Newyddion

Ramblers-Cymru-Path-To-Wellbeing-Project-Announcement

Ramblers Cymru yn cyhoeddi’r cymunedau a ddewiswyd i gymryd rhan yn y prosiect ‘Llwybrau i Lesiant’

14 Rhagfyr 2021

Mae prosiect Llwybrau i Lesiant Ramblers Cymru, a arweinir gan gymunedau ac sy’n cael cyllid gwerth £1.2 filiwn, yn ceisio trawsnewid arferion cerdded a byd natur ar draws 18 o ardaloedd.

Mae hwn yn ddatganiad i’r wasg gan Ramblers Cymru.

 

Gyda chymorth 6 swyddog rhanbarthol, bydd Ramblers Cymru yn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael yr adnoddau a’r hyfforddiant angenrheidiol i ddod o hyd i lwybrau newydd a’u dylunio, a gwella llwybrau sy’n bodoli’n barod. Bydd hynny’n helpu i ddarparu mannau pwysig i wella llesiant corfforol a meddyliol y cymunedau dan sylw. 

 

Meddai Sophie Jenkins sy’n byw ym Mrynberian, sef un o’r ardaloedd a ddewiswyd:

“Byddem wrth ein bodd yn cynnwys teuluoedd a phlant lleol yn y prosiect, gan eu hysbrydoli i berchenogi eu ‘milltir sgwâr’ a’i gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y prosiect hefyd yn fanteisiol i’n bywyd gwyllt yn lleol, ac rydym yn gobeithio y bydd yn rhywfaint o help i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gwarchod ein hamgylchedd lleol.” 

Mae Llwybrau i Lesiant yn brosiect a arweinir gan gymunedau. Drwy gydol mis Hydref, buodd y swyddogion rhanbarthol yn cynnal digwyddiadau ymgynghori er mwyn gwrando ar farn pobl leol a dysgu mwy am anghenion pob cymuned. 

 

Meddai Hannah Wilcox-Brooke, Rheolwr y Prosiect:

“Mae hwn yn gyfle gwych i weithio ar lawr gwlad, gan ystyried mynediad i gyfleoedd cerdded yng Nghymru. Mae wedi bod yn braf manteisio ar wybodaeth y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau a ddewiswyd. Maent eisoes wedi dangos cymaint o egni a brwdfrydedd i wella byd natur a mynediad i gyfleoedd cerdded yn eu hardaloedd.

“Rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld y gwaith yn dechrau ar lawr gwlad. Mae amrywiaeth y cymunedau’n ddiddorol dros ben. Mae gan bob cymuned ei hunaniaeth a’i nodweddion unigryw ei hun, ond yr hyn sy’n gyffredin i bob un ohonynt yw eu hangerdd. Dechreuodd llawer o bobl gerdded yn fwy lleol yn ystod y pandemig, a bydd y gwaith hwn yn ei gwneud yn haws fyth i’r cymunedau hynny gael mynediad i lwybrau a mwynhau manteision bod ynghanol byd natur.” 

Drwy ymuno â’r prosiect, bydd pobl leol yn gallu dysgu sgiliau newydd er mwyn helpu i wneud eu cymuned yn lle mwy gwyrdd a mwy hygyrch i bawb.  



Meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:

“Mae’n wych gweld prosiect arall yn cychwyn gyda chymorth ein Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant. Mae’n bwysig bod pob un ohonom yn gallu cael mynediad i fannau gwyrdd o safon, sy’n hybu byd natur ac sy’n darparu cymaint o gyfleoedd i wella ein hiechyd a’n llesiant.  

“Mae’r mannau hyn yn hollbwysig i’n cymunedau er mwyn i ni allu dod ynghyd a mwynhau ein hardaloedd lleol. Mae’r prosiect hwn a llawer o rai eraill sy’n cael cymorth gan ein rhaglenni grant yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i greu mannau gwyrdd a’u gwella yn sylweddol.” 



Bydd Ramblers Cymru yn gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaethau Natur Cymru a Coed Cadw, a bydd elfen allweddol o’r prosiect yn canolbwyntio ar wella byd natur. Bydd y gwirfoddolwyr yn gwneud eu cymuned yn fwy gwyrdd er mwyn i fyd natur allu ffynnu, a bydd yn gyfle gwych i ddod â’r gymuned ynghyd.   

Gyda gweithgareddau megis plannu coed, hau hadau blodau gwyllt a chynnal diwrnodau o weithgareddau bywyd gwyllt, bydd yna rywbeth y gall pawb o bob oed a phob cefndir gymryd rhan ynddo. 

Dyma’r cymunedau a ddewiswyd: 

Y gogledd-ddwyrain

  • Cwm Clywedog/Parc Caia (Wrecsam) 
  • Pwll Glas/Graig Fechan (Sir Ddinbych) 
  • Llanfynydd (Sir y Fflint) 

 

Y gogledd-orllewin 

  • Ynys Gybi (Ynys Môn) 
  • Penmaenmawr (Conwy) 
  • Penrhyndeudraeth (Gwynedd) 

 

Y canolbarth 

  • Llechryd (Ceredigion) 
  • Penparcau (Ceredigion)
  • Rhaeadr Gwy a Llanwrthwl (Powys) 

 

Y de-ddwyrain

  • Y Grysmwnt (Sir Fynwy) 
  • Maendy (Casnewydd)
  • Six Bells (Abertyleri) 

 

Y de-orllewin

  • Brynberian (Sir Benfro) 
  • Llanybydder (Sir Gaerfyrddin) 
  • Ystalyfera (Castell-nedd Port Talbot) 

 

Cymunedau a allai newid: 

Canol y de 

  • Treherbert (Rhondda Cynon Taf)
  • Creigiau, Pentyrch a Gwaelod-y-garth (Caerdydd)
  • Coety Uchaf (Pen-y-bont ar Ogwr) 

 

I gael gwybod mwy neu gymryd rhan mewn cymuned yn eich ardal chi, ewch i: www.ramblers.org.uk/pathstowellbeing

Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Ramblers Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon