98.4% am lefelau bodlonrwydd ei gwsmeriaid mewn ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf.

Mae cyflawniadau’r ganolfan gyswllt yn fwy trawiadol fyth o gofio’r pandemig COVID-19. Cyn pen wythnos wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rheolau’r cyfnod clo, gofynnwyd i dimau ar draws y cwmni weithio gartref er mwyn sicrhau eu bod nid yn unig yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth o safon a diweddariadau hollbwysig i’w cwsmeriaid ond eu bod hefyd yn gallu gofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain.

Cafodd system deleffoni newydd ei chyflwyno er mwyn gwella cysylltiadau â chwsmeriaid a sicrhau bod pobl yn medru cael y manylion diweddaraf am deithio yn ystod y cyfnod clo, a chafodd gwybodaeth am wasanaethau hanfodol a diogelwch ei rhannu drwy’r dudalen ‘Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth’ er mwyn sicrhau bod gweithwyr allweddol a phobl eraill yr oedd angen iddynt deithio yn gallu gwneud hynny’n hyderus ac yn ddiogel. Llwyddodd tîm gofal cwsmer PTI i ragori hefyd drwy ddarparu cyfleusterau canolfan gyswllt ar gyfer y gwasanaeth Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol a’r Eisteddfod Genedlaethol, ar ôl iddynt orfod cau eu swyddfeydd oherwydd y pandemig a thra oeddent yn gwneud trefniadau i’w staff weithio gartref.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon