Newyddion

Transport-for-Wales-Updates-Emergency-Timetable

Trafnidiaeth Cymru yn diweddaru ei amserlen argyfwng

31 Rhagfyr 2021

Gofynnir i deithwyr rheilffordd wirio cyn teithio wrth i Drafnidiaeth Cymru ddiweddaru ei amserlen reilffordd frys o ddydd Llun 3 Ionawr.

Dyma ddatganiad i’r wasg gan Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

 

Mae TrC a Network Rail wedi parhau i weld cynnydd sylweddol yn absenoldebau staff o ganlyniad i'r don ddiweddaraf hon o bandemig Covid-19 ac mae hyn wedi effeithio ar wasanaethau rheilffordd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

O ganlyniad, cyhoeddodd TrC amserlen reilffordd frys ar 22 Rhagfyr, a oedd yn cyfateb i ostyngiad rhwng 10-15% o'r amserlen safonol a gyhoeddwyd ar 12 Rhagfyr.  Fodd bynnag, gydag absenoldebau staff yn parhau i gynyddu, penderfynwyd lleihau gwasanaethau ymhellach er mwyn sicrhau y gall y cwmni ddarparu gwasanaeth dibynadwy trwy gydol y cam diweddaraf hwn o'r pandemig.

Mae'r amserlen newydd yn cyfateb i ostyngiad pellach o 10-15% o'r amserlen a gyflwynwyd ar 22 Rhagfyr, gyda ffocws ar rannau o'r rhwydwaith reilffyrdd yn dioddef o absenoldebau staff arbennig o uchel.  Mae'r datblygiad hwn yn unol â gostyngiadau gwasanaeth yn cael eu cyflwyno gan weithredwyr eraill ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Prydain gyfan.

Bydd yr amserlen newydd yn parhau i fod yn gyfredol dros yr wythnosau nesaf ac yn cael ei hadolygu'n rheolaidd wrth i'r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru fonitro'r effaith y mae'r amrywiad Omicron newydd hwn yn ei gael ar lefelau staffio.

Anogir pob cwsmer i ymweld â www.trc.cymru cyn teithio a dilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Jan Chaudhry-Van de Velde, Rheolwr Gyfarwyddwr TfW Rail:

“Rydyn ni'n delio i raddau helaeth â'r don Omicron o heintiau Covid ac, fel llawer o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus, rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yn absenoldebau cydweithwyr dros yr wythnosau diwethaf.

“Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i redeg gwasanaeth mor ddibynadwy â phosibl i'n cwsmeriaid ac felly rydym yn cyflwyno amserlen ddiwygiedig o 3 Ionawr, gan leihau'r risg o orfod canslo gwasanaethau ar fyr rybudd.

“Lle bynnag y gallwn, byddwn yn defnyddio unrhyw gerbydau ychwanegol sydd ar gael oherwydd yr amserlen lai i redeg trenau hirach, i gynorthwyo gyda phellter cymdeithasol.  Byddwn hefyd yn darparu cludiant ychwanegol ar y ffyrdd hefyd, lle bo hynny'n bosibl.

“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn rhwystredig i rai cwsmeriaid, ac nid ydym wedi gwneud y penderfyniad hwn ar chwarae bach.  Gofynnwn i bob cwsmer wirio ar-lein cyn teithio a dilyn cyngor cyfredol y llywodraeth.  Ein nod yw adfer yr amserlen cyn gynted ag y bydd cyfraddau absenoldebau a achosir gan y don hon o'r pandemig yn caniatáu.”

Bydd cwsmeriaid sydd eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer gwasanaethau y mae'r newid hwn yn effeithio arnynt yn gallu defnyddio eu tocynnau ar wasanaethau rheilffordd TrC eraill. Fel arall, byddant yn gallu gofyn am ad-daliad trwy ymweld â www.trc.cymru.

 

Bydd y llwybrau canlynol yn gweld gwasanaethau bws newydd yn disodli holl wasanaethau rheilffordd TrC:

  • Llandudno-Blaenau Ffestiniog
  • Caer-Lerpwl
  • Casnewydd-Crosskeys

 

Bydd y llwybrau canlynol yn gweld nifer o wasanaethau rheilffordd TrC yn cael eu canslo trwy gydol y dydd:

  • Treherbert-Caerdydd Canolog
  • Pontypridd-Caerdydd
  • Ynys y Barri-Caerdydd / Pen-y-bont ar Ogwr
  • Penarth-Caerdydd-Rhymni
  • Caerdydd-Canolog - Radur ar Linell y Ddinas
  • Bae Caerdydd-Coryton

 

Cytunwyd y bydd Bws Caerdydd yn derbyn tocyn trên ar bob llwybr lleol i ategu at wasanaethau rheilffordd, a bydd Stagecoach De Cymru yn derbyn tocynnau trên hefyd ar lwybrau bysiau lleol 56 a 151.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon