Newyddion

Free-Bus-Travel-In-Newport-During-December

Teithiau am ddim ar fysiau yng Nghasnewydd o 1 Rhagfyr tan 24 Rhagfyr 2021

01 Rhagfyr 2021

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn talu cost unrhyw deithiau sy’n dechrau ac yn gorffen o fewn terfynau’r ddinas.

Mae cynllun i gynnig teithiau am ddim ar fysiau i deithwyr o fewn Casnewydd yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig yn cael ei ymestyn, a bydd yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos* o 1 Rhagfyr tan 24 Rhagfyr. Bydd y cynllun yn cynnwys pob taith sy’n dechrau ac yn gorffen o fewn terfynau’r ddinas, a bydd gwasanaethau a weithredir gan Newport Bus, Stagecoach a Bws Caerdydd yn rhan o’r cynnig.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd y gwasanaeth fflecsi sy’n gweithredu yn y ddinas, a gomisiynir ac a ariennir ganddo, yn darparu’r un cynnig.

 

Meddai’r Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

“Mae ein menter wedi cael adborth cadarnhaol tu hwnt. Rydym am annog ein trigolion i aros yn y ddinas a siopa’n lleol, gan deithio mewn modd cynaliadwy.

“Y bwriad i ddechrau oedd darparu’r cynnig o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn unig, ond erbyn hyn rydym wedi ychwanegu dydd Sul hefyd er mwyn helpu pobl yn fwy fyth wrth i’r Nadolig nesáu.

“Rydw i wrth fy modd bod Trafnidiaeth Cymru wedi dilyn ein hesiampl, ar ôl iddo gadarnhau y bydd teithiau ar wasanaethau fflecsi yn y ddinas yn deithiau rhad ac am ddim hefyd yn ystod yr un cyfnod.”

 

Newport Bus

Bydd modd teithio am ddim ar bob un o wasanaethau Newport Bus os yw’r teithiwr yn dod ar y bws ac yn mynd oddi arno o fewn terfynau dinas Casnewydd. Mae’r cynllun yn cynnwys pob un o wasanaethau Newport Bus yng Nghasnewydd, yn ogystal â gwasanaethau fflecsi.

Bydd yn ofynnol i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach sganio eu cardiau fel arfer. Bydd angen i deithwyr sy’n teithio allan o Gasnewydd neu i mewn i Gasnewydd o ardaloedd awdurdodau lleol eraill brynu eu tocynnau arferol. 

Mae mwy o wybodaeth i’w chael ar wefan Newport Bus.

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd cwsmeriaid sy’n teithio ar wasanaethau 50, 50A, 56, 151, R1, X3, X15, X24 a 23, ac sy’n dod ar y bws ac yn mynd oddi arno wrth arosfannau ym mharth tocynnau Casnewydd, yn gallu teithio am ddim.

Bydd angen o hyd i unrhyw gwsmeriaid sy’n dod ar y bws neu’n mynd oddi arno y tu allan i barth tocynnau Casnewydd brynu eu tocynnau arferol, ac ni fyddant yn gymwys i deithio am ddim. 

Mae mwy o wybodaeth i’w chael ar wefan Stagecoach yn Ne Cymru.

 

Bws Caerdydd

Bydd modd teithio am ddim ar bob un o deithiau gwasanaeth 30 os yw’r teithiwr yn dod ar y bws ac yn mynd oddi arno o fewn terfynau dinas Casnewydd.

Bydd yn ofynnol i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach sganio eu cardiau fel arfer. Bydd angen i deithwyr sy’n teithio allan o Gasnewydd i Gaerdydd, neu i mewn i Gasnewydd o Gaerdydd, brynu eu tocynnau arferol. 

Mae mwy o wybodaeth i’w chael ar wefan Bws Caerdydd.

 

Fflecsi

Bydd gwasanaethau fflecsi yn y ddinas yn cynnig teithiau am ddim hefyd yn ystod y cyfnod hwn.

 

*Adventure Travel

Free bus travel for the R1 service within the boundary of Newport on Sundays.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Casnewydd

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon