Newyddion

Traveline-Cymru-Christmas-New-Year-Travel-Information

Ble mae dod o hyd i wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus os byddwch yn teithio dros yr ŵyl

16 Rhagfyr 2021

Mae Traveline Cymru yn pwyso ar aelodau’r cyhoedd i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus drwy fynd i’w dudalen bwrpasol ar gyfer Gwybodaeth ynghylch Teithio dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. 

Caiff y sawl sy’n bwriadu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd eu cynghori i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw, oherwydd disgwylir newidiadau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus rhwng 24 Rhagfyr a 3 Ionawr a disgwylir y bydd nifer fach o weithredwyr yn gwneud newidiadau o 21 Rhagfyr ymlaen.

Mae Traveline Cymru yn pwyso ar aelodau’r cyhoedd i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus drwy fynd i’w dudalen bwrpasol ar gyfer Gwybodaeth ynghylch Teithio dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Fodd bynnag, caiff cwsmeriaid eu hatgoffa hefyd y gallai’r wybodaeth honno newid ar fyr rybudd, felly bydd angen iddynt wirio’r wybodaeth mor agos ag sy’n bosibl i’r diwrnod y byddant yn teithio.

Bydd gwasanaethau rhai gweithredwyr yn gorffen yn gynnar ar Noswyl Nadolig, Nos Galan a diwrnodau eraill dros yr ŵyl, ac ni fydd llawer o wasanaethau bws a thrên yn gweithredu o gwbl ar Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan nac ar Ddydd Calan.

Mae tîm data Traveline Cymru wedi bod wrthi’n ddiwyd yn diweddaru cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl ar Gynlluniwr Taith Traveline Cymru, ei dudalen Amserlenni a’i Fap Teithio. Os bydd unrhyw newidiadau byr rybudd i amserlenni, y caniateir i weithredwyr trafnidiaeth eu gwneud ar hyn o bryd oherwydd effaith barhaus prinder gyrwyr, bydd cwsmeriaid yn cael gwybod amdanynt drwy dudalen problemau teithio ‘Diweddariadau Byr Rybudd am Wasanaethau’ Traveline Cymru.

Mae Traveline Cymru hefyd yn annog y cyhoedd i gofio glynu wrth ganllawiau COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru pan fyddant yn cynllunio eu teithiau. Yng Nghymru, mae gwisgo gorchudd wyneb drwy gydol eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ofyniad cyfreithiol, oni bai eich bod wedi eich eithrio. Mae hwn yn fesur pwysig er mwyn helpu i ddiogelu’r sawl sy’n dal yn agored i niwed oherwydd y Coronafeirws.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru:

“Rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i ystyried yn ofalus y teithiau y byddant yn eu gwneud y Nadolig hwn, yng ngoleuni’r datblygiadau ansicr o ran COVID-19 a’r canllawiau, ond rydym yn sylweddoli y bydd angen i lawer o bobl deithio er hynny. Mae’n bwysig cofio, felly, y gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus newid ar fyr rybudd yn ystod y cyfnod hwn.”

“Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, rydym yn pwyso ar aelodau’r cyhoedd i ddilyn y rheolau a gwisgo gorchudd wyneb tra byddant yn defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth, er mwyn lleihau’r siawns o ddal a lledaenu’r Coronafeirws. Gall pobl gael gafael ar wybodaeth am deithio ac am COVID-19 mewn nifer o ffyrdd – drwy’r tudalennau pwrpasol sydd gennym ar ein gwefan ddwyieithog, drwy ein rhif Rhadffôn, a thrwy ein gwasanaethau ar gyfer dyfeisiau symudol – er mwyn i ni allu cadw Cymru i symud dros wyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, a hynny yn y ffordd fwyaf diogel posibl.”

 

Gall cwsmeriaid gynllunio eu teithiau drwy fynd i’n gwefan ddwyieithog neu ddefnyddio’r ap ar gyfer dyfeisiau symudol, y gwasanaeth negeseuon testun neu’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.

Fel arall, gall cwsmeriaid ffonio llinell Traveline Cymru ar gyfer gwasanaethau i gwsmeriaid, sef y rhif Rhadffôn 0800 464 0000, a fydd ar agor bob dydd dros yr ŵyl ar wahân i Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan. Bydd y llinell gymorth ar agor am lai o oriau nag arfer hefyd ar Noswyl Nadolig a Dydd Calan.

 

Mae Traveline Cymru, sy’n rhan o’r sefydliad ymbarél PTI Cymru, yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog.    

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon