Newyddion

Caerdydd yn lansio deg diwrnod o docynnau bws am £1 yn y cyfnod cyn y Nadolig

Caerdydd yn lansio deg diwrnod o docynnau bws am £1 yn y cyfnod cyn y Nadolig

02 Rhagfyr 2021

Mae tocyn bws newydd am £1 i gymell teithio ar fws y tu allan i’r oriau brig yn dod i Gaerdydd yn y cyfnod cyn y Nadolig.

O Ddydd Gwener, 3 Rhagfyr, hyd at ac yn cynnwys Dydd Iau, 16 Rhagfyr, bydd y cynnig – a fydd yn ddilys o Ddydd Llun i Ddydd Gwener bob wythnos - ar gael gan bob cwmni bysiau sy'n gweithredu gwasanaethau yn y ddinas sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Bydd pob tocyn sengl ar ôl 9.30am - sy'n gadael ac yn cyrraedd o fewn ffiniau Caerdydd - yn gostwng i £1.

Mae Bws Caerdydd, Stagecoach, Adventure Travel, Edwards Coaches a First Cymru i gyd wedi ymuno â chynllun Cyngor Caerdydd. 

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: 

"Gwella teithio ar fysiau yw un o'r prif flaenoriaethau a nodir yng ngweledigaeth drafnidiaeth 10 mlynedd y cyngor.  Rydym am ddyblu nifer y bobl sy'n teithio ar fws yn y ddinas erbyn 2030, felly rydym am weld pa effaith y gallai tocyn bws gwerth £1 ei chael ar ymddygiad pobl.

"Mae'r data diweddaraf yn dangos bod lefelau traffig yn y ddinas, a theithio ar fysiau yn ystod oriau brig, wedi dychwelyd i ychydig yn is na’r lefelau cyn covid. Fodd bynnag, mae teithio ar fws i fynd i'r siopau neu weithgareddau hamdden eraill ond ar tua 80% y lefelau a welwyd cyn i'r pandemig ddechrau.

"Rydym yn gobeithio y bydd yr arbrawf â chymhorthdal hwn yn annog pobl yn ôl ar drafnidiaeth gyhoeddus a hyd yn oed yn temtio defnyddwyr ceir i roi cynnig ar deithio ar fysiau. Wrth i ni wynebu'r argyfwng hinsawdd, mae dod o hyd i ffyrdd o argyhoeddi'r cyhoedd i ddod allan o'u ceir ac i ddefnyddio bws, cerdded neu feicio i'r gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld canlyniad yr arbrawf hwn. Byddwn yn gallu cymharu unrhyw gynnydd yn y niferoedd sy'n teithio ar fws yn erbyn y gost o roi cymhorthdal i'r gwasanaethau hyn. Bydd hyn yn ein galluogi i weld a yw cynlluniau cymhelliant fel hyn yn gweithio'n ymarferol."

Dim ond yn ei rhinwedd ei hun y gellir defnyddio'r cynllun hyrwyddo hwn ac ni ellir ei ddefnyddio gydag unrhyw gynnig arall sydd ar gael gan y cwmnïau bysiau neu gynllun Fy Ngherdyn Teithio sydd eisoes yn cael cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r tocyn bws am £1 y tu allan i’r oriau brig ar gyfer tocyn sengl unffordd yn unig. Os oes angen i gwsmer gyfnewid rhwng gwahanol ddarparwyr bysiau i gyrraedd eu cyrchfan, yna bydd gofyn iddynt dalu £1 i'r gweithredwr bysiau ar gyfer pob cam o'u taith.

 

Dwedodd Barclay Davies, Cyfarwyddwr Defnyddwyr Bysiau Cymru:

"Rydym yn croesawu'r fenter hon i gymell teithio ar fws y tu allan i’r oriau brig a lleihau tagfeydd yng Nghanol y Ddinas, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'n gyfle delfrydol i'r rhai nad ydynt yn teithio ar fws yn rheolaidd i adael y car gartref a gweld pa mor hawdd ac effeithiol y gall teithio ar fysiau fod ar yr un pryd â gwella ansawdd yr aer i bawb."

 

Dwedodd Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH:

"Mae hwn yn gynnig gwych i sicrhau bod pobl yn ystyried opsiwn gwyrdd a rhatach er mwyn mentro i ganol y ddinas ar gyfer siopa, hamdden neu waith ar adeg mor hanfodol i fusnesau.  Bydd yn ddiddorol iawn defnyddio'r data hefyd i weld beth fydd y galw ac os yw'n gynnig digon cryf i weld newid yn arferion a chanfyddiadau teithio pobl."

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild:

"Gyda thymor y Nadolig ar y gorwel, rydym yn gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cynnig hwn, a thrwy weithio gyda'r holl gwmnïau bysiau sy'n gweithredu yng Nghaerdydd, rydym yn bwriadu archwilio cynlluniau cymhelliant eraill i wneud teithio ar fysiau yn opsiwn mwy deniadol a hyfyw i drigolion a chymudwyr ei ddefnyddio."

Mae'r Cyngor wedi lansio ymgynghoriad strategaeth fysiau yn ddiweddar i gasglu barn y cyhoedd ar sut y gellir gwella gwasanaethau bysiau ledled Caerdydd.  Gall unrhyw un sydd am gymryd rhan yn yr arolwg wneud hynny yma.

 

Mae’n hanfodol gwisgo mygydau ymhob man cyhoeddus dan do, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis. Mae’r wybodaeth i gyd ar gael yma:  Gorchuddion wyneb: canllawiau i'r cyhoedd | LLYW.CYMRU

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon